Ai hwn yw blogio? Cofnod gan Nick Cohen ar blog newydd The Observer. Unwaith eto, mae’n amlwg pa mor lydan yw’r bwlch rhwng dealltwriaeth y technoleg newydd yng nghyfryngau Lloegr, ac yma yng Nghymru. Dw i’n gwybod bod yr Observer yn fwy tebyg na’r Telegraph, dweder, i ddangos y ffordd ymlaen, ond dydy blogio, fel syniad, ddim cweit wedi cyrraedd soffa Wedi 7 eto yng Nghymru fach.
Mi fydd hi, nos Fawrth nesa, ond sut mae dyn i fod i ateb cwestiwn fel “wel Nic, beth yw ystyr blog?” mewn munud neu ddwy, gan wybod y bydd yn cael ei dorri mas o’r darn recordiwyd gan ei fod yn syniad rhy newydd i Mrs Jones, Llanrug ei ddeall? (10/1 taw’r unig pethau sy’n goroesi o’r cyfweliad wnes i bydd y darnau ble dw i’n sôn am y pethau cas sy’n cael eu dweud ar maes-e o bryd i’w gilydd.)
Mae’r Observer nid yn unig yn deall y cwestiynau sylfaenol “beth yw blog“, maen nhw’n deall, ac yn defnyddio, folksonomies, hynny yw defnyddio tagiau/allweddeiriau i gategoreiddio cofnodion ar y blog.
Mae hefyd yn gadael cofnodion y blog yn agored i unrhywun bostio sylwadau heb cael eu cymedroli (sy’n fwy na dw i’n wneud ar hyn o bryd), tra bod yr unig ffordd i hyd yn oed darllen sylwadau defnyddwyr gwefan Golwg yw cofrestru, mewgofnodi (gyda thri darn o wybodaeth i’w cofio yn lle y ddau arferol) ac wedyn ffeindio taw ti a “WALISER” yw’r unig pobl sy wedi ymweld â’r lle ers oes pys – a’r unig reswm mae ynteu yna yw ei fod e wedi cael ei wahardd o maes-e.
Mae gwefan y Cymro i lawr.
Dyw gwefan Y Byd ddim wedi’i adnewyddu ers cyn y Steddfod.
Wyt ti’n gweld pam dw i wedi postio hyn yn y categori Dyfodol yr Iaith?
*codi gwar*
A tydi Morfablog ddim yn adnewyddu ar Bloglines i mi bellach am ryw reswm! Roeddwn i’n meddwl dy fod ti wedi cael hoe farw tan i fi ddod nol i’r ffynhonell. Grrrr…
Pob clod i Wedi 7, mi wnaeth nhw job eithaf da ohoni dwi’n meddwl. A mae newyddiadurwyr bob tro yn gofyn cwestiynnau anodd, bron yn wirion, yn y gobaith o gael atebion diddorol (gwirion) yn ol. Ond diddorol gweld ei bod nhw wedi peidio son am flogiau o gwbwl, wedi’r cwbwl. Falle bod y term hwnnw yn achosi gormod o ofid iddyn nhw.
Sori am y bloglines, bydd rhaid dat-danysgrifio ac wedyn yn ail-danysgrifio i’r ffîd newydd.
Gwaith gwaith gwaith.
Diolch Nic, mi weithiodd hynny. Yn rhyfedd iawn tydw i’m yn cofio postio’r neges uchod. Mae’r gwin a’r cwrw yn dechrau cael effaith arna’i yn amlwg…