Monthly Archives: Ebrill 2005
Cardiff Observer
(This post has an English version. Yes, it’s another of those “politicians and the IntarWeb” stories.) Stori fach neis arall ar y maes sy’n dangos nad oes monopoli ar fod yn ddi-glem ’da Plaid Lafur. Yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholaeth [Gogledd Caerdydd] yma yw Jonathan Morgan, aelod o’r Cynulliad ar hyn o bryd. Mae [...]
Diwrnodau bishi
Diwrnod braidd yn afreal ddoe, gan i mi fynd i angladd Gwynfor yn Aberystwyth ac wedyn gyrru lawr i Gaerdydd i weld Loudon Wainwright III yn Neuadd Dewi Sant. Sôn am emotional rollercoasters. Profiad anhygoel oedd cael bod yn bresennol yn yr angladd. Dw i’n siwr bod llawer yn gallu dweud yr un peth, ond [...]
Adolygiadau Prysor Pamffledi’r Pleidiau
Yn ôl y Sun, hwn yw’r etholiad cyffredinol mwya diflas yn hanes y byd erioed. Dydy’r Sun ddim yn darllen maes-e, mae’n amlwg. Dros y wythnos neu ddwy diwetha mae Dewi Prysor wedi bod yn postio adolygiadau o hysbysebion-trwy’r-drws gan y Pleidiau Mawrion, ac UKIP hefyd. Dyma nhw, ddim mewn unrhyw drefn arbennig: Plaid Cymru [...]
Y Celfi Cam
CD yn y post y bore ’ma, sef detholiad o bedwar trac gan Y Celfi Cam, band Norman Lewis a Dilwyn Gregory. Mae Norman wedi rhoi caniatâd i mi rannu cwpl o’r traciau gyda chi, ddarllenwyr annwyl, felly dyma’r ddau drac sy wedi dal fy ffansi, ar ôl un gwrandawiad byr. Y Celfi Cam – [...]
Plaid Cymru i ennill Battersea
Stori yn y WM: An intriguing political experiment conducted by BBC’s Newsnight programme has concluded that Plaid Cymru could be the most popular party in at least one inner London district. Da iawn Mabs. Dw i’n siwr nad oes unrhyw sail i’r si ar led ar y maes bod Newsnight yn cysidro beidio darlledu’r eitem [...]
Digwyddiadur: 25 Ebrill – 1 Mai 2005
Digwyddiadau i ddysgwyr (ac eraill) yn Ne Ceredigion am yr wythnos sy’n dod.
Gwynfor wedi mynd
Newydd glywed bod Gwynfor Evans wedi marw.
Sgiliau Sylfaenol, wir yr
Wnes i bron â phrynu pecyn o gardiau treigladau o’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, nes i mi sylweddoli (o’r ffeil PDF) bod tri chamgymeriad arnyn nhw. Dau a hanner, os ti’n teimlo yn garedig.
Cymdeithas v. Radio Carmarthenshire
Yn yr achos llys ddoe yn erbyn yr aelodau Cymdeithas yr Iaith a wnaeth torri ar draws rhaglenni uniaith Saesneg Radio Carmarthenshire wnaethpwyd pwynt diddorol gan un o’r protestwyr, sef bod y cwmni wedi defnyddio’r protest er mwyn cael carpedi (a chyfrifiadur) newydd mas o bocedi’r protestwyr. Gweler blog Steffan Cravos am y stori lawn. [...]
Digwyddiadur: 2 – 8 Mai 2005