Rhy ddiog i ddysgu

Rhy ddiog i ddysgu?

Instead we should be ashamed, deeply ashamed, of our nationís linguistic laziness. Look around you and ask: how many role models in any walk of life can hold their own in a foreign language?

Bob un ohonyn nhw, am wn i.

O, dydy Saesneg ddim yn cyfri?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

“Sori…”

Sori.

Nid ydych yn defnyddio
Internet Explorer 5 neu fwy

Bydd yn rhaid lawrlwytho
Internet Explorer 5+
i ddefnyddio safle Cynnal

Gellwch lawrlwytho
Internet Explorer YMA

Diolch

Ma’s o ddiddordeb, wnes i drial ‘to, gan ddefnyddio IE5 i’r Mac. Beth yw’r peth cynta sy’n digwydd? Mae’r porwr yn newid maint y ffenest i lenwi’r sgrîn, sef ar fy monitor fi, yn llawer rhy fawr i mi ddarllen.

Felly, dw i’n sori hefyd, ond dw i ddim yn gallu dweud wrthoch chi ddim byd am gynnwys y wefan hon, achos dydyn nhw ddim moyn gadael i fi pori eu safle yn fy mhorwr fy hunan, naci mewn porwr Microsoft mewn ffenest sy’n siwto fy llygaid fy hunan.

Pa flwyddyn yw hi eto?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Why we blog yn Gymraeg

Erthygl Saesneg ar flogiau Cymraeg, sef y gyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ymddangos ar suite101 yn y misoedd nesa, mae’n debyg. Mae Sarah yn llygad ei lle am ba mor ddefnyddiol mae blogiau yn gallu bod i ddysgwyr – dw i’n gwybod hyn o brofiad. Falle nad yw safon fy Nghymraeg wedi gwella ers i mi ddechrau Mblog, ond dw i’n gallu sgwennu yn yr hen iaith yn glouach nag ydw yn Saesneg erbyn hyn gan fy mod i bron byth yn defnyddio Saesneg ar y we y dyddiau ’ma.

Edrych ymlaen at y rhan nesa, er na fydd hynny cystal â’r darn cyntaf ar ran y blogiau mae hi’n trafod, wrth rheswm.

(Diolch Nwdls)

Sais yn y Steddfod

An Englishman In Newport (An outsiderís perspective of the 2004 Eisteddfod).

Diolch i Loo ar y maes am ddweud am hyn. Erthygl Saseneg yw hi gan ffrind iddi hi a ddaeth i’w Steddfod gyntaf eleni yng Ngasnewydd, heb gair o Gymraeg, er mwyn cael gwyliau, clywed bandiau newydd, a phrofi diwylliant wahanol. Tybed beth mae’r boi ’ma yn meddwl am ymdrechion Ein Cynulliad Ni i wneud y Steddfod yn “gyrhaeddadwy i bawb”?

Mae’n werth dyfynnu darn go fawr o hyn, achos mae’n atgoffa i o fy mhrofiad i o glywed Datblygu am y tro cyntaf a sylweddoli faint o’n i wedi bod yn colli am y 25 mlynedd cyntaf o’m bywyd.

A couple of people asked me what my friends thought of me going to the Eisteddfod. Every time I ordered food – in English – the person serving me gave me a curious look and asked if I was enjoying myself. Maybe I didnít think too much about ìthe language thingî before I came, or it never really struck me what going to a Welsh festival involved. [..]

For me, personally, it was a holiday. Something different. A chance to get away for seven days. Obviously, as this wasnít my language or culture, I was always going to be an outsider. However, the language barrier was not a big issue. [..]

I saw a lot of bands throughout the week, and obviously all sung in Welsh. I didnít get a word. But like I said, this just didnít seem important. [..]

