Sleblogiwr o fri

Blog newydd i’r ‘fro: sleblog. Gan mod i ddim yn siwr pa enw mae blogiwr yma yn defnyddio ar ei flog, dw i ddim yn gallu ei groesawu gan ei (h)enw, ond dw i’n siwr y bydd popeth yn glir yn y man.

Dw i wedi torri fy rheol am beidio ychwanegu blogiau i restr y rhithfro nes bod y blogiwr wedi postio am sbel, gan fod y blogiwr newydd yma wedi cyfieithu WordPress i’r Gymraeg cyn iddo ddechrau ar y gwaith blogio.

Mmm, WordPress. Dyna rywbeth i ffeddwl amdano…

Sbam y dydd

Newydd cael sbamlyth gan yr Independent on Sunday, yn cynnig hysbysebion rhad ym mhapur Janet Street-Porter, menyw dw i wedi galw “gwrach mwya wrth-Gymraeg y flwyddyn” ar y blog ’ma.

Dw i’n eitha tempted, a dweud y gwir. Dw i wedi gofyn am “quote”.

Fyddai Ifor yr Injan ddim yn bles iawn

Stori yn y Western Mail am wefan “Gymraeg” Arriva Trains Wales.

Mae popeth yn edrych yn iawn, nes bod ti’n ceisio chwilio am wybodaeth. Wedyn, mae rhaid i ti ddefnyddio enwau Saesneg y gorsafoedd, er bod dim byd i ddweud hyn wrthot ti. Rhoi “Caerfyrddin” i mewn a chei di dudalen uniaith Saesneg yn awgrymu bod angen help arnat ti: falle taw yn Canning Town o’t ti eisiau dechrau dy daith? Nage? Beth am Cockermouth?

Nid hynny yw’r unig broblem gyda’r sustem chwaith, i’r defnyddiwr Cymraeg ei iaith. Os wyt ti’n wneud unrhyw “camgymeriad” arall (rhoi’r amser anghywir i mewn er enghraifft), ti’n cael dy ail-gyfeirio a dudalen uniaith Saesneg.

Os wyt ti’n ddigon clyfar i weithio mas ym mha iaith bydd y wefan yn derbyn dy gynigion, cei di wedyn dy ganlyniadau. Eto, ar dudalen uniaith Saesneg.

Mae’r wefan hon wedi ennill gwobr Gwefan y Flwyddyn gan Technology Wales, ond i ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith, mae’n amhosib i’w defnyddio. Ydy hi’n bosibl nad yw beirniaid Technology Wales wedi profi ochr Gymraeg y safle?

O leia mae tudalen adborth yn y Gymraeg.