Ai hwn yw blogio? Cofnod gan Nick Cohen ar blog newydd The Observer. Unwaith eto, mae’n amlwg pa mor lydan yw’r bwlch rhwng dealltwriaeth y technoleg newydd yng nghyfryngau Lloegr, ac yma yng Nghymru. Dw i’n gwybod bod yr Observer yn fwy tebyg na’r Telegraph, dweder, i ddangos y ffordd ymlaen, ond dydy blogio, fel syniad, ddim cweit wedi cyrraedd soffa Wedi 7 eto yng Nghymru fach.
Mi fydd hi, nos Fawrth nesa, ond sut mae dyn i fod i ateb cwestiwn fel “wel Nic, beth yw ystyr blog?” mewn munud neu ddwy, gan wybod y bydd yn cael ei dorri mas o’r darn recordiwyd gan ei fod yn syniad rhy newydd i Mrs Jones, Llanrug ei ddeall? (10/1 taw’r unig pethau sy’n goroesi o’r cyfweliad wnes i bydd y darnau ble dw i’n sôn am y pethau cas sy’n cael eu dweud ar maes-e o bryd i’w gilydd.)
Mae’r Observer nid yn unig yn deall y cwestiynau sylfaenol “beth yw blog“, maen nhw’n deall, ac yn defnyddio, folksonomies, hynny yw defnyddio tagiau/allweddeiriau i gategoreiddio cofnodion ar y blog.
Mae hefyd yn gadael cofnodion y blog yn agored i unrhywun bostio sylwadau heb cael eu cymedroli (sy’n fwy na dw i’n wneud ar hyn o bryd), tra bod yr unig ffordd i hyd yn oed darllen sylwadau defnyddwyr gwefan Golwg yw cofrestru, mewgofnodi (gyda thri darn o wybodaeth i’w cofio yn lle y ddau arferol) ac wedyn ffeindio taw ti a “WALISER” yw’r unig pobl sy wedi ymweld â’r lle ers oes pys – a’r unig reswm mae ynteu yna yw ei fod e wedi cael ei wahardd o maes-e.
Mae gwefan y Cymro i lawr.
Dyw gwefan Y Byd ddim wedi’i adnewyddu ers cyn y Steddfod.
Wyt ti’n gweld pam dw i wedi postio hyn yn y categori Dyfodol yr Iaith?
*codi gwar*


Samplau tua un funud yr un gan
Ac, o mai ffycin God, mae 