Mae’r band llydan yn ôl! Amser i fi ddal i fyny gyda’r holl MP3au dw i wedi bod yn aros i’w lawrlwytho. Bydd y cofnod yma yn tyfu trwy’r dydd, mae’n debyg.
Samplau tua un funud yr un gan Popol Vuh, y grŵp Krautrock amgylchol, ar wefan Bwylaidd.
Mwy o samplau Popol Vuh (safon is).
Edefyn Barbelith ar Krautrock. Llawer o llwybrau cam i’w dilyn o fan’na.
Dadadeiladu’r Wal – clasur paranoiaidd Roger Waters wedi’i ailddychmygu gan artistiaid danddaearol. Mae’r trac cyntaf yn wych, sai wedi clywed y gweddill eto. [Boing]
Mae gan Blogalive gwpl o fersiynau o’r trac Watch Song gan Shellac, a thri trac gan Pixies yn fyw. Dyw’r traciau ddim yn para yn hir ar Blogalive, felly rho wybod yn y sylwadau os ti wedi’u colli nhw a wna i eu postio ‘to.
Ac, o mai ffycin God, mae Damo Suzuki yn dod i Aberteifi. Nos Sul, Mai 30. Yip yip. Ddim yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am fwcio’r bandiau yn y Mwldan, ond Acid Mothers a Damo Suzuki o fewn y flwyddyn yn fwy nag o’n i’n dusgwyl. Dyma gyfweliad â Damo Suzuki ar radio Awstralia – yn fwy diddorol na’ch canwr pop arferol. Jyst rhag ofn dwyt ti ddim wedi clywed o Suzuki, dyma ganwr sy mor ffycin cŵl mae Mark E. Smith yn breuddwydio am fod Damo Suzuki (MP3 o’r Fall, fel trît bach i chi – diawl, mae’n braf bod yn ôl ar fand llydan).
A, ffyc it, dyma gwpl o draciau Can hefyd.
Can – Mushroom
Can – I’m So Green
Mae MP3au ar wefan Damo Suzuki hefyd. Dw i’n fishi eu lawrlwytho nawr, ac mae ei stwff newydd yn dda iawn hefyd.
Newydd sylweddoli, wrth archebu tocyn i’r sioe, taw nos Lun yw’r 30ain, felly bydd rhaid i mi ganslo neu ail-drefnu dosbarth ar y noson honno. O wel.
Wna i bostio mwy o ddolenni MP3 yn y blwch sylwadau trwy’r dydd, os bydd amser.
Gories – Gimmee Some Money – ie, yr un gan Spinal Tap.
Second Grace (Demos & Outtakes) – Nick Drake. I ffans yn unig, mae’n debyg, ond diddorol clywed fersiynau eraill o hen ffefrynnau. (Trwy.)
Butthole Surfers yn fyw yn Austin, 2002. (Trwy.)
Charlie Parr – sawl trac gan y “high priest of folk music”, chwedl Songs: Illinois.
Butthole Surfers – Double Live, albym cyfan gan y pennau asid o Decsas.
Blind Faith – clasur o 1969.
Mwy gan y Butthole Surfers.
Aphex Twin – Drukqs – paid â’u wneud nhw, blantos.
Vincent Gallo – dau drac amgylchol gan yr actor/cyfarwyddwr/Republican/Yesfan.
nos Lun yw’r 30ain, felly bydd rhaid i mi ganslo neu ail-drefnu dosbarth ar y noson honno.
Hanner tymor bydd hi. Hwrê.