Why we blog yn Gymraeg

Erthygl Saesneg ar flogiau Cymraeg, sef y gyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ymddangos ar suite101 yn y misoedd nesa, mae’n debyg. Mae Sarah yn llygad ei lle am ba mor ddefnyddiol mae blogiau yn gallu bod i ddysgwyr – dw i’n gwybod hyn o brofiad. Falle nad yw safon fy Nghymraeg wedi gwella ers i mi ddechrau Mblog, ond dw i’n gallu sgwennu yn yr hen iaith yn glouach nag ydw yn Saesneg erbyn hyn gan fy mod i bron byth yn defnyddio Saesneg ar y we y dyddiau ’ma.

Edrych ymlaen at y rhan nesa, er na fydd hynny cystal â’r darn cyntaf ar ran y blogiau mae hi’n trafod, wrth rheswm.

(Diolch Nwdls)

  1. Mewn byd teg mi fysai deg gwaith gymaint yn cael ei sgwennu am Morfablog nag sydd yn awr. Ond wedi dweud hynny mae’n fwy anheg byth mae Morfablog yw’r unig flog cymraeg sy’n cael ei sgwennu amdano. Gobeithio bydd cynnwys ail ran yr erthygl yn siarad ychydig am flogiau fel Rwdls Nwdls ac eraill. Does na’m byd yn codi ysbryd dyn sy’n sgwennu blog na gweld rywun yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei roi mewn iddo. Dw i wedi sylwi bod bosib i mi roi llai o waith na wnes i mewn i fy mlog mewn i gyfryngau print a enill cynulleidfa lot mwy, er bod cynnwys y we ar gael am ddim i lot mwy o bobl, sy’n biti garw.Mae hyn i gyd ychydig yn rhagrithiol gan fy mod i wedi sgwennu cwpwl o erthyglau am y rhithfro, heb son am ddim on Morfablog, Maes-E, Unarddeg a blog Hogyn o Rachub (ond i Taf-Od Coleg Caerdydd oedd hwnnw). Gellid dadlau bod cyn lleied yn cael ei sgwennu am y we yn gymraeg bod rhaid gollwng yr enwau amlwg, fel Maes-E, fel bod y darllenwr ar dir cyfarwydd. Dwnim, dwi’n crwydro nawr. (@-@;)

  2. Na, dw i’n cytuno yn llwyr, ac mae rhaid ehangu’r tir cyfarwydd ‘na. Dw i mor fishi gyda pethau eraill y dyddiau ‘ma dw i wedi dod i ddibynnu ar y blogiau eraill am fy nolennau. Dw i’n jyst dwyn popeth oddi ar Nwdls a gobeithio does neb yn sylwi ar ddyddiau y cofnod. ;-)

    Ond mae rhaid cofio hefyd i mi flogio am ddwy flynedd heb ddim sylw o gwbl. Nid am sylw yn y wasg dw i wedi blogio erioed, naci am yr adborth sy’n ymddangos yma o bryd i’w gilydd (er bod hynny yn neis iawn) ond ar fy nghyfer innau fy hunan. Wnes i ddim dechrau Morfablog er lles yr iaith Gymraeg, ond i wella fy Nghymraeg innau, ac i gael bach o hwyl.

    Byddai’n braf gweld erthygl yn y wasg Gymraeg sy’n sÙn am rhai o’r blogiau Saesneg a wnaeth fy ysbrydoli i, a miloedd o flogwyr eraill, i ddechrau ein blogiau ein hunain. Prin iawn ydw i’n ymweld ’ nhw y dyddiau ‘ma, ond i bobl fel Jeff Zeldman, Jason Kottke, Beci Blood, Matt Haughie ac ati y dylai’r clod fynd. Nhw ddangosodd beth sy’n bosibl gyda’r fformat ‘ma, nid fi. Yr unig peth newydd dw i wedi ychwanegu yw dweud “sdim rheswm yn y byd pam na allen ni wneud hyn yn y Gymraeg”, sef y no-brainer mwya yn hanes no brainers erioed.

  3. Dwi’n gwerthfawrogi’n fawr iawn i ti flogio am ddwy flynedd cyn i unrhyw un gymryd sylw. Mae cymaint yn ddyledus i Morfablog a Maes-E am stad bresennol y we yn y Gymraeg. Fel arall casgliad o ddolenni wedi torri i wefannau anniddorol fysai hi, debyg. Wrth gwrs mi fysai rywun arall wedi mynd ati i geisio creu fforwm drafod, ayyb, ond wn i ddim faint fysai wedi bod a’r amynedd i ddisgwyl drwy’r dyddiau anodd o ychydig aelodau a dim sylw i gyrraedd stad bresennol y peth. Yn wir, mi geisiodd fy ffrind-fflat (flat mate, tydi o’m hynny o denau) ddechrau fforwm drafod Cymraeg ychydig flynyddoedd yn Ùl, ond wedi gofyn i bobl eraill gymryd rhan roedd ychydig iawn o ddiddordeb felly gollyngodd y syniad. Gyda syniadau newydd, mae angen bod yn amyneddgar; yn enwedig gyda’r Cymru.

    Dyma’r erthygl am y rhithfro (y fersiwn heb ei olygu) a ymddangosodd yn Taf-od (tudalen Gymraeg papur Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd) ychydig wythnosau yn Ùl. Mae hyd yn oed yn fyrrach na’r erthygl yn Brechdan Tywod, felly crafu’r wyneb ydw i yn unig. Mi fyswn i’n medru sgwennu erthygl 5,000 o eiriau ar y rhithfro’n hawdd, dwi’n credu (wn i ddim pwy fysai a’r mynedd i’w ddarllen, wrth gwrs):

    Croeso mawr, felly, iír Rhithfro (virtual-vale ywír cyfieithiad trwsgl Saesneg), gwlad fytholegol lle mae popeth yn y Gymraeg aír safbwynt yn un gwbl Gymreig. Gwerth nodi felly mai ëillusioní yw ystyr arall y gair ërhithí, am mai dim gwlad go iawn yw hwn, ond un syín bodoliín gyfan gwbwl ar y rhyngrwyd. Ond rhith neu beidio, dyma un oír ychydig fannau lle all y Gymraeg ymffrostio yn ei lwyddiant.
    Maeír diolch yn bennaf i un fforwm drafod. Os fysai un yn edrych yn Ùl dros hanes yr iaith Gymraeg aír we, Maes-E fysaiín sefyll allan fel un oír tirnodion pwysicaf, y fforwm drafod hwnnw a gyfunodd yr iaith aír we mewn ffordd mor llwyddiannus. Maeín syniad mor syml maeín rhyfeddod nad oedd neb wedi meddwl amdano gynt, am mai ar y we ywír lle perffaith i bobl syín siarad ieithoedd lleiafrifol gyfathrebu yn effeithiol.
    Maeír Fro Gymraeg (wedi ei ddiffinio fel ardaloedd lle mae 50% a mwy o’r rhai a gafodd eu geni yng Nghymru a dros draean o’r boblogaeth gyfan yn medru siarad Cymraeg, yn Ùl Cymuned) yn diflannuín gyflym, am resymau syín hen ddigon cyfarwydd i bawb erbyn hyn. Pa ffordd well i ddiwylliant ac iaith ar wasgar dros Gymru aír byd gadw mewn cysylltiad ’ín gilydd nag ar y we? Anodd yw dweud fod yr iaith ym marw pam fod hiín bosib gwario oriauín pori heb orfod dod ar draws unrhyw iaith arall. Rhith-werddon bach yw hon iír Gymraeg, ac un y dylen ni gyd gymryd mantais ohono.
    Ond dyna ddigon am y rhithfro delfrydol, perffaith hwnnw. Does dim pwynt cael cannoedd o dudalennau Cymraeg os nad oes dim o ddiddordeb yno iíw ddarllen. Yn sicr, mae Maes-E yno, syín declyn perffaith i bawb roi ei barn, ond beth arall sydd gan y rhithfro iíw gynnig?
    Mae tyfiant y gweflog (neu blog) yn nodedig, yn bennaf am ei fod yn gyfrwng mor hyblyg bod posib gwneud bron unrhyw beth gydag ef. Mae yna flogiau syín ddyddiadur o fywyd dydd i ddydd (un hoffus iawn wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr o Gaerdydd), blogiau am ymgyrchu drwyír Gymraeg, blogiau am farddoniaeth, nofel-flogiau ffuglen, aír rhestrau arferol o ddolenni diddorol. Mae bron i bumdeg ar gael ar y funud, aír rheiniín gwbwl Gymraeg, aín hollol unigryw o ran eu cynnwys.
    Mae hefyd gwefannau mwy uchelgeisiol syín cynnig amrywiaeth o ddewis iír defnyddiwr. Gweler Unarddeg.com, er enghraifft, sydd wedi cyfalafu ar dyfiant diweddar y Sin Roc Gymraeg, ac syín cynnig amseroedd gigiau, adolygiadau, a MP3au iíw lawrlwytho iír rheini sydd am ffurfioíi barn ei hunain. Ond defnydd pwysicaf Unarddeg ydi i ddangos i artistiaid cerddoriaeth Cymraeg syín meddwl ffurfio band bod cynulleidfa yno i werthfawrogi ei hymdrech aíu gallu, a hefyd i gael allbwn heb flewyn ar dafod am safon y perfformio.
    Maeír we, a chyfrifiaduron yn gyffredinol, yn rhan hollbwysig oín dyfodol ni fel hil ddynol. Mae angen iír Gymraeg gael gafael da ar awenauír dechnoleg newydd yma, ac felly mae tyfiant yr iaith Gymraeg ar y we yn hollbwysig. Maeín ddechrau da hyd yn hyn, beth bynnag. Ymlaen iír dyfodol, felly!

    Ifan Morgan Jones

  4. Diolch Gary. Mae hyn yn bwnc sy wedi’i drafod troeon ar y ‘ffilter, ac mae’n mynd yr un ffordd bob tro: y rhan fwya yn dweud bod marwolaeth iaith yn drasiedi ond sdim lot i’w wneud amdano, criw bach ar y dde yn dweud bydd popeth yn well unwaith mai dim ond un iaith sydd ar Ùl ar y ddaear (maen nhw’n tueddu meddwl taw Saesneg bydd yr iaith lwcus, am ryw rheswm), ac un neu ddau person sy’n actiwali gwybod rhywbeth am y pwnc yn dweud nad yw marwolaeth iaith yn anochel bob tro. Mae rhywun yn crybwyll Fishman a’i griw fel arfer.

  5. Diolch, Nic am y plyg–sori, dim llawer o amser i ddarllen y sylwadau ond dw i’n falch bod erthyglau am flogiau Cymraeg o ddiddordeb i bobl. Bydd dy rhestr blogiau yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol…A hefyd, roedd cadw blog Cymraeg fy hunan yn help mawr i fi ymarfer, felly ro’n i’n ysbrydoli i sgwennu fy erthygl. Diolch am y sôn! :)