Newydd sylweddoli, wrth edrych ar luniau Dogfael o dai yn Aberaeron, ei fod e wedi defnyddio’r tag Flickr tai i’w desgrifio, sy’n gweithio yn iawn ar lefel un defnyddiwr, ond sy ddim mor ddefnyddiol pan ti’n edrych ar luniau “tai” pawb. Cymherer â lluniau “houses” pawb.
Tybed a fyddai’n bosibl/ymarferol i Flickr ychwanegu “uwchdagiau” (meta-tags) sy’n dweud ym mha iaith mae tagiau penedol?
Fydd hyn ddim yn digwydd yn aml, wrth gwrs, ond bydd yn digwydd yn fwy aml wrth i Flickr dyfu.