Finally-Pep Le Pew. I already had their first album, but nothing prepared for what I would hear throughout the week. [..] Everyone was going mad for a set of songs that, at the time of the gig, werenít even released. [..]

ome of the conversations I had turned to the future success of these artists. Some came to the depressingly realistic conclusion that the mainstream still isnít interested in Welsh-language music. In my opinion, is just a travesty, and an insult. For a band like Pep Le Pew to go largely unnoticed on the whole just seems like a crime. A couple of these records might have made it on to John Peel (RIP), but thatís about it. Considering I saw more passion and dexterity in a week than I would have seen in a yearís worth of gigs, this is a shame – but the majorityís loss. I had a great week, and I canít wait until next year.

Beth mae’r Eisteddfod yn wneud i denu mwy o bobl fel hyn i’n Prifwyl?

“Island” gan Claire Hamill

Mae Mystical Beast wedi postio MP3 o “Island” gan Claire Hamill, sy wedi agor llif-iet o atgoffion melys i mi. Dw i ddim yn gwybod sut ydw i’n nabod y trac yma, ond dw i’n sicr mod i heb ei glywed ers 15 mlynedd o leia.

Mae hyn fel madeleine i’r clustiau i mi, ond mae’r atgoffion i gyd yn llwyd, anglur. Parti rhywle?

Mynd yn hen, bois.

Mae Claire Hamill dal i gigio, sy’n newyddion da os ti’n byw yn Hastings.

Gwe-ffan yn Ffrangeg, gyda detholiad o MP3au bach (nid wrth fy nant i, i fod yn onest).

Fydda i ddim yn cysgu heno, nes i mi gofio ble dw i wedi clywed hyn o’r blaen.

Does dim sut peth â’r “Celt”

Pick ‘n’ Mix Celts – gan awdur sy’n casau joss-stick Celticism â chasineb pur.

[Ireland] is indeed the self-proclaimed Celtic mecca, where the term Celtic is applied indiscriminately to virtually every department of life, from spirituality to politics, jewellery, music, sticky liqueurs and even the economy – the boom of the 1990s having been inevitably baptised the “Celtic tiger”.
The mainstream Churches, Catholic and Protestant, on both sides of the water, have embraced Celtic “heritage”, however dimly understood, with equal enthusiasm and often for similar reasons. It sounds vaguely anti-colonial – always a good thing. For them, too, it means anything positive, liberated, a tad “alternative”, or just plain wholesome.

Hoffwn i sgwennu rant go fawr am yr agwedd yma, ond mae awdur y darn yn llygad ei le, ac mae prinder o amser ’da fi: dw i ar fy fordd i ddysgu iaith y Celt bondigrybwyll i griw bach dethol o bobl. Fydd dim un ohonyn nhw yn gwisgo gemwaith piwter. (Jyst fel aside, dw i wedi sylweddoli bod y dysgwyr sy’n fwya rhamantus am yr iaith, eu cysylltiadau Cymreig, a holl bolycs y niwl Celtaidd yw’r rhai cyntaf i adael y cwrs pan daw’n amlwg nad ydych chi’n cael dysgu iaith Celtaidd heb wneud eich gwaith cartre.)

Dim Dutch yn y ‘Dam

Problemau dysgu Iseldireg. Swnio’n gyfarwydd?

n Amsterdam, native speakers of English and other Westerners must wage an ongoing guerrilla battle if they want to speak the language of the country they’re living in. While the most common complaint is that when one speaks in Dutch one gets a response in English – which just about anywhere else in the world would not be done because it would be considered extremely rude – there are a number of others. One is that no one corrects you if you make a mistake. A related complaint is that no one helps you to learn the language either. And many people speak English at the slightest excuse. One person told me: “Dutch people can pause to think if they want to say something, but if I can’t immediately think of a word, they jump at me and scream ëSay it in English!’”

Mae bob dysgwr Cymraeg â’i stori am y tro cyntaf iddo drial ei Gymraeg ar siaradwr brodorol, a chael ymateb cyffelyb. Mae’n dal i ddigwydd i mi, a dw i wedi dysgu ers 10 mlynedd bellach.

Diolch i Siôn am y linc.