Sut i gosi dy hunan

Y ffeil cosi gan David Allen. Fe ddarllenais i lyfr Allen Getting Things Done cyn y Dolig, ac mae wedi bod yn help fawr i mi, er mod i ddim wedi gosod bob sustem mae Allen yn awgrymu hyd yn hyn. Un peth dw i wedi wneud yw sefydlu ffeil cosi, a dechrau defnyddio hipster PDA i wneud nodyn am bopeth mae rhaid i mi wneud.

Dw i wastad wedi bod yn anhrefnus dros ben, anghofio bob math o bethau, ond mae hyn wedi trawsffurfio fy mywyd.

Blog Rhys Llwyd (a bach o rant)

Ydw i wedi sôn bod gan Rhys Llwyd flog erbyn hyn? Mae e’n blogio am ei arholiadau ar hyn o bryd, ond mewn ffordd sy’n eich wneud chi actiwali darllen y cofnodion, yn lle y jyst dweud o, gwae fi am fod yn fyfyriwr.

Pob lwc gyda’r arholiadau, a’r blog, Rhys. Cofia, dim ond dros dro yw poen arholiadau – mae blog am oes. ;-)

Dw i’n edrych ymlaen at yr amser (sy ar y gorwel eisioes) pan fydd yn bosibl i beidio siarad am “flogiau Cymraeg” fel un peth monolithig, a dechrau sôn am y “blogiau Cymraeg sy’n werth eu darllen”. Wedi’r cwbl, y broblem gyda S4C, Radio Cymru, Y Cymro, Golwg, bron â bod pob agwedd o’r cyfryngau Cymraeg eu hiaith eu does dim lle i fwy nag un enghraifft o bob un yn y farchnad (o leia dyna’r syniad di-ofyn), gan fod bob un o’r pethau yma yn dibynnu ar arian cyhoeddus i oroesi.

Dydy blogwyr ddim. Fel dw i wedi dweud o’r blaen, yr unig peth sy’n stopio pobl rhag blogio yn y Gymraeg yw

  1. Anwybodaeth (ddim yn gwybod pa beth yw “blog”)
  2. Prinder diddordeb
  3. Diogrwydd

Does neb yn dy stopio di rhaf dechrau blog heddi. Os wyt ti’n darllen hyn ar gyfrifiadur, ac oes hanner awr y dydd sbâr ’da ti, gelli di fod â dy flog dy hunan mewn hanner awr.

Dyma’r cam cyntaf.

Reit, dw i’n mynd i’r garej. Erbyn i mi ddod yn ôl, dw i eisiau gweld hanner dwsin o flogiau newydd yn y Gymraeg.

</athro_sgêri>

Folksonomies

Beth yn y byd yw folksonomies, dw i’n eich clywed chi’n dweud mewn anobaith cynyddol (ar wahân i’r rhai ohonoch a fydd yn poeni eisioes am sut i gyfieithu’r term i’r Gymraeg – gwerinonomi?1).

Wel, gyfeillion, wnaf ddweud wrthoch, er dim ond hanner awr yw e ers i mi glywed y term am y tro cyntaf yn fy myw.

Diffiniad folksonomy yn ôl hwn “sustem dosbarthiad cydweithredol trwy metadata a rennir”. Beth mae hynny yn golygu yn y byd go iawn, yw defnyddio tagiau i ddisgrifio pwt o wybodaeth — boed cofnod del.icio.us, llun ar Flickr, neu restr o 43 peth. Y peth pwysig yw bod pawb sy’n defnyddio’r safleoedd yma yn helpu dyfnhau cyrraedd y sustem gan ychwanegu eu cysylltiadau a’u diffiniadau eu hunain i’r cymysg.

Ond peth pwysicach byth yw’r ffaith nad oes ots gyda sustemau folksonomy pa iaith ti’n defnyddio yn dy dagiau. Mae Peter Van Dijck wedi’i gyffro gan rhai o’r patrymau sy’n dechrau ymddangos wrth i gymunedau amlieithog ddefnyddio’r un gofod metadata. Dw i wedi sylwi ar hyn ar del.icio.us – mae’n ddiddorol (i mi) weld pwy arall sy wedi defnyddio’r tag language (a dyna un o’r tudalennau del.icio.us dw i’n gwylio â Bloglines), ond mae’n bosib bydd cofnodion sy wedi’u tagio gyda cymraeg yn hyd yn oed yn fwy diddorol.

Mae ’na fyd newydd yn agor lan yma.

1: Dim ond awgrymiad. Peidiwch taflu hyn yn ôl yn fy wyneb mewn tair blynedd, da chi.

Posted in Heb gategori | Tagged

Gwyllt, Gwych

Debyg mod i wedi blogio hyn o’r blaen, ond rhag ofn, dyma Really Wild Food Guide gan JJ. Dw i wedi prynu cwpl o’i lyfrau, ac er mod i ddim wedi dilyn llawr o’r ryseitiau, mae’n ysbrydoliaeth i weld beth sy’n bosibl gyda bwyd gwyllt. Mae ganddo un llyfr ar gael am ddim (fel PDF) ac mae’r taflenni gwybodaeth am rai o’n rhywogaethau mwya cyffredin yn werth eu darllen hefyd.

Ffycwits

Mae’r Daily Telegraph yn gadael i’w hagweddau wrth-Gymraeg ddangos eto.

Geordies must speak Welsh

Welsh speakers wanting to check train times must now deal with advisers based in Newcastle upon Tyne.

The Welsh language inquiry line moved from Cardiff when the Association of Train Operating Companies awarded the contract to BT in a shake-up of its national rail inquiry service last year.

BT incorporated it within its Newcastle centre and recruited five Welsh speakers to cover an average of 10 calls a day. The English line receives 140,000 calls a day.

Pa mor dwp yw’r twpsinod yma? Ydyn nhw’n meddwl na fydd y siaradwyr Cymraeg yn wneud dim byd ond delio gyda ymholiadau Cymraeg?

Diawl, dyn ni’n cwyno am safon newyddiaduriaeth yng Nghymru, ond mae mwy o glem ’da’r Western Mail na’r ffycwits ’ma.

Dysgu’r Sbaenwyr

Oes, mae *rhaid* i chi ddysgu!

Reporters of the Catalan Parliamentary Commission entrusted with writing the new Home-rule law for Catalonia admitted yesterday, January 12, that knowledge of Catalan language will be enforced by law, a wish all political parties are agreed on, even though Spanish Conservatives have some objections to.

Diolch i Sion Jobbins am y linc. Mae angen blog ar Sion, dw i’n credu.