“Sori…”

Sori.

Nid ydych yn defnyddio
Internet Explorer 5 neu fwy

Bydd yn rhaid lawrlwytho
Internet Explorer 5+
i ddefnyddio safle Cynnal

Gellwch lawrlwytho
Internet Explorer YMA

Diolch

Ma’s o ddiddordeb, wnes i drial ‘to, gan ddefnyddio IE5 i’r Mac. Beth yw’r peth cynta sy’n digwydd? Mae’r porwr yn newid maint y ffenest i lenwi’r sgrîn, sef ar fy monitor fi, yn llawer rhy fawr i mi ddarllen.

Felly, dw i’n sori hefyd, ond dw i ddim yn gallu dweud wrthoch chi ddim byd am gynnwys y wefan hon, achos dydyn nhw ddim moyn gadael i fi pori eu safle yn fy mhorwr fy hunan, naci mewn porwr Microsoft mewn ffenest sy’n siwto fy llygaid fy hunan.

Pa flwyddyn yw hi eto?

  1. Wrth gwrs.

    Wrth gwrs?

    Os ydy’r peth yn gallu gweithio mewn unrhyw borwr, pam mae angen dau ddrws?

    O ran diddordeb, dw i dal ddim yn gallu mynd heibio’r dudalen gyntaf yn Saffari, yr unig lincs sy’n gweithio yw’r ddau ar y chwith, sy’n mynd at ddeialog gyfrinair. Rhywbeth i wneud a’r ffram ar y top, mae’n debyg http://www.cynnal.co.uk/cartref/index/teitl_c.asp – dw i ddim yn deall digon am y

    Mae hyn yn drueni, achos mae’r safle yn llawn stwff alla i ei ddefnyddio yn y dosbarth (pethau fel hyn) ond mae rhaid i fi defnyddio Google fel tudalen fynegai os dw i ddim am ddefnyddio porwr Microsoft.

  2. “Wrth gwrs” achos does dim llawer o wefannau na fyddai’n gweithio yn Firefox/Safari.

    Ond dyw hyn ddim yn golygu fod yr ‘arbennigwyr’ technoleg yn deall hyn, yn enwedig os ydyn nhw’n defnyddio technoleg Microsoft i adeiladu’r safle. Wnes i yrru neges iddyn nhw am hyn nol yn 2001 ond does dim byd wedi newid (dwi ddim yn meddwl fod cynllun y wefan wedi newid ers hynny).