Ble mae’r William Gibson Cymraeg

Rhaid caru William Gibson:

In very much the sense that Bush is not actually a Christian, likewise is he nothing remotely conservative. Believing Bush is conservative in any traditional sense is like believing that a Formula One racer with the Perrier logo on its side is full of mineral water.

Hefyd:

If I were to put together a truly essential thank-you list for the people who most made it possible for me to write my first six novels, I’d certainly owe as much to Ronald Reagan as to Bill Gates or Lou Reed. Reagan’s presidency put the grit in my dystopia. His presidency was the fresh kitty litter I spread for utterly crucial traction on the icey driveway of uncharted futurity. His smile was the nightmare in my back pocket.

Hefyd:

Though I should warn you, should you happen to bump into me in the meantime, that I don’t regard films of novels as being the ultimate form in which a novel may be lucky enough to manifest. I regard *the novel* as the ultimate form in which the novel manifests. And if I should suspect that you think otherwise, I’m liable to snap at you.

Mae William Gibson un o’r nofelydd mwya poblogaidd yn y byd, ac mae ei flog e yn darllen mor hawdd ag un o’i nofelau. A fyddai’n wych gweld blog Cymraeg gan rhai o’n hawduron gorau? Blog pwy fyddet ti’n darllen bob dydd. Fy rhestr i:

  • Mihangel Morgan
  • Robyn LLywelyn
  • Wil Roberts
  • Bethan Gwanas
  • Twm Morys

Keri’n crafu

Buon ni yn rhan o’r protest yn erbyn Radio Carmarthenshire yn Arberth ddoe. Siaradwyr ardderchog, bandiau gwych (ond all rhywun ddweud i ferched Garej Dolwen ei bod hi’n iawn iddyn nhw joio’u hunain?), tywydd diflas, fel arfer. Roedd Keri Jones yn ormod o gachgwn i hyd yn oed dod i’r drws i dderbyn y ddogfen oedd Cymdeithas a Menter Caerfyrddin wedi’i pharatoi. Neis hefyd i gael rhywun gweiddi “Oh, go home, will you?” arnon ni wrth i ni fynd heibio i siop yn Arberth. Gormod o eironis yna.

Beth bynnag, diwrnod braf yn y glaw, a gobeithio y bydd Ofcom yn dilyn trwyddo ar eu datganiad diweddar bod yr orsaf ar “gerdyn felen” ynglŷn â’i defnydd tokenistic o’r iaith Gymraeg.

Sôn am Ofcom a symboleiddiaeth – mae dwy ran o dair o fersiwn Gymraeg o’u gwefan nhwthau yn Saesneg. Dim ond dweud ydw i.

Niclas y Glais a’r swastikas bach

Fframio Niclas y Glais – mae Archif Genedlaethol Prydain, Gerddi Kew, wedi rhyddhau’r papurau o adeg cafodd Niclas y Glais ei arestio ar gyhuddiad o fod yn ffasgydd.

Yn swyddogol, roedd dau gyhuddiad yn ei erbyn e a’i fab Islwyn sef:

1. Eu bod wedi bod yn weithgar yn yr ymdrech i rwystro’r broses recriwtio i Luoedd Arfog ei Mawrhydi.

2. Eu bod yn berchen ar gasgliad o swastikas papur coch.

Pan ddaeth heddlu Aberystwyth ar draws y swastikas bach papur coch yma, cafodd Nicholas ei arestio ar unwaith a’i anfon i garchar Abertawe ac wedyn i Brixton.

[..]

Nid am ei fod yn ffasgydd yr oedd baneri bach ’ swastikas arnyn nhw gan Niclas y Glais – ond am ei fod yn darllen y Daily Telegraph.

Roedd y baneri wedi dod, mae’n debyg, gyda map o’r rhyfel am ddim yn y papur newydd.

Fersiwn Saesneg o’r stori hon.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Rhegiadur

Dw i’n hoff iawn o’r dywediad “does dim geiriau drwg, dim ond pobl drwg”. Rhaid bod y bobl tu ôl i’r Rhegiadur yn ddwrg iawn iawn, felly.

Llawer o eiriau ac ymadroddion newydd. Rhai o’m ffefrynnau (gan osgoi’r rhai brwnt iawn, rhag ofn i fy mam annwyl ddysgu Cymraeg).

jamio dwy ochr y dorth – Disgrifiad o berson sy’n hoff o gyfathrach rhywiol gyda bechgyn a merchaid. (gweler hefyd llyfu dwy ochr y stamp)

gwlybfflach – Yr uchafbwynt rhywiol, pegwn rhyw, orgasm. e.e. “gafodd fy nghariad i wlybfflach fel dilyw Noa neithiwr”.

Wrecsam yn chwarae adre – Y misglwyf. Amser y mis i’r ledis. e.e. “Ges ti blamad? Na, oedd Wrecsam yn whare adre.”

A dw i newydd ddod ar draws (ahem) englyn chwaethus iawn gan Twm Morys, ond wna i adael i chi ffeindio hwnna ar eich pennau eich hunain (cliw bach ’na i chi).

