Cymraeg ar dy borwr

Rhywbeth dw i wedi sgwennu amdano o’r blaen, yw’r gallu o newid gosodiadau ar fy borwr i ddweud bod gwell ’da ti’r Gymraeg, lle mae ar gael. Yn yr erthygl (Saesneg) hon mae’r awdur yn esbonio sut i wneud hyn ar bob math o borwr modern.

Y drueni yw bod cynlleied o wefannau dwyieithog yn cymryd mantais o hyn i roi cynnwys Cymraeg yn awtomatig i ddefynddwyr sy wedi wneud y newidiadau hyn, yn lle gorfodi nhw mynd trwy tudalen borth bob tro, neu’n waeth byth, dangos y dudalen Saesneg sydd â dolen (os wyt ti’n lwcus) i fersiwn Gymraeg.

[trwy Gwawr Niwclear]

Rhestr Amazon Gruff Rhys

Rhai o hoff bethau Gruff Rhys. Hoff ffilm? Two Lane Blacktop. Oes rhyfedd bod ei gerddoriaeth mor wych?

[trwy rhestr postio SFA]

Newydd ffeindio hyn ar y maes: Gruff Rhys mewn lifft yn Amsterdam, fideo chwarter awr, gyda gwesteion arbennig. Dylai wneud mwy o fideos mewn lifftiau Ewrop, dw i’n meddwl. Fel mae’n dweud:

“Die lift was beter he?” Ja, die lift was veel beter!

Gruff, mewn lifft

Gwyl Dewi

(Ces i’r llun gan Steve, y peiriannydd BT, ar e-gerdyn BBC. Dyn ffein iawn.)

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn bwysig i fi, gan taw heddi yw penblwydd fi a Philippa fel cwpl. Saith mlynedd, sy’n anodd credu. Dal heb gael ffeit.

Sori.