Diwrnod mewn bywyd

Flickr: a day in the life of … – grwp arbennig sy’n ymgaslu lluniau gan bobl o bedwar ban y byd, i gyd wedi’u tynnu mewn un dydd, sef heddi.

Dw i wedi cyfrannu 5 llun, ond maen nhw braidd yn ddifflach wrth gymharu â rhai o’r pethau yn yr oriel.

Dyw e ddim wedi bod yn ddiwrnod arbennig, a dweud y gwir. Dw i wedi gor-fwyta, sy wastad yn wneud i fi deimlo yn isel, ac mae’r tywydd wedi cilio eto ar ôl y haul bendigedig cawson ni dros y Sul.

Mewn newyddion arall, dw i’n mynd i recordio darn ar gyfer Bandit ddydd Mercher, er gyfer eitem am gerddoriaeth a gwefannau Cymraeg fel maes-e, 11 a sebon.

Casglu llwch

Diolch i John yn y Tofu Hut am dynnu fy sylw at y blog Ffineg ’na (wedi dechrau archwilio’r stwff yno, ac dw i’n gweld y bydda i ’na am sbel ‘to) ac hefyd at gwpl o enghreifftiau o beth mae John yn galw y “dust collectors” collective, sef pobl sy’n troi hen albymau feinyl yn MP3au, a postio y ffeiliau ar y we am adeg byr er mwyn archub y gerddoriaeth ’na o ebargofiant.

Heb bobl fel hyn fyddwn i erioed wedi clywed All Saved Freak Band a’u cymysgedd unigryw o’r Beibl a Tolkien.

Oes ’na unrhywun ma’s ’na sydd â’r technoleg i droi rhai o’r clasuron Cymraeg yn MP3au? Byddwn i’n fodlon i roi’r llety anghenrheidiol ar y we, ond mae fy chwaraeydd recordiau i ar ei goesau ola; prin iawn ydw i’n gallu chwarae recordiau, heb sôn am eu troi yn MP3au.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Y Co-op â gwaed cwningod ar eu dwylo

Mae’r Bachgen o Bontllanfraith yn ailgydio yn ei ymgyrch (bron yn) unddyn i gael y Banc Cydweithredol cydnabod eu dyletswydd tuag at eu cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith. Fel Geraint, dw i wedi cael fy siomi gan ymateb y banc i’m llythyrau a’m galwadau ffôn, ac dw i’n fwy na hapus i gario ymlaen gyda’r ymgyrch bach ’ma.

Fel mae Geraint yn ei ddweud, felly:

ymunwch â fi i bwyso ar y banc i gynnig datganiadau a gohebiaeth yn Gymraeg, cyn i fi droi at HSBC sy’n cynnig datganiadau Cymraeg ag un llaw ac yn saethu cwningod gyda’r llaw arall.

Unwaith ti’n rhoi fe fel ’na, mae’r dewis yn eitha plaen, ond yw e?

Plis defnyddio'r Gymraeg, pobl y Co-op

Unrhywun arall?

Ffoto gan oneka

Dod yn Ddwyieithog gyda Suw

Becoming Bilingual – Or How To Learn Any Language Without Pulling Your Hair Out In The Process

Cyfres o gofnodion (a gaiff eu casglu fan hyn, mae’n debyg) gan Suw Charman, sy’n golygu eu bod nhw wedi sgwennu yn dda, ac yn dod o’i phrofiad real o ddysgu Cymraeg y “ffordd anodd”, hynny yw, tra oedd hi’n byw yn Berkshire.

Dw i wedi dweud ers sbel ei bod hi’n amser i mi ddysgu iaith newydd. Bydd yn ddiddorol gweld beth bydda i’n wneud yn wahanol ar ôl dysgu pobl eraill am bum mlynedd. Ond dw i’n methu penderfynnu pa iaith i’w dysgu. Dw i wedi prynu cwrslyfr Gwyddeleg, ond sa i wedi dechrau gweithio ar hwnna. Byddai’n well ’da fi dysgu iaith trwy gyfrwng y Gymraeg, os ydy hynny yn bosibl, ond ar wahan i hynny, does dim llawer o ots. Mae bob iaith yn brydferth, ac yn werth dysgu.

Ar yr un trwydded â chofnod Suw, dyma Wikibook ar sut i ddysgu iaith. Ro’n i’n meddwl oedd hyn mor dda , wnes i ei lungopio a’i roi i bob dysgwr yn fy nosbarthiadau. Mae tipyn o crossover rhwng hyn a beth mae Suw yn dweud, ond mae’n debyg y bydd Suw yn mynd i mewn i’r peth yn fwy manwl nag sy’n bosibl mewn Wicilyfr.

O’r erthygl honna, des i ar draws Cyfnewidfa Ieithoedd, sef lle i gwrdd â phobl sy’n barod i dy helpu di gyda’r iaith wyt ti am ei dysgu, os wyt ti’n gallu eu helpu nhw gyda’r iaith maen nhwthau am ei dysgu. Mae dros 650 o aelodau sydd am ddysgu Cymraeg!

Fforwm Deddf Iaith Newydd

Dw i bant am y dydd yn Fforwm Genedlaethol – Deddf Iaith Newydd, sy wedi’i threfnu gan Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth heddi.

Wedi bod yn darllen Language Death gan David Crystal, sy’n llawn storïau bach ysbrydoledig, felly dw i’n meddwl am seflydu lle ar y we i ymgasglu dyfyniadau fel hyn gan Trond Trosterud:

Attending a meeting of Sámi and Norwegian officials, one of the Sámi participants was asked: do you need an interpreter? No, she answered, I don’t. But I will give my talk in Sámi, so it might be that you will need one.