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Protest yn Aberystwyth, cysglyd yn Aberteifi

Heno oedd ail gyfarfod Cell Aberteifi Cymdeithas yr Iaith, ac unwaith eto ddaeth neb o Aberteifi. Gan fod pobl Llangrannog oedd y mwyafrif o’r rhai presennol (ocê, oedd fi ac Aled ’na o Langrannog, a Huw a oedd wedi dod yr holl ffordd o Aberystwyth) penderfynwyd y bydden ni’n well off trial sefydlu Cell yn ein cynefin ein hunain, er bod ni’n bwriadu gweithredu yn Aberteifi, yn bennaf. Bydd cyfarfod cyntaf Cell Crannog yn cwrdd yn y Pentre Arms, Llangrannog am 8.00 nos Iau nesa, y 29 o Hydref. Dewch yn, ahem, llu. Neu bydda i ar dy stepen drws y fore wedyn ;-)

Wrth i ni adael y cyfarfod heno, oedd newyddion S4C ar y teledu yn y Red, yn dangos bod myfyrwyr Aberystwyth wedi bod ati, eto. Mewn cyd-ddigwyddiad llwyr, derbynais i lythyr uniaith Saesneg arall y bore ’ma (wedi cwyno am hyn unwaith, a chael ymddiheuriad) gan yr adran dw i’n gweithio iddi, yr Ysgol Addysg Gydol Oes, neu beth bynnag yw ei henw yr wythnos yma.

‘Swn i wedi gwybod oedd y myfyrwyr yn cynnal protest heddi, byddwn i wedi ymuno â nhw.

Siopau coffi ac erydiad ystyr

Mae Brandywine Books yn dyfynnu o erthygl Dave Barry (sy wedi diflannu) ar y ffordd mae siopau coffi wedi coloneiddio ansoddeiriau maint:

Listen, people: You should never, ever have to utter the words ”Grande Supremo” unless you are addressing a tribal warlord who is holding you captive and threatening to burn you at the stake. JUST SAY YOU WANT A LARGE COFFEE, PEOPLE. Because if we let the coffee people get away with this, they’re not going to stop, and some day, just to get a lousy cup of coffee, you’ll hear yourself saying, ”I’ll have a Mega Grandissimaximo Giganto de Humongo-Rama-Lama-Ding-Dong decaf.”

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Ar beidio cyfieithu

On Not Translating Hafez – traethawd Dick Davies ar pam mae rhai beirdd yn fwy anodd, yn amhosibl hyd yn oed, i’w cyfieithu.

But because his poetry is by that fact an endlessly dense tissue of his languageís poetic conventions, he seems by virtue of his very skill to be monolingual, untransferable to a language and poetry which does not share such conventions.

Darllen hyn wnaeth f’atgoffa o sylwadau Twm Morys, adeg cyhoeddiad Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry. Tra oedd bron pawb arall yn sôn am y pwysigrwydd o ehangu mynediad i gerddi Cymraeg, dwedodd Twm “na, dim diolch, rwy’n sgwennu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg”.

Wrth gwrs, mae mwy o jobsys eraill ’da Twm na’r rhan fwya o feirdd Cymraeg.

[trwy languagehat, sy'n ychwanegu ei sylwadau ai hun.]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Llyfr Ymadroddion Chwe Iaith

The Pan-Celtic Phrasebook gan William Knox (sy’n darllen Morfablog – helo Wil!). Fersiwn ar-lein o’i lyfr sy’n rhestr ymadroddion yn Gymraeg, Llydaweg, Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg, Saesneg a Ffrangeg. Tipyn o gamp, felly. Fel mae’n dweud:

The book is not intended as a scholarly work, nor as an effective method for acquiring a language, but rather as entertainment, a good tool to compare the languages, and as a portable reference for tourists in language need.

Mae’n wir lot o hwyl i ddarllen, ond mae hefyd wedi dysgu rhywbeth i’r dyn deudafod hwn. Do’n i ddim yn gwybod ei fod sut peth â’r treiglad caled yn Llydaweg, h.y. treiglo b -> p; d -> t ac yn y blaen.

Pryd ydw i’n mynd i setlo i lawr i ddysgu iaith arall?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Kyffin Williams ac Adwords Google

Pedwar Kyffin. Llond ddwrn o weithiau Syr Kyffin ar wefan Oriel Online, jyst un o’r gwefannau sydd â hysbysebion uniaith Saesneg ar faes-e, ers i mi osod Adsense Google ar hwnna ddoe. Tybed a fydd cael mwy o ymwelwyr Cymraeg eu hiaith ar wefannau fel hyn yn wneud iddyn nhw feddwl eto am eu polisiau iaith? Gawn ni obeithio.

Mae hysbyseb hyn yn dangos pa mor hawdd yw e o hyd i gorneli’r farchnad yn allweddeiriau Google, os dych chi’n fusnes Cymraeg. Does dim un hysbyseb Google am y geiriau cariad, celfyddydau, chwaraeon, cynulliad, ac yn y blaen.

Wel, dim eto ;-)