Apêl yr iMac

Oedd rhaid i mi adael y llyfrgell ’ma am hanner ar ôl i mi bostio’r peth ’na ar y dde am gyfraniadau at yr iMac newydd, ac erbyn i mi ddod yn ôl oedd $20 wedi cyrraedd yn barod! Diolch i’r ddau gyfrannwr hael. Dw i ddim am am enwi pobl yma, ond wna i roi ypdêts yn y sylwadau – os bydd ypdêts i gael ;-)

Un cwestiwn: daeth y ddau gyfraniad trwddo yn ddoleri UDA, er mod i’n eitha sicr taw pobl sy’n byw yng Nghymru. Os ydy’r dudalen Paypal yn dangos taliad yn doleri fel ’na, cofiwch bod hi’n bosibl i’w newid i bunnoedd cyn rhoi’r ffigerau i mewn. Dyw e ddim yn wneud unrhyw gwahaniaeth i fi, wrth gwrs, mae’r arian yn cael ei gonferto yn awtomatig.

Diolch eto,

Nic

6 thoughts on “Apêl yr iMac

  1. Am y peth doleri – dyw hi ddim ar y pryd yn rhoi’r opsiwn inni newid i bunnoedd ein hunain, eithr y mae’n ein cysuro ni drwy dweud y bydd paypal yn handlo’r newid heb inni boeni’n pennau bach am y peth…

  2. Diolch am y cyngor, ac am y botwm Cymraeg pads. Dw i wedi newid y côd nawr.

    Hyd yn hyn, dw i wedi derbyn 85 punt mewn cyfraniadau, felly diolch yn fawr iawn i bawb sy wedi cyfrannu hyd yma.