Llond bol, eto

Dim ond gair bach i ddweud pam dw i wedi cau maes-e. Dw i erbyn hyn wedi cael fy mygwthio yn gyfreithiol gan bobl ar ddwy ochr o ddadl sydd dim byd i wneud â fi, sydd o ddim diddordeb i fi, ac sydd, cyhyd ag y mae’n cyffwrdd ar y byd go iawn a nid jyst personality clash rhwng ddau garfan o bobl, un o’r pethau tristaf dw i wedi eu gweld ers i mi ddod i fyw yn y Gymru Gymraeg (ers i mi ddysgu’r iaith, hynny yw).

Dw i wedi wneud y pwyntiau uchod trosedd a throsedd ar y maes, ond mae pobl yn dal i ddefnyddio’r lle fel ei fod rhywfath o dalwrn cyhoeddus i ymosod ar ei gilydd.

Nid eiddo cyhoeddus yw maes.com, ond, yn y pendraw, gwefan personol un dyn. Fi sy’n talu amdano fe, fi sy’n gyfrifol am ei redeg, ac am benodi’r bobl sy’n fy helpu fi ei redeg. Os ydy problemau cyfreithiol yn codi ynglŷn â’r ffordd mae pobl yn defnyddio maes-e, fi sy’n gyfrifol o dan y cyfraith. Os ydy’r buck yn stopo, mae’n stopo wrth fy nhraed i, nid y gweinyddion eraill, nid y cymedrolwyr eraill, ac nid yr aelodau eraill. Os wyt ti’n (ti! sy’n darllen hyn nawr) postio rhywbeth fel “Mae Rhdori Morgan yn ffwcio plant” ar maes-e, fi fydd yn gorfod ymdopi â’r achos llys bydd yn cael ei ddwyn yn fy erbyn os ydw i’n gwrthod dileu y neges. (Bydda i hefyd yn gorfod ymdopi a dy gwynion di am sut ydw i’n atal dy hawliau siarad yn rhydd os ydw i yn dileu’r neges, ond hei, dyw e ddim fel bod dim byd gwell ’da fi wneud, nadyw?)

Fel dw i newydd esbonio i un person ar un ochr y ddadl hurt yma, os ydy un o’r partion sy wedi “rhybuddio” fi y bydden nhw’n mynd i’r heddlu gyda chwynion syddogol yn acsiwli wneud hynny, yr unig peth sy’n sicr yw bydd maes-e yn cael ei gau i lawr yn gyfan gwbl, am byth. (Mae’n bosib byddai rhaid i mi dalu damages i rywun hefyd ’sai eu hachos yn llwyddiannus, ond dw i ddim yn poeni yn ormodol am hynny gan fod dim arian ’da fi, ac mae’n debyg bod hi’n haws tseco ebost o HMP Abertawe nag yw e o Faes y Morfa ar hyn o bryd, ta beth.)

‘Swn i ar lein gartre ar hyn o bryd (gweler y cofnod isod: mae BT wedi dweud falle bydd hi’n bythefnos arall cyn iddyn drwsio ein lein ffôn; pwy â ŵyr a fydd cyfrifiadur sy’n gweithio ’da fi erbyn hynny) mae’n jyst yn bosib y byddwn i’n gallu sorto hyn ma’s, cadw pawb yn hapus, ac osgoi’r sefyllfa o gael fy siwo dros rhywbeth sydd â dim byd i wneud â fi, ac hynny heb dreulio mwy nag awr neu ddwy y dydd am gyfnod, dileu negeseuon cas o’r maes, ateb ebyst hir gan bobl ar y ddwy ochr, Googlo am gyngor cyfriethiol ynglyn ag enllib, ac yn y blaen ac yn y blaen ad ffycin nausiwm.

Ond dw i ddim ar lein gartre ar hyn o bryd, felly does dim dewis ’da fi ond i gymryd maes-e oddi ar lein hefyd, gan obeithio y bydd y bobl ar ddwy ochr y ddadl yma yn gallu sorto fe mas rhyngddyn nhw mewn beth bynnag ffordd sy’n eu siwto nhwthau, heb lusgo fi a fy ngwefan i i mewn i’r peth bellach.