Reit, Aber.

Ap Duw / Stylus

Ap Huw – Llechi – CD newydd yn y post y bore ’ma. Sŵn erydu Eryri, ac wedi rhyddhau ar un o’r labeli mwya diddorol ar hyn o bryd, Recordiadau Safon Uchel o Fryste, ond ma’s o’r mynyddoedd.

Mae un trac ar gael i’w lawrlwytho, ynghyd â mwy o stwff o’r label, yma. (Mae sesiwn Stabmaster Vinyl yn arbennig; dw i newydd archebu mwy o’u stwff nhwthau.)

Adolygiad BBC Wales.

Ap Duw - Llechi

O ochr draw Cymru, yn Sir Benfro, ond yn berthyn i’r un maes cerddorol, yw gwaith Dafydd Morgan dan yr enw Stylus. Mi ges i CD o’i waith e yn y post ddoe, ac er nad yw mor hawdd ar y clustiau â phethau Ap Huw, mae’n dy dalu di yn ôl am stico gyda fe. Ar Recordiau Ochre mae hwn, sef label arall o Loegr gyda chysylltiadau cryf â Chymru.

Dyma gwpl o draciau o’r CD Stylus The Last Seaweed Collecting Hut at Freshwater West. Mae rhaid cyfaddau mod i ddim wedi rhoi gwrandawiad go iawn i’r CD eto, felly dw i wedi dewis y ddau drac gyda theitlau Cymraeg.

Stylus – Haf
Stylus – Gaeaf

The Last Seaweed Collecting Hut at Freshwater West

Sut i fod yn Ninja Ebost

Sut i ymdopi ag ebost. Rhywbeth dylai bawb ddarllen. Yn enwedig pawb sy’n anfon ebost ata i. Yn enwedig pawb sy’n anfon ebost ata i sy’n gofyn i mi wneud rhywbeth dw i wedi wneud dau fis yn ôl.

O’r gorau, rhywbeth dylai Hedd ddarllen ;-)

Un tip dw i’n hoff iawn ohono, a rhywbeth bydda i’n ceisio wneud yw:

  • Send out delayed responses.

Type your response directly, but schedule it to be sent out in a few days. This works great for conversations that are nice but not terribly urgent. By inserting a delay in each go-around, you both get to breath easier.

Dw i’n casau cadw pethau yn fy mewnflwch, ac yn trïal ei glirio o leia bob dydd, ond yn anffodus, os dw i’n wneud rhyw jobsyn yn syth, a dweud wrth Hedd pwy bynnag mod i wedi wneud e, dw i’n tueddu cael dwy jobsyn newydd cyn diwedd y prynhawn. Mae rhaid bod rhyw ffordd i wneud i Gmail hala mas negeseuon ar ddiwedd y dydd, neu rhywbeth.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Magu Plant yn Ddwyieithog

Language skills legacy, erthygl am Suzanne Barron-Hauwaert, ieithydd sy’n hybu, ac yn fwy pwysig, yn defnyddio gyda ei phlant ei hun, y dull OPOL (un rhiant, un iaith) o fagu plant i fod yn ddwyieithog. Un o’r rhesymau a’i roddir am bwysigrwydd wneud yr ymdrech yw i gadw’r cysylltiad â teidiau a neiniau sy ddim yn siarad un o ieithoedd y tŵ. Un o’r pethau mwya trist dw i wedi dod ar ei draws wrth ymchwilio fy achau oedd y dalen o gyfrifiad 1891 (dw i’n meddwl) lle oedd tri chenedlaeth o Daviesiaid yn byw dan yr un to, y taid yn uniaith Gymraeg, a rhai o’r wyrion yn uniaith Saesneg. Cymro oedd y tad, ond di-Gymraeg oedd ei wraig, fy hen, hen nain.

Dychmyga bod yn blentyn a byw gyda hen ddyn sy ddim yn siarad dy iaith di, neu fod yr hen ddyn, a methu siarad â dy ŵyr. Drueni nad oedd neb fel Barron-Hauwaert yn Froncysyllte yn niwedd y 19eg ganrif.

Mae hi hefyd wedi cyhoeddi papur ar fagu plant â thair iaith

Ti newydd gael dy wenwyno gan Y Seirff

Pythefnos ar ôl i mi symud i Langrannog, ym mis Medi 1997, mi oedd pethau’n symud ym mhorfa Bryn Derwyn, lan yn Eryri. Dyna ble recordiwyd You Have Just Been Poisoned… ganY Seirff, yr “uwch-grŵp Eingl-Gymraeg” a oedd yn gynnwys aelodau Super Furry Animals, Echo and the Bunnymen, a Rheinallt H. Rowlands. Wnaeth dros 35 o gerddoriaon chwarae ar y CD, a’i ddisgrifiwyd fel the soundtrack to a lost psilocybin road movie. Nawr dyna ffilm hoffwn i ei weld.

Mae’r CD wedi’i ddileu erbyn hyn (tebyd a fyddai ots ’da Ochre ’swn i’n rhoi’r holl peth lan fan hyn?) ond dyma gwpl o draciau i chi:

Y Seirff – Sgrech Llysywen (2MB)
Y Seirff – Dyn Gwiail (3MB)

Rhag fy nghywilydd, dw i wedi anghofio pwy anfonodd y copi o hyn sy ’da fi. Mae gen i frith gof taw Mihangel Mackintosh oedd y person caredig, ond os ydw i’n wneud cam i rywun arall yma i gyd alla i wneud yw ymddirheuro a rhoi’r bai ar henoed a’r Jameson’s.