Protest iaith yn gohirio trÍn – stori’r BBC am y gweithred gan Gymuned dros y Sul.
Mwy o gefndir, a lluniau hyfryd ar Flog Cymuned.
Allen nhw wneud rhywbeth am y sefydliad uniaith Saesneg dw i’n gweithio iddo, tybed?
Protest iaith yn gohirio trÍn – stori’r BBC am y gweithred gan Gymuned dros y Sul.
Mwy o gefndir, a lluniau hyfryd ar Flog Cymuned.
Allen nhw wneud rhywbeth am y sefydliad uniaith Saesneg dw i’n gweithio iddo, tybed?
Celtic Notes – rhaglen radio (gellir lawrlwytho fel MP3), yn Saesneg, gyda detholiad o Fflach Tradd yn y darllediad diweddaraf.
[trwy shelbydavis]
O’r adran: “meddyliau mawr yn meddwl yr un ffordd”, mae Suw wedi bod yn chwarae gyda tagiau Technorati, ac mae hi wedi hawlio’r tag cymraeg i flogwyr Cymraeg, sy’n wneud sens.
Wna i sgwennu mwy am hyn yn y man. Dw i’n mynd i’r dafarn.
Archif Prelinger – miloedd o ffilmiau darfodedig o America.
Ffilmio’r glaw gan Eric Rice, gyda cherddoriaeth gan Keali`i Reichel
Enwau llefyd Cymraeg: o bedwar ban a dim ond yn yn Illinois.
Ha.
Mwy o stwff tebyg ar hafan Tafia Chicago.
Tra bod ni yng Nghymru yn mynd ati i ddarbwyllo cwmnïau fel Trenau Arriva, y Banc Cydweithredol neu Marks & Spencer ei bod yn syniad da i beidio anwybyddu ein hiaith, mae’n debyg bod Brigâd Dân Waldtrudering (ie, yn yr Almaen), yn bell o’u blaen nhw.
Mae gyda nhw Basgeg, hefyd, jyst rhag ofn.
Mae hyn wedi wneud fy nydd.
Diolch am y tip, Armin.
Hefyd, o dudlaen Armin o flogwyr oddi gartref, dau flog newydd i fi (yn Saesneg), un gan Gymraes yn Nhalaith Washington a’r llall gan Gymro ym Milano (ddim wedi’i ddiweddaru yn diweddar).
Cyfweliad radio ag Eirlys Richards, cyfaill i ni sy’n byw yng Ngorllewin Awstralia, dysgu’r iaith frodorol Walmatjari, a dysgu’r bobl frodorol sut i fod yn diwtoriaid iaith. Mae hi’n sân am sut ddaeth hi i fyw yn Fitzroy Crossing, yn 1967, er mwyn cyfieithu’r beibl i iaith gwbl ddierth iddi hi. Erbyn hyn mae hi’n rhugl yn yr iaith, ac yn ennill gwobrau am ei chyhoeddiadau dwyieithog o straeon traddodiadol.
Daethon ni i’w nabod pan ddaeth hi yma rhyw 3 blynedd yn ôl, gyda ei ffrind Barbara (ieithydd arall), er mwyn ymchwilio bach o hanes eu teuluoedd Cymreig, a dysgu bach o iaith frodorol eu cyndeidiau. Braf iawn clywed ei llais eto.
Cymraeg ar y we – erthygl hynod o dda gan Sion Jobbins yn adran Llais Llên y BBC.
dltq.vlog: My Human Dog Cameo – dw i’n blogio llawer o flogiau fideo ar hyn o bryd, achos mod i wedi fy nghyffro ganddyn nhw, ond erbyn hyn mae’r pwll yn eitha cyfwng. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod hi’n bosibl i ddod i “nabod” y criw bach o bobl sy’n blogio ar fideo yn eitha cyflym.
Neis iawn i glywed Peter yn y clip ’ma ddweud:
You speak Flemish, then you blog yn Flemish; you speak Spanish, then you blog in Spanish.
Ond, mae Peter yn blogio yn Saesneg.
ANT – dyw e ddim yn deledu. Damo, dyw’r pyn ddim yngweithio yn y Gymraeg.
Ta waeth, app bach neis i Mac OS X i dy helpu di lawrlwytho cynnwys o flogiau fideo, a’i wylio yn dy amser dy hun.
Ers pryd mae Metafilter wedi dechrau defnyddio tagiau? Sgrolio trwy’r rhestr ’na yw’r ffordd orau o gael cipolwg ar zeitgeist
y we dw i erioed wedi’i gweld.