Felly, os ydy pobl am gario ymlaen gyda’r ddadl yma, fydd dim dewis ’da chi ond i ffeindio fforymau eraill i’w wneud hynny. Unwaith mod i ar lein gartre, bydd maes-e yn ôl, ond os ydy pobl yn cario ymlaen ymddwyn fel maen nhw wedi bod, fydd dim dewis ’da fi ond i fod yn fwy llym o lawer yn y ffordd dw i’n gweinyddu’r maes, gan ddileu cyfrifau pobl sy’n anwybyddu’r sawl cais dw i wedi wneud i beidio cam-ddefnyddio maes-e fel hyn, i gau’r maes i aelodau di-enw i amddiffyn fy hun rhag achosion enllib, ac, o bosib, i ddechrau codi tal aelodaeth bychan er mwyn talu fy hunan cyflog am yr holl amser dw i’n gorfod treulio sorto mas pethau fel hyn.

Neu jyst gwerthu’r maes i rywun arall cael profi faint o hwyl yw e rhedeg gwefan gymunedol Gymraeg. Ar hyn o bryd, bydda i’n ystyried unrhyw cynhygion dros £919.

193 thoughts on “Llond bol, eto

  1. Dwi’n gorfod cyfaddef mae maes e wedi bod yn dda iawn i fy Nghymraeg ysgrifynedig a wedi gwneud fi’n fwy cyffyrddus i leisio fy marn. Felly beth wy ti Nic yn mynd i wneud efo yr holl amser sbar gyna chdi?

  2. Dwi’n gorfod cyfaddef mae maes e wedi bod yn dda iawn i fy Nghymraeg ysgrifynedig a wedi gwneud fi’n fwy cyffyrddus i leisio fy marn. Felly beth wy ti Nic yn mynd i wneud efo yr holl amser sbar gyna chdi?

  3. Warren Whitmore = PRAT!

    “Mae Nic yn cau Maes-e o bryd i’w gilydd pan nad yw’n meddwl ei fod yn cael digon o sylw.”

    Mae’n amlwg nad wyt ti’n nabod Nic o gwbl, neu fydde ti ddim yn gwneud gosodiad mor ddwl!

    Beth am i ti ddechre Maes tebyg Warren? Bydd un aelod gyda ti oleiaf, a byddi di’n gadael pawb call arall mewn llonydd!

  4. Ga’i ategu’r aelodau (synhwyrol) arall o Faes-e, trwy fynegu fy siom fod y lleiafrif yn striwo popeth i’r mwyafrif. Ni ddylai angen rhybudd ar bobl am eu hymddygiad gan fod hyn yn ran o’r rheolau ymuno ta beth. Cicia’r nobs mas, gan adael y maes fel lle trafod call i’r gweddill.

  5. Pogon unwaith eto yn siarad drwy ei het. Sut fedr un person fod yn rong am bob dim erioed? Mae’r mathemateg ar gyfer hynny’n syfrdanol.
    Son am fathemateg, ydi 919 yn ryw fath o god sgwn i?

  6. Wi ddim yn cydrhannu yn amal iawn ñ darllen mwy na unrhwbeth! Yn drueni iawn i weld hyn yn digwydd. Gobeithio geith e ei sortio maís cyn bo hir. Pob lwc i ti Nic

  7. Wi ddim yn cydrhannu yn amal iawn ñ darllen mwy na unrhwbeth! Yn drueni iawn i weld hyn yn digwydd. Gobeithio geith e ei sortio maís cyn bo hir. Pob lwc i ti Nic

  8. Waw.

    Wel, peth cynta i ddweud, yn amlwg, yw diolch yn fawr iawn i bawb sy wedi cefnogi’r hen faes, a’r hen foi sy’n ei redeg. Dw i’n eich caru i gyd (hyd yn oed y cynic bondigrybwyll ;-)

    Gair bach o egluriad: nid achos y sylwadau twp eu hunain ydw i wedi cau’r maes, ond achos does dim modd i mi gysylltu â we gartre. ‘Sai modd i mi wneud fy job fel perchennog y wefan, byddwn i fod wedo ymdopi â’r sylwadau problematig yn hawdd, yn y ffyrdd arferol (dileu negeseuon, rhybuddio yr aelodau a’i postiodd, gwahardd pobl os fyddai angen). Do’n i ddim yn poeni’n ormodol am y “bygwthiad” cyfreithiol, ond gan nad oedd modd i mi cadw llygad ar y mater, rhaid oedd cau’r maes dros dro. Felly, os dych chi am roi’r bai am hyn i gyd ar unrywun, rhowch y bai ar BT, sy wedi ein gadael heb linell ffôn ers 17 diwrnod erbyn hyn. Dw i’n amau yn fawr y byddai hyn wedi digwydd ‘swn i ddim yn byw yn y cefn gwlad, a gorfod aros cyhyd i gael y fath gwasanaeth mae cwsmeriaid BT yn y ddinas yn gallu dibynnu arno fe.

