Cafodd fy nhad lawdriniaeth ar diwmor yn ei ben bore ddoe, ac erbyn neithiwr roedd e’n eistedd lan yn ei wely a bod yn boen i’r nyrsys. Mae hyn yn newyddion mor dda nes i bron â thorri i lawr yn Neuadd Ffarmers pan ddarllenais i’r nodyn bodyn gan fy chwaer.
Dim ond y frwydr gynta yw hon, wrth reswm, ond mae’n gymaint o ryddhad.
Mynd lan i’r Gogledd ‘to dydd Gwener. Mae’n bosibl y bydd e gartre wythnos nesa, ond dyn ni’n trïal peidio disgwyl gormod.
Dwi’n falch iawn, iawn o glywed Nic. Pob lwc iddo, a dy deulu, yn y dyfodol.
Ga’i ategu be ma Ifan yn ei ddeud – cofion at dy dad, a gobeithio y bydd o’n dal i wella!
Diolch bois. Dw i’n mynd lan i’r gogledd heno, a bydda i’n gweld e fory.
Mae’n debyg ro’n i’n llawer rhy optimistaidd pan wedais i bydd e’n gartre yn fuan. Pythefnos yn Walton, wedyn mis yn Clatterbridge, yw’r cynllun diweddaraf.