Criddle yn y Sgrym

Y Rheng Flaen yw blog rygbi, yr un cynta yn y Gymraeg, mae’n debyg – a finne am un yn edrych ymlaen at y dydd pan bydd o leia un o bob math o flog yn y Gymraeg, i mi gael beidio teipio’r llinell ’na byth ‘to.

Y barfog brawd Geraint Criddle sy’n ei gynnal, sy’n warant o’i safon. Wel, o leia bydd popeth wedi’i sillafu’n iawn, sy’n fwy nag allwn ni ddweud am y lle hwn.

BT Broadband yn fy mreuddwydion

Fel dw i wedi sôn o’r blaen, yma, ar y maes, a jyst nawr ar flog Rhys Wynne, dw i wedi cael problemau gyda fy nghysylltiad band llydan BT ers y storom ym mis Medi a ddaeth â’n lein ffôn i lawr, a dinistriodd fy hen iBook. Y broblem yn fras yw mod i ddim yn gallu aros ar lein am fwy na rhyw 5 munud ar y pryd, y rhan fwya o’r amser. Dw i’n dweud “y rhan fwya” achos weithiau, ond ddim yn aml, dw i’n gallu cysylltu ac aros ar lein, am oriau heb broblem.

Dw i wedi cael ymweliadau gan ddau beiriannydd BT, sy’n methu dweud beth yn uion sy’n achosi’r broblem, ac wrth gwrs, ar y ddau achlysur pan oedden nhw yma, doedd dim problem. Dw i wedi dod at y pwynt pan dw i’n dechrau amau taw conspiracy yw’r holl beth, a mod i wedi gwahardd rhywun o’r maes sydd â ffrindiau yn BT, a dyna eu ffordd o fy nhalu fi yn ôl.

Dim ond hanner jocan ydw i.

Mae gen i apwyntiad arall gyda pheiriannydd ddydd Mercher sy’n dod, neu’n hytrach fy mhartner bydd yr un sy’n gorfod aros yn y tŷ trwy’r dydd y tro ’ma, achos bydda i lan yn y gogledd ymweld â fy nhad yn yr ysbyty.

Felly, dyma fi, mynd mas o fy mhen poeni am yr hen ddyn, ond ar yr un pryd, mynd lan y wal gyda BT, sy wedi methu trwshio hyn ers mis ffycin Hydref. Bob tro dw i’n ffonio i reportio’r gwall, eto, mae rhaid i mi ddechrau o’r dechrau gan esbonio natur y gwall. Dw i erioed wedi siarad â’r un person ddwywaith, naci gweld yr un peiriannydd. Synnwn yn fawr ’sai pwy bynnag sy’n dod ddydd Mercher yn newydd ‘to, a bydd e/hi’n wneud yr un profion wnaeth Steve Un a Steve Dau pan o’n nhw yma.

Ond nid fi yw’r unig un. Mae hyn yn broblem sy wedi digwydd i sawl person o’r blaen.

Dw i jyst ddim yn gwybod beth i’w wneud. Ydw i jyst yn wastraffu fy amser? Dw i wedi cyrraedd y pwynt lle os dydy BT ddim yn gallu sorto fe mas, bydda i’n ystyried mynd yn ôl at ddeilio-i-fyny. Byddai’n well ’da fi dalu am lein ychwaengol a mynd yn ôl at 56K, os taw dyna’r unig ffordd agored i mi gael cysylltiad dibynadwy i’r we.

Gwerthfawrogwn unrhyw awgrymiadau eraill. Dw i ar ben fy nhenyn yma.

Posted in Heb gategori | Tagged

Pont Scott Gibbs

Scott Gibbs yn dawnsio fel y gwynt(Jyst rhag ofn bod chi ddim wedi cael yr ebost sy’n mynd rownd am hyn, neu’r edefyn ar y maes.)

Mae Asianaeth Datblygu Llundain wedi gofyn am awgrymiadau i enw pont newydd i stadiwm Wembley. Ar hyn o bryd mae Scott Gibbs ar frig y pôl. Prin iawn y bydd y bastads yn gadael iddo ennill, ond bydd yn ddiddorol gweld pa esgus maen nhw’n defnyddio. Ar hyn o bryd “It was just a bit of fun” yw’r un mwya tebygol.

Yn ei absenoldeb

Wedi treulio’r penwythnos gyda fy mam yn Y Waun, ymweld â Dad cwpl o weithiau yng Nghanolfan Walton. Mae e’n dod yn ôl at ei hun ar ôl llawdriniaeth dydd Mawrth diwetha; gobeithio caiff ei symud i Wrecsam heddi neu fory.

Diolch yn fawr i bawb sy wedi gadael negeseuon o gefnogaeth yma ac ar y maes. Mae pobl wedi bod yn anhygoel; dw i’n gwybod bod hyn yn ystrydeb, ond mewn amseroedd anodd fel hyn ti’n ffeindio mas pa mor lwcus wyt ti. Continue reading

Posted in Heb gategori | Tagged

Wel, roedd hynny yn hawdd

Yn rhy hawdd, efallai…

Dw i newydd fewnforio bob cofnod a sylw o’r fersiwn Moveable Type o’r blog i mewn i’r fersiwn newydd, gan ddisgwyl pob math o broblemau.

Aeth popeth mor esmwyth â choesau Gavin Henson.

Yr unig peth i sorto nawr yw’r categorïau (mae gormod ohonyn nhw) a’r archifau misol (ditto – rhestr tynnu i lawr, falle).

Ai Steffan Cravos yw Charles Manson Cymru?

Dw i wedi mwy neu lai penderfynnu i beidio cario ymlaen gyda Pop Peth nawr mod i wedi gweld pa mor haws yw WordPress i’w ddefynddio nag oedd Moveable Type (nid bod MT yn wael, ond gyda blog mawr fel Morfablog, oedd e’n araf tu hwnt, gorfod ail-adeiladu trwy’r amser). Bydda i’n mewnforio’r cofnodion o fan’na i fan hyn yn y man, ond yn y cyfamser…

Slefar a’r Teulu – Sesiwn Huw Stephens

Dyma’r pedwar trac recordiwyd ar gyfer sioe Radio 1 Huw Sephens, wedi’u rhwygo i MP3 gan Dafydd. Wnes i wrando ar y sesiwn am y tro cyntaf amser cinio heddiw, sefyll yn nrws Capel Bethania, Aberteifi, lle dw i’n dysgu, ac o’n i’n gwenu cymaint o’n i’n dechrau poeni y byddai top fy mhen cwympo bant.

Sîn Roc dy Fam-Gu, wir.

Os dwyt ti ddim wedi gweld eisioes, mae cyfweliad â Cravos ar safle Radio 1 hefyd.

Dim Mynediad i Flog Dogfael

Ddim yn siwr pam, ond dw i’n methu mewngofnodi i Flog Dogfael er mwyn gadael sylw. Dw i’n gallu wneud hyn ar bob blog blog*spot arall, am wn i. Unrhywun arall yn cael problemau.

Ta beth, yn y cofnod dan sylw mae Dogfael yn sôn am beryglon blogio am y gweithle:

Mae’r rhai ohonoch chi sy’n gweithio mewn swyddfa neu gyda phobol eraill yn gwybod rwybryd neu’i gilydd mae rhwybeth neu rywun yn siŵr o’ch cythruddo. Fe fyddai’n gymaint o demtasiwn i ddefnyddio’r blog i ymateb a dweud pethau ffôl y buaswn yn ‘difaru gwneud yn ddiweddarch. Felly y peth gorau yw peidio â dechrau arni.

Dylid cofio am y Posted in Heb gategori | Tagged