jgballard.com. Casgliad o newyddion a dolenni ynglyn ag un o’m hoff awduron Saesneg. Wedi dweud hynny, dw i heb ddarllen llyfr newydd gan Ballard ers 10 mlynedd, falle mwy, er bod cwpl ’da fi yma yn y ty. Ar un pryd o’n i’n addoli Ballard a Burroughs fel duwion, ond erbyn hyn dw i ddim yn siwr.
Monthly Archives: Hydref 2004
A fydd caws Cymraeg yn gwerthu’n well?
Gwerthu caws yn y ddwy iaith. Erthygl mewn cylchgrawn marchnata am ddefnyddio’r Gymraeg fel gimig i werthu mwy o gaws.
Mmm, caws.
But perhaps the most influential sales gimmick for DFB lies in its bilingual packaging, which will be produced by Amcor Flexibles in France. We decided to launch our Cadog cheddar cheese line with packaging available in both English and Welsh language editions in order to highlight its regional origins, said Gibson.
Pam yn y byd mae angen mynd i Ffrainc i gael pacediadau CYmraeg, dwed?
Wwwwwww, wwwww, wwwwwwww
Delia Derbyshire yn y 60au. MP3au gan artistiaid eraill fel ymateb i waith Derbeyshire, y ferch a weithiodd yng Ngweithdy Radioffonig y BBC, a sgwennodd thema clasurol Dr Who.
Mae Google wedi datblygu modd i Googlo dy gyfrifiadur dy hun. Dw i ddim yn gallu trio, achos mae Win98 ar y gliniadur dw i’n defnyddio dros dro, a Mac OSX ar yr un dw i wedi ordro, ond mae’n edrych yn ddefnyddiol. Os ti’n defnyddio MS Office, MS Internet Explorer, MS Outlook Express, ac, ymm, AOL negeseuon sydyn.
Fel mae rhywun yn dweud ar flog Kottke, wna i arosgyda Quicksilver
Dw i’n teimlo fel Gethin Ev heno
KFC< nid KFC. Sut i wneud dy siop cyw iar wedi’i ffrio edrych fel siop cyw iar wedi’i ffrio bach mwy enwog, heb gael dy siwio. Falle.
Un o’r pethau trist am y band Kentucky AFC – beth ydw i’n dweud? – yr unig peth trist, yw’r ffaith y bydd rhaid iddyn nhw newid eu henw unwaith maen nhw’n “gwneud e yn fawr”, achos bydd cyfrieithwyr KFC i lawr arnyn nhw fel tunnell o frics poeth.
A ydy e’n wir bod Gethin Ev wedi dechrau “cwmni chickens”? Beth yn y byd?
Iaith lafar Llangynwyd
Geiriau ac ymadroddion o Langynwyd, 1888.. Mae Gwefan Cymru-Catalonia yn llawn dop o bethau gwych fel hyn, ond mae’n anodd iawn i’w ffeindio, os wyt ti mor ddiog â fi.
Hefyd, Beibl Wiliam Morgan yn y Drych Digidol. (Bach yn araf ar ddeial-i-fyny.)
Dolenni Tsiecaidd
Tomen o ddolenni am y Werinaeth Tsiec, yr iaith, a’r we Tsieceg.
William Gibson yn blogio ‘to
Mae blog William Gibson yn ei ôl, ac mae ganddo fe jôc (sy ddim mor ddoniol â hynny, chwaith) am Bush. Rhy hir i bostio yma.
Ond yw hi’n braf gweld dy arwyr o’r cigfyd (gan gynnwys y dyn a fathodd y gair “cigfyd”) â blogiau? Gibson a Bob Mould, hyd yn hyn.
Llydaw yn y Wici
Llydaw – erthygl Wicipedia am ein chwaer wlad dros Fôr Udd. Tro cyntaf i mi weld erthygl ar Lydaw, ar y we, yn Gymraeg. Oes mwy?
Defnyddio GMail fel disg caled
Am syniad da: sut i ddefnyddio’r 1Gb o storfa ar GMail fel disg caled ychwanegol. Byddai’n handi iawn ar gyfer bac yps ac ati. Yn anffodus, Windows yn unig, ond dw i’n siwr bydd rhywun yn wneud fersiwn Mac cyn bo hir.
Sôn am Gmail, mae gen i sawl cyfrif alla i roi i unrhywun sydd eu heisiau. Gadael neges yma os oes diddordeb.
[trwy a welsh view]
Tky nagaremono
Tky nagaremono (Seijun Suzuki, 1966). Ordrais i hwn o Webflix heb wybod dim byd amdano. Mae o leia cyn-ryfedded ag unrhywbeth gan Takeshi Miike, a chan nad oedd modd i mi ffeindio mas dim byd amdano fe (a does dim manylion ar y disc, dim byd ond y ffilm) do’n i ddim hyd yn oed yn siwr ym mha degawd y’i wnaethpwyd. Alla i ddim dweud i mi fwynhau’r ffilm, ond oedd yn ddiddorol mewn pob math o ffyrdd.
Zatichi
Zatichi (Takeshi Kitano, 2003). Rhyfeddol.
Water Wrackets
Water Wrackets (Peter Greenaway, 1975). Stori Tolkienaidd, abswrd, delweddau hyfryd, cerddoriaeth perffaith, hyd yn oed teitlau mewn ffont cain. Gwych.
Dear Phone
A Walk Through H
A Walk Through H: The Reincarnation of an Ornithologist (Peter Greenaway, 1978). Bach yn rhy glyfar-glyfar, ond gwerth ei weld.
Intervals
Intervals (Peter Greenaway, 1969). Un o’r ffilmiau mwya “technegol” Greenaway. Bach yn oer, yn enwedig wrth gymharu a’r lleill ar y disc.
H is for House
H Is for House (Peter Greenaway, 1973). Un o’r ffilmiau byrion ar Early Greenaway 1, ac un o’r ffilmiau mwya cyrhaeddadwy dw i wedi gweld gan Greenaway.
Trees Lounge
Trees Lounge (Steve Buscemi, 1996). Yn fy llyfr bach, mae’n jyst dweud “rhy ddiflas”.
Gokud sengokushi: Fud
Phone
Phone (Byeong-ki Ahn, 2002). Methais i eistedd trwy hyn yn yr UGC. Ringu/Dark Water, blah.