Cwrw newydd o’r enw “Cwrw”. Byddai’n wych ’sen nhw gwerthu hyn gyda labelau Repoman-aidd. Debyg bod y BBC ddim yn deall y jôc, os taw jôc yw e.
The cask conditioned beer – Cwrw go iawn Cymru – is named after the mediaeval warrior-poet Lewis Glyn Cothi who lived at nearby Brechfa.
Ymm…
Sut wyt ti fod i ofyn am beint o hyn mewn tafarn?
Ti: Peint o Gwrw, plîs.
Barmyn: Pa fath o gwrw?
Ti: Cwrw, plîs.
Barmyn: Ie, dw i’n gwybod hynny, ond pa fath o gwrw?
Mae pobl wedi cael eu banio o’r Llew Du am lai na hyn.
O leia mae rhywun ar wefan Cymru a’r Byd yn gwybod nid ffug-enw Lewis GLyn Cothi yw’r gair “cwrw”.
Unwrhywun yn gwybod beth yw’r cysylltiad? Oedd Lewis yn hoff iawn o’i lysh?
O, aros, bardd oedd e, wrth gwrs.