Netnani y Cyngor Sir

Diolch i bolisi gor-ofalus Cyngor Sir Ceredigion, dw i’n ffaelu defnyddio chwilotydd lluniau Google yn y llyfrgell.

Nid yw’r wefan rydych chi’n ceisio cael mynediad iddi ar gael ar hyn o bryd. Gall hyn fod am un o’r rhesymau canlynol:

- Nid yw’r wefan rydych chi’n ceisio cael mynediad iddi yn bod;

- Mae’r wefan rydych chi’n ceisio cael mynediad iddi yn profi anawsterau technegol ar hyn o bryd;

- Y mae cynnwys y wefan rydych chi’n ceisio cael mynediad iddi yn groes i bolisi defnyddio’r rhyngrwyd y Cyngor Sir.

Os credwch fod hyn yn gamgymeriad, cysylltwch a’r gwe dim gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:

http://www.google.com/imghp?hl=cy&tab=wi&q= – Banned Regular Expression URL found.

Dylech gadw mewn cof y caiff HOLL ddefnydd o’r we ei logio a’i fonitro’n ddyddiol.

Gan eu bod nhw’n fy monitro, oes rhaid iddyn nhw gau un o’r gwefannau mwya defnyddiol ar y we? Gawn ni weld.

  1. Tria ddefnyddio porwr lluniau google.co.uk yn hytrach na .com – gweithio’n iawn yn yr ysgol.