Lleoli Meddalwedd

Language Log ar ffersiynau lleol o feddalwed. Cwpl o bwyntiau dilys yma:

There’s also a subjective factor here. For many people, being able to do their work in their own language is a matter of pride, especially when the alternative is a language that they associate with colonialism.

[Microsoft] has often been criticized for not localizing their software when they didn’t see enough profit in it. For instance, it is reported that Microsoft only produced Welsh versions of its software after Welsh versions of Linux and other FLOSS software appeared.

Arwyddion Erchyll

Flickr:arwyddionerchyll. Beth arall ydw i’n mynd ei wneud ym Mhwllheli, bore Sul ym mis Tachwedd?

‘Sai unrhywun arall sydd â chyfrif Flickr yn ffansio lanlwytho lluniau tebyg – gyda’r tag “arwyddion erchyll” arnynt – cawn ni greu oriel o enghreifftiau o gamdreiglo, camsillafu, a chamdrin ein hiaith ar arwyddion o Fôn i Fynwy.

Nôl i Gwm Blogiau MP3

Bydda i’n ailddechrau postio ar Pop Peth unwaith mod i wedi cadw lan gyda’r holl flogiau MP3 newydd sy wedi ymddangos ers i mi fod oddi ar lein (neu, ar deilio-i-fyny, sef yr un peth i bob pwrpas). Dw i ddim yn gwybod os ydy’r rhain yn newydd neu’n hen, i fod yn onest, ond maen nhw i gyd â phethau gwych ar eich cyfer chi.

  • david f presents – yn Ffrangeg. Sdim lot o Ffrangeg, ond dw i’n adnabod linc i MP3 bobdihyfryd pan dw i’n ei weld e.
  • Sleepy Talk – mae hyn yn newydd, a diolch iddo fe, dw i wedi bod yn grwfo i Björk (o 1977!) a Country Joe (cân brotest heb ei hail)
  • Copy, right? – ail-fersiynau o fri
  • Totally Fuzzy – progalicious!

A llawer, llawer mwy.

Ond dw i’n dal i brynu CDs. Beth sy’n bod arna i?