    Y sefyllfa hardware: mae fy iBook wedi ffwcio, yn ôl y bois yn BCCIT, Castell Newi. Dw i heddi wedi ordro iMac newydd, gyda gostyngiad addysgol Apple, sy wedi fy nghostio £1000. Os ydy unrhywun yn teimlo fel wneud cyfraniad bach at hyn (a dw i’n meddwl bach – plis paid â rhoi mwy na £5 yr un) cei di wneud trwy Paypal gan ddefnyddio’r botwm ar y dde. Byddwn i’n ddiolchgar iawn, ond rhaid i mi bwysleisio (i’r rhai mwy sinicaidd ohonoch chi) does dim rhaid i neb deimlo bod rhaid iddyn nhw wneud hyn. Dw i’n teimlo yn lletchwith dweud hyn hyd yn oed, ond bod sawl un wedi gofyn i mi sut allen nhw gyfrannu yn ariannol.

    Fel mae’n dweud ar y maes, bydd maes-e yn ôl dydd Llun nesa (erbyn y prynhawn). Dw i’n dechrau gweithio (dysgu Cymraeg i oedolion) wythnos nesa, felly bydd tipyn bach yn haws i mi gadw mewn cyswllt â phethau. Hefyd, mae Cardi Bach wedi dod yn ôl fel gweinyddwr, felly bydd pâr ychwanegol o lygaid saff ar y maes.

    Os ydy BT yn gallu tynnu eu bys mas, mae’n bosib bydda i ar lein gartre cyn hynny, a dw i wedi trefnu cael benthyg gliniadur wrth i mi aros am yr iMac newydd, felly mae’n jyst yn bosib y bydd y maes yn ôl cyn dydd Llun nesa, ond alla i ddim addo hynny. Os ydy unrhywun yn nabod unrhywun sydd â dilanwad gyda BT, croeso i chi dynnu pa bynnag string sydd angen eu tynnu i sorto mas ein ffôn. Dw i wedi diflasu â’r holl busnes (ac ar ddweud wrth pobl y cyfryngau “na, nid bai Person X yw hyn, ond bai BT).

    Gobeithio bod hyn yn glir i bawb, ond y peth ola dw i moyn gweld unwaith bod y maes yn ei ôl yw helfa gwrachod, a lot o bobl trial rhoi’r bai am hyn i gyd ar bennau aelodau penodol maes-e – nid bai unrhyw aelod maes-e yw’r ffaith i mi gau’r maes. Plis, plis, plis peidiwch ag ychwenegu at y broblem gan ddilyn y sgwarnog hwnna. Bai’r mellt a losgodd fy iBook, y gwynt a ddaeth â’r lein ffôn i lawr, ac arafwch BT trwshio’r blydi peth yw hyn i gyd, nid unrhyw unigolion.

    Diolch yn fawr eto, ac yn arbennig i bawb am fod mor garedig yn y Cnapan noson o’r balen. Mae hyn i gyd braidd yn overwhelming ac mae’n flin iawn ‘da fi bod hyn wedi digwydd. Rhaid i ni drefnu rhywbeth gwell ar gyfer y storm mellt nesa ;-)

  9. Dwi’n credu dylse ni gyd gyfrannu i brynnu ‘Surge Protector’ i Nic. :-)

    Er mai amgylchiadau Nic sydd wedi dylanwadu fwyaf ar sefyllfa gomatos y Maes, rhaid i bobl barhau i drin y Maes gyda’r parch mae’r mwyafrif wedi dangos arno. Yn ystod y dyddie diwetha dwi wedi bod ar nifer o fforymau eraill (withdrawal symptoms) a mae’n rhaid dweud fod y gwaith a’r cyfrifoldeb sydd ar ysgwydde Nic yn anhygoel. Dwi’n codi fy het i unrhywun sy’n gallu gofalu dros haid o gyfranwyr opinionated fel ni a pheidio colli rheolaeth yn llwyr.

    Cofia am y ‘Surge Protector’ Nic, gobeithio ga’i i’n ffics mewn wytrhnos ;-)

  10. dwi’n dalld yn iawn sut wti’n teimlo nic, ar goll heb laptop am fisoedd ar ol storom wyllt – ac mi oedd gin i surge protector! neshi golli llwyth o betha ar ol i’r peth ffrio.

    yn od iawn heb maes-e, ond dwi’n pitio na ddigwyddodd hyn ryw fis yn ol, pan oedd gin i lwyth o waith i neud! o wel, neith les i ni i gyd hebddo fo am sbelan…ond ddim gormod, plis! pob lwc!

  11. dwi’n dechre licio hyn — er ei bod hi’n rhyfedd heb y maes mae’n gwd cael brÍc hefyd. dwi’n meddwl y dylai maes e gael pythefnos o wylie bob blwyddyn ddiwedd medi er cof.

    atgoffa fi braidd o pobol y cwm ers talwm. cofio? dod i ben yn sydyn ddechre’r haf achos ymddygiad plentynnaidd rhywun (e.e. barry john yn ffrwydro’r clwb golff), wedyn dechre’n Ùl eto a pawb yn gyffro i gyd! ok, falle ddim.

  12. Ma’r hen Jac y Diawl yn ennill ei fara menyn gan BT. Efallai bydd o’n gallu dy helpu, Nic.

  13. Ma’r hen Jac y Diawl yn ennill ei fara menyn gan BT. Efallai bydd o’n gallu dy helpu, Nic.

  14. Ma maes-e fel drug mae’n uffernol o addictive! Dim ond 6 diwrnod tan fydd o’n nol- mae fy’n nhwylo i yn crynu achos bod fi heb fod arno ers oes!!!

  15. Gobeithio bydd y maes yn Ûl yn fyw cyn bo hir! Mae ymadawiad tymor byr y maes wedi bod yn ddagr yn fy nghalon!
    (oce, dim dagr, ond pin bawd – mae o dal yn brifo!)

  16. O’r diwadd dwi’n gwbod be di enwa iawn lot fawr iawn o aeloda Maes-e! fel y gwelwch Awel dwi tu fewn a thu allan i faes-e.
    Ma’r compiwtars ma isio cic yn’u tina be bynnag, odd rhaid i mi fynd cold turkey heb faes-e am ryw fis rha ma fyd…ddim yn neis

  17. Aye! Diolch am y gan. Wedi anghofio pa mor uffernol o dda oedd hi (plys y sentimental faliw).

  18. Blydi hel, lle dwi di bod am yr wsnos dwytha fel mai dim ond rwan dwi’n sylwi ar hyn?
    Poeni am Alex Hamilton mae’n debyg.
    Llongyfarchiadau iti Nic am dy gyfraniad i drafodaeth gyfoes GYmraeg, a brysia’n Ùl!

  19. [Sylwch does dim angen pwyso'r botwm "Anfon" mwy nag unwaith yma, hyd yn oed os ydy MT yn hongian a rhoi neges wall i ti. Amynedd, gyfeillion.]

  20. Efallai mai pan ddaw y maes nol yw’r amser i drafod hyn yn drylwyr ond hoffwn wybod oes da ti Nic wrthwynebiad mewn egwyddor i gael grant/iau o rywle. mae dy gyfraniad yn sicr yn haeddu cyfraniad oddi wrth y Bwrdd Iaith, a beth am Amcan 1? Ryw whare meddylie fel na os dwedodd Pont Sian

  21. Ymateb i’r sylw uchod. Plis paid mynd am grant Nic – fydde fe strwa’r holl syniad o Maes E. Fi’n mynd i anfon cyfraniad bach…

  22. Ymateb i’r sylw uchod. Plis paid mynd am grant Nic – fydde fe strwa’r holl syniad o Maes E. Fi’n mynd i anfon cyfraniad bach…

  23. Ti sy’n gwybod Nic, ond sbia pa amoda mae’r bwrdd wedi’u rhoi ar yr Eisteddfod; Seisnigo neu dim mwy o bres…
    Ond yn Ùl at y negeseuon o gefnogaeth.
    (ac os ymddangosith hwn ddwywaith m fydda’ i’n flin!)

  24. faswn i’m yn hapus gweld maes-e yn cal grant gan y bwrdd iaith, mi fuase’n dinistrio holl ‘ethos’ y lle.
    Os oes angen pres, dylai ddod gan yr aelodau.

  25. Na phoener, dw i ddim am fynd am grant, o unrhyw ffynhonnen arian cyhoeddus. Mae maesydd lle mae arian cyhoeddus yn anochel; dydy