Cerddoriaeth ar hap

Casgliad o ddolenni MP3 o’r blogiau.

A Slow Rip – tri thrac o sesiwn impro recordiwyd ym mis Medi 2004. Gitar, Moog ac ARP.

Hood – The Lost You – ôl-roc isel-ffei o Elmet.

Josephine Foster – llais hyfryd arall o fynyddoedd Chicago. Diolch byth am Devendra Banhart.

Marissa Nadler – mae hi fel 1967 unwaith eto.

Soni Ventura – Cyngerdd 1981 – cyngerdd o gerddoriaeth offer gwynt gan Beethoven, Bernard a Praag. Mae llawer, llawer mwy ar gael yn y ffolderi ’na, digon i fy nghadw fi yn fishi dros y Pasg, ’swn i ddim yn wneud dim byd arall. Dw i bron byth yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol, ond dw i wastadd wrth fy modd pan dw i’n clywed rhywbeth fel hyn. A chan fod hyn yw’r unig fath o gerddoriaeth mae fi a Philippa ein dau yn hoffi, dylwn i wneud mwy o ymdrech i ffeindio pethau fel hyn, mae’n debyg.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi รข *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>