Scymraeg.com

A yw hi’n amser i ni feddwl am wefan tebyg i Engrish.com i’r hen iaith annwyl?

Ydy. (Noder: sdim byd i’w weld yna eto, ond dw i wedi cofrestru’r parth. Wotsh ddys speis.)

Dw i wedi sefydlu grwp newydd ar Flickr, ac wedi dechrau defnyddio’r tag scymraeg hefyd, sy’n fwy cofiadwy na’r un “awyddionerchyll” o’n i wedi defnyddio o’r blaen. Gobeithio bydd mwy o bobl yn ymuno â’r grwp ac hala mwy o luniau i mewn. Y gobaith yw y bydd modd i fwydo’r lluniau o fanna yn syth i’r wefan scymraeg.com, felly fydd dim angen llawer o waith cynnal a chadw ar y safle ei hun.

Un o'r lluniau yn y grwp Flickr Un o'r lluniau yn y grwp Flickr Un o'r lluniau yn y grwp Flickr

One thought on “Scymraeg.com

  1. Bron ag anghofio dweud – ar y ffordd nol o Aberystwyth wthnos nol (ond mae’n teimlo fel mis nol ar hyn o bryd), rhwng Aber a Bwlch Nant yr Arian, dyma fi a Mair yn gweld arwydd ‘Pan mae golau coch yn dangos, sefwych yma’. Nes i geisio tynnu llun gyda’n ffon, ond ddaeth y llun ddim mas yn dda iawn. Os cei di gyfle, cer, a saf yno yn y ffordd mwyaf gwych y galli di!