Mae Mystical Beast wedi postio MP3 o “Island” gan Claire Hamill, sy wedi agor llif-iet o atgoffion melys i mi. Dw i ddim yn gwybod sut ydw i’n nabod y trac yma, ond dw i’n sicr mod i heb ei glywed ers 15 mlynedd o leia.
Mae hyn fel madeleine i’r clustiau i mi, ond mae’r atgoffion i gyd yn llwyd, anglur. Parti rhywle?
Mynd yn hen, bois.
Mae Claire Hamill dal i gigio, sy’n newyddion da os ti’n byw yn Hastings.
Gwe-ffan yn Ffrangeg, gyda detholiad o MP3au bach (nid wrth fy nant i, i fod yn onest).
Fydda i ddim yn cysgu heno, nes i mi gofio ble dw i wedi clywed hyn o’r blaen.