Dw i’n siwr bod pawb wedi clywed erbyn hyn o’r ffrae yn y Bala dros hawliau gweithwyr archfarchnad Somerfield i siarad eu hiaith eu hunain, ac hyn, fel mae nashis eithafol yn hoff o ychwanegu, yn eu gwlad eu hunain. (Trafod ar maes-e am hyn.)
Dyn ni’n meddwl bod problemau ’da ni. Beth am bobl Nafacho sy’n gorfod siarad Saesneg yn y gwaith? (Mae’r bobl tu ôl i’r wefan honna yn cefnogi’r cyflogwr, gyda’r llaw. Dyw e ddim yn brofiad pleserus iawn os wyt ti’n credu mewn hawliau ieithyddol.)
O wefan y tŷ bwyta sy wedi rhoi’r sac i staff sy’n gwrthod llofnodi cytundeb “Saesneg yn unig”:
The Kidmans have a deep respect for the Navajo language, the Navajo culture, and the Navajo people, who are called “Dineh,” which is the Navajo word for “people.” The English policy of RD’s Drive-In is part of the Kidmans’ respect for the Navajo language. RD’s policy is not an attack on the Navajo language, nor does it reflect a lack of appreciation for the Navajo language.
(Nhw sydd biau’r duo, gyda’r llaw, nid fi. You couldn’t make it up, ys dweder y Sais, a staff RDs.)
Y cwestiwn amlwg yw beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ddwy sefyllfa. Mae’r Nafacho i gyd yn gallu siarad Saesneg; pam fydden nhw eisiau siarad yr iaith frodorol ond i ddweud pethau cas am bobl sy ddim yn deall yr iaith?
Mwy o gefndir, sy’n rhoi llais i’r bobl sy wedi colli eu swyddi.
Erthygl yn y Christian Science Monitor am yr achos yma, ac achosion tebyg eraill yn yr UDA:
English-only policies generate few official grievances. In 2002, the EEOC received 228 such complaints out of about 9,000 claims of national-origin discrimination. But observers say that many more workers who feel silenced don’t take action for fear of losing their jobs.
Mae erthygl honna yn dyfynnu o’r “cytundeb” oedd y Nafacho yn gorfod llofnodi:
The agreement read: “The owner of this business can speak and understand only English. While the owner is paying you as an employee, you are required to use English at all times … [except] when the customer cannot understand English. If you feel unable to comply with this requirement, you may find another job.”
Yr unig wahaniaeth dw i’n gallu gweld rhwng yr achosion yn yr UDA a beth sy’n digwydd yma yng Nghymru (nid jyst yn Somerfields, Y Bala) yw bod ’na lefel o gefnogaeth “swyddogol” yn America i’r rhai sy’n cael eu cam-drim ar sail iaith. Yn America, mae EEOC yn dwyn achos llys yn erbyn cyflogwyr sy’n camdrin eu gweithwyr ar sail iaith. Yng Nghymru, mae rhaid i iaithafwyr fel Cefn ddarbwyllo’r sefydliad cyffeleb bod hawliau ieithyddol yn cyfrif o gwbl.
Dw i newydd ymuno â Chefn.