Monthly Archives: Tachwedd 2004
Geiriadur Byw Nunavut
Radio Netherlands
Y Celt Ola
Arian Byw
Gardd Zen CSS
Mae fy sboner yn dwat
Offer Amgychol
Cyfnewidfa Cardiau Fflach
Madame Martin
Newid bach
Wedi newid y trefn yn y bar ar y dde tipyn bach. Mae “Pigion y Rhithfro” bellach jyst yn “Bigion”, a bydda i’n postio pethau sydyn fan ’na, pan nad oes amser ’da fi i sgwennu cofnod llawn am bethau dw i wedi dod ar eu traws. Rhyw fath o is-flog bydd hwnna. Croeso i chi adael sylwadau yn yr un modd, rhowch glec ar y rhif mewn cromfachau.
Wedi cael gwared â’r rhestr ffilmiau, achos i mi beidio postio lot yna yn diweddar (ddim wedi bod yn gwylio cymaint o ffilmiau yn diweddar – ond dylwn i bostio mwy ar pictiwrs.com ta beth). Mae rhestr o flogiau Saesneg wedi mynd, ond bydda i’n wneud rhestr newydd yn y man.
Mae amser am ail-gynllunio sylfaenol yn dod, ond sa i’n credu y bydd amser ’da fi i wneud hynny am sbel ‘to.
Moblog Mirimawr
Oes ‘na ddau UDA?
Mae’r traethawd bach yma ar Boing Boing yn jôc ond mae cnewyllyn o’r gwirionedd ynddo, sef bod dwy wlad bellach o fewn ffiniau’r UDA, yr un sy’n credu celwyddau Bush a’r rhai sy’n embaras i fyw yn yr un wlad â’r ynfytyn – heia Pat!
Continue reading
Saethu’r “Beast of Boncath”
Saethu’r Gath Fawr, neu’r Beast of Boncath fel y’i gelwir rownd fan hyn. Gêm fach dwp. Hei, mae’n dydd Gwener, a dyn ni i gyd yn mynd i farw. Man a man cael tipyn o hwyl cyn i ni fynd.
Cymru Sbwci
Weird Wales – adran newyddd ar wefan y BBC sy’n edrych ar ddigwyddiadau X-ffeiliaidd yng Nghymru. Mae ganddyn nhw stori o Langrannog:
“Late at night whilst walking along the beach alone to find my beach towel, I saw a person standing by the sea. I thought nothing of it until I saw he was wearing an old-fashioned sailor suit! He stood there glaring into the sea and I turned my back for one split second to pick up my towel and when I looked behind me he had gone!“I went back and I told the people at the local cafe this story and they said “Oh it’s only Huw Pugh”. Huw Pugh was a sailor who died in the area back in the 18th century. Many people in the area have experienced encounters like mine too.”
Na, nid y Huw Pugh ’na yw e. Mae ein Huw Pugh ni yn foi sy’n byw ar dyddyn tu mas i Bontgarreg. Mae’n joio gwisgo lan fel merch ysgol Siapaneg a cherdded y traeth fin nos yn y haf.
Camgymeriad hawdd i’w wneud, ddo.
diolch i Dio Bach
Cwpl cyn gwely
Iaith yr Inuit ar y we. (diolch Sion!)
Adfer ieithoed mewn perygl gan ddefnyddio technoleg newydd. Prosiectau Prifysgol Arizona. (del.icio.us)
Ysu am Eirfa
Mae teclyn cyfieithu y BBC, Geirfa, wedi bod yn y newyddion yr wythnos ’ma, gyda lansiad swyddogol ar ôl cwpl o fisoedd o brofi’r peth (fel y blogwyd yma adeg y Steddfod). Mae sôn yn y sawl erthygl sy wedi ymddangos yn diweddar am y posibiliad y bydd y côd ar gael i wefannau Cymraeg eraill, ond ro’n i ar ddeall na fydd hyn yn digwydd nes bod y BBC yn ffeindio ffordd i gadw’r lines of demarcation yn glir rhwng eu cynnwys nhw a chynnwys y safleoedd eraill. Mewn un erthygl dw i wedi gweld heddi mae’n dweud, yn blwmp ac yn blaen The programme, Vocab, is available free of charge to Welsh-language websites, ond does dim sôn am hyn ar hafan Geirfa.
Byddwn i wrth fy modd ’swn i’n gallu cynnig y gwasanaeth yma i ddarllenwyr di-Gymraeg/dysgwyr ar Morfablog.
Eisiau eisiau eisiau.
Oes amserlen i ddweud pryd bydd hyn ar gael i werin bobl y we?
Blogiau newydd…
Cwpl o flogiau newydd: Dyddiau Llwyd (a phen-blwydd i ti Alex) a Peredur Glyn.
Dw i ddim yn ychwanegu blogiau newydd i’r rhestr ar y dde am sbel. Mae lot o’r blogiau sy ’na ar hyn o bryd wedi marw i bob pwrpas, felly bydd rhaid chwyno’r rhestr cyn bo hir. Dw i dal i feddwl bod angen rhyw ffordd arall o gadw trac o’r blogiau Cymraeg, ond ar hyn o bryd, mae gormod ar y plat.
Simon Thomas yn nabod ei ffilmiau
Neis i weld bod Simon Thomas ddim ag ofn defnyddio cyfeiriadau i ffilmiau cyfoesol er mwyn cyfrannu yn San Steffan. Yn y ddadl ar gosbi plant:
Does [David Hinchliffe] agree that the issue at the heart of the Bill is summed up in the film of Roald Dahl’s “Matilda”, in which Danny DeVito says to his daughter, “I’m big and you’re small. I’m right and you’re wrong”? It is not only about quality, but about defending the most vulnerable in society. It is plainly wrong that a 13-stone, 40-year-old man can hit a four-stone seven-year-old child. We just have to change the law.
Dw i’n cytuno â bob gair, er mod i ddim, fel David Hinchliffe ynteu, wedi gweld “Matilda”.
Pryd ti’n dechrau dy flog dy hun, Simon? Bydd Rhodri Nwdls yn darllen bob gair.
Ymgyrch i arbed teledu Cymreig
Rhaid i mi gyfaddau nad ydw wedi cymryd lot o sylw o’r ymgyrch i arbed rhaglenni CYmreig ar ITV, ond dw i’n diolchgar i Richard Nosworthy am y ddolen:
Gallai rhaglenni Cymreig ar ITV ddiflannu. Dyma wefan yr ymgyrch swyddogol i sicrhau ein bod ni dal i fwynhau newyddion, chwaraeon, materion cyfoes ac adloniant Cymreig ar ITV Cymru. Cymerwch ran trwy ysgrifennu at eich ASau, ACau a’r corff rheoli OFCOM i ddangos eich cefnogaeth.