Mae Auntie P yn byw ar Ynys Wyth, ond yn hanu o Gaerdydd yn wreiddiol. Mae hi’n licio mynd i mewn yn agos ac yn bersonol, sy’n gadael iddi ddangos i ni bethau fyddwn ni ddim yn boddran gweld, fel arfer.
Mae gweld lluniau fel hyn (ac mae miloedd o bobl yn postio lluniau yr un mor hyfryd ar Flickr) yn wneud i fi deimlo yn euog mod i wedi bod mor ddiog gyda fy nghamera. Rwy’n meddwl am brynu un gwell cyn bo hir – wel, unwaith dw i wedi talu off fy mil cerdyn credyd – ond does dim esgus am beidio bod yn fwy creadigol gyda’r un bach rhad sy ’da fi nawr. Gyda llygaid clir mae tynnu lluniau da, nid gyda camera drud.
Ffeiliwyd y cofnod hwn dan Heb Gategori a'i tagiwyd gyda Celfyddydau. Rhowch nod tudalen i'r paraddolen. Mae'r sylwadau ar gau, ond cewch adael trackback: URL Trackback.
Lluniau Auntie P