Digwyddiadur: 4-10 Ebrill 2005

Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.

Dydd Mawrth, Ebrill 05

CYD Aberteifi (nos)
Y Llew Du, Aberteifi, bob nos Fawrth am 7.30.
Cysylltydd/Contact: Mair David 01239 612148

Dydd Mercher, Ebrill 06

CYD Llangrannog
Y Ship, Llangrannog, Nos Fercher 1af a 3ydd y mis, 7.30yh tan stop tap.
Siarad anffurfiol.
Cysylltydd/Contact: Nic a Philippa 01239 654561

Dydd Iau, Ebrill 07

CYD Llandudoch
Caffi Theatr Mwldan, bob bore Iau am 12.00.
Cysylltydd/Contact: Rosi Bunce 01239 621 812

Drama Menter Bro Teifi
Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre
Menter Bro Teifi yn cyflwyno drama newydd am brofiadau pobl sy’n symud i fyw yng nghefn gwlad Cymru.
I ddechrau am 7.30yh
Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50
Manylion pellach: http://morfablog.com/archif/2005/04/03/drama-am-ddysgwyr-menter-bro-teifi/

Dydd Gwener, Ebrill 08

CYD Aberteifi (dydd)
Caffi Theatr Mwldan, bob bore Gwener am 11.30.

Drama Menter Bro Teifi
Festri Aberduar, Llanybydder
Menter Bro Teifi yn cyflwyno drama newydd am brofiadau pobl sy’n symud i fyw yng nghefn gwlad Cymru.
I ddechrau am 7.30yh
Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50
Manylion pellach: http://morfablog.com/archif/2005/04/03/drama-am-ddysgwyr-menter-bro-teifi/

Dydd Sadwrn, Ebrill 09

Drama Menter Bro Teifi
Neuadd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul
Menter Bro Teifi yn cyflwyno drama newydd am brofiadau pobl sy’n symud i fyw yng nghefn gwlad Cymru.
I ddechrau am 7.00yh nid 7.30 fel dwedwyd yn y cylchlythyr
Pris i oedolion: £2.50
Pris consessiwn : £1.50
Manylion pellach: http://morfablog.com/archif/2005/04/03/drama-am-ddysgwyr-menter-bro-teifi/

Am eich dyddiadur / For your diary

Dydd Iau, 14 Ebrill 2005

CYD Abergwaun: Noson yn Rosebush
Noson ar y cyd â CYD Hwlffordd. 8.30yh, Y Dafarn Sinc, Rosebush, Sir Benfro.

Dydd Gwener, 15 Ebrill 2005

CYD Bro’r Preseli – Bore Coffi a Ffair Wanwyn
Crymych Arms, Y Sgwar, Crymych. 10.30 y bore.
Gwerthiant – stondinau llyfrau, cacennau, bric a brac a raffl. Mynediad £1.
Bring and Buy – books, cakes, bric a brac and raffle. Entry £1.)

18-23 Ebrill 2005

Gŵyl y Cyfarwydd
Celwydd gole, cymeriadau slawer dydd, hanes, chwedloniaeth a straeon ysbryd. Dyna swm a sylwedd Gwyl y Cyfarwydd – gwyl a fydd yn dathlu dawn storiwyr ddoe a heddi. O storis am Ladi Wen a Bwci Bo hyd at y stori fawr am yr aderyn mawr-mawr yn cipio bachan yn Nihewid a’i hedfan mas i Efrog Newydd! O straeon sydd gannoedd o flynyddoedd oed hyd at storis am gymeriade sy’n dal yn fyw ac yn ddrygionus o iach y dydd hwn.

O Fanc Sion Cwilt i Lanwenog i odre’r Mynydd Bach i Ddyffryn Aeron, mi fydd y cyfan yn rhan o fwrlwm Gwyl y Cyfarwydd.

[This festival aims to celebrate and reinvigorate the art of the Storyteller. The Welsh courts of the middle ages had in their employ a poet, a minstrel and a storyteller (‘Y Cyfarwydd’). Although professional storytellers are few and far between in Wales today the art of storytelling is still very much alive. Indeed, it is an essential part of the vibrant culture of Welsh speaking communities.]

Manylion: http://www.ycyfarwydd.com/

Dydd Sadwrn, 23 Ebrill 2005

Taith gerdded: Traeth y Mwnt a’r Cyffiniau
Cymdeithas Edward Llwyd
Creigiau, gwaddodion a thirffurfiau rhewlifol, a fflora’r traeth. Tua 5-6 milltir, cymedrol ond ambell lwybyr serth. Cwrdd am 10.30 ym Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (pris tocyn parcio £2.00)
Arweinydd/Manylion: Dyfed Elis Gruffydd (01239 698689)
[A guided walk, yn y Gymraeg.]

29 Ebrill – 1 Mai 2005

Penwythnos CYD yn Nant Gwrtheyrn
Penwythnos llawn o weithgareddau lan yn y Gogledd.
Manylion: Jaci Taylor 01970 622143

Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2005

Taith gerdded: Hanes Llangrannog
Cymdeithas Edward Llwyd
Cwrdd ym maes parcio Neuadd Pontgarreg am 10.30 yb.
Arweinydd/Manylion: Jon Meirion Jones 01239 654309
[A guided walk, yn y Gymraeg.]

Dydd Llun, 2 Mai 2005

Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog
Yn Ysgol Gymunedol Maenclochog
Manylion: Heather Jenkins (Ysgrifenyddes) 01437 532392

20 – 23 Mai 2005

Penwythnos o Gerdded Cymraeg
Teithiau cerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro. Rhaid bwco lle cyn 22 Ebrill.
(Guided walks on the Pembs Coast Path. Learners welcome. Places to be booked by 22 April.)
Manylion: 01437 720392

Gwefannau o ddiddordeb

Cymdeithas Edward Llwyd

http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Mae’r Gymdeithas yn drefnu teithiau cerdded wythnosol trwy Gymru gyfan, gyda phwyslais arbennig ar godi ymwybodaeth o fyd natur a hanes Cymru.
[The Welsh Naturalists Society]

MP3 yr Wythnos

Y Cyrff – Cymru, Lloegr a Llanrwst

http://maes-e.com/mp3/05/04/cymru_lloegr_a_llanrwst.mp3

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>