Ynyswyr â chennad – erthygl ddigon ffwrdd-â-hi am ymdrechion i gadw Islandeg yn fyw ac yn iach. Dim byd yma sy’n newydd i ni, ac mae hyn yn dramgwyddol, i ddweud y lleia:
When AIDS first came to national attention in Iceland, the main discussion was what to call it rather than how to prevent it. The institute does not believe that AIDS should be called AIDS, and thus the disease is officially known as “alnaemi,” an ancient Icelandic word meaning “totally vulnerable,” which the institute settled on after some three years of study.
Sy’n awgrymu nad oedd y gwasanaeth iechyd yng Ngwlad yr Iâ yn wneud dim byd i atal y feirws tra bod yr ieithyddwyr yn Islensk Malstod yn penderfynnu beth i’w galw. Ddim yn debyg iawn mewn gwlad ag un o’r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd.
Doedd hwnna ddim fy mhrofiad i yng Ngwlad Yr Ia – wrth gymharu ‘da Chymraeg mae’r iaith ‘na yn llawer fwy iach – sawl papur newydd, llwyth o lyfrau yn yr Islandeg. Ac maen nhw’n siarad Saesneg yn well na ni…
Dyna’r argraff dw i wedi cael hefyd. Sbel yn ôl des i draws rhestr o dros 5000 o flogiau Islandeg – dw i ddim yn gwybod pa mor ddiynadwyoedd y rhestr ‘na (mae heb gael ei ddiweddaru ers 2 flynedd, felly mae’n ddiwerth erbyn hyn), ond ar y pryd oedd prin hanner dwsin o flogiau Cymraeg.
Ac mae pawb yng Nglawd yr Iâ yn medru’r iaith.