Braf gweld bod Peter Black AS wedi llwyddo symud ei flog draw i Blogspot, a’r holl archifau hefyd.
Dw i wedi clywed si bod o leia un aelod Cynulliad sy’n medru’r Gymraeg yn ystyried dechrau blog, a dw i wedi sgwennu ato i ddweud pa mor wych byddai fe ’sai’r blog yn un Cymraeg, neu o leia’n ddwyieithog.
Dydy’r AS ’ma ddim yn aelod Plaid Cymru.
Na, dim Plaid Lafur chwaith.
A dyw e ddim yn yr un blaid â Peter Black.
Fyddai’n ddiddorol ’sai’r AS cyntaf i flogio yn y Gymraeg yn dod o’r Blaid Arall, ond fyddai?
Y ceidwadwyr? Guto Bebb? Ydi o’n AS, ta jyst yn ASS?
Dim offens, Guto, ond doeddwn i methu helpu ond mynd am y joc hawdd.
Dwi’n cymryd mai am Glyn Davies neu David Davies ydan ni’n son? Heb os, aelodau Cynulliad dadleuol a deallus. Byddai blog gan y naill neu’r llall yn werthfawr a diddorol.
David Davies. Mae Peter Black wedi sôn am hyn ar ei hen flog.
Dwi di clywed si fod Gruff Rhys efo blog, ond dwi’m yn credu fod e, mi fydde ni di ffindio fe erbyn nawr, fydden?
My blogspot is still work in progress however. I am in the process of transferring the archives over. In the meantime I am still updating the old blog. The target is to get the new blogspot up and running exclusively by the end of October, earlier if possible.