Fel dw i wedi sôn o’r blaen mae Telsa yn sgwennu am ei phrofiadau dysgu Cymraeg ar ei dyddiadur.
Mae ei phrofiad diwetha (rhaid sgrolio i lawr; does dim paraddolenni eto – diolch Telsa!) yn un dyn ni gyd yn gyfarwydd â fe, ac yn rhan anochel o’r broses o ddysgu’r Gymraeg, tybiwn i: cwrdd â Chymro wrth-Gymraeg:
Ond, wel, dw i wedi dysgu sawl peth heddiw. Pethe fel: does dim alw am ysgolion Cymraeg yn ôl fy ffrind newydd. Dim o gwbl. Dw i wedi dychmygu’r holl peth. Mae ysgolion Cymraeg yn costu dwbl cost ysgol Saesneg. Scandal yw hon, mae’n debyg, a dim yn deg. Dim byd i’w wneud gyda state of the building, o na. O, ie: does dim eisiau gwasanaethau Cymraeg gan y cyngor; neu gan unrhyw corff swyddogol. A beth am y pobl sy’ moyn gwneud pethe yn Gymraeg? Wel, maen nhw’n gallu siarad Saesneg, ydyn nhw?
Roedd lot, lot mwy, a roedd i’n siomedig iawn i ffeindio mas nid yr unig un i feddwl fel hwn oedd hi. Ar ôl rhai o’r sylwadau eraill, wedi argraffu mas ffurflenni cais CyI a Chymuned, ond heb eu llenwi nhw. Eto.
Mae gen i theori bod y “bobl wrth-Gymraeg” yma yn wir asiantau cudd o’r mudiadau iaith, achos does dim byd sy’n wneud i fi deimlo mwy fel mynd mas fin nos â thun o Dulux na’r bobl ’ma a’u hagweddau 1847aidd.
(Gyda llaw, os ydy unrhywun o’r BBC yn darllen hwn, byddai’n werth sieco’r llun ar y dudalen ’na. Sa i’n credu bod Pantycelyn yn AS i Coventry, o du hwnt i’w fedd.)
Ta beth, llongyfarchiadau i Telsa am gael ei chymryd fel siaradwr Cymraeg – dyna beth wyt ti nawr, cofia, does dim angen aros yng ngeto y dysgwyr am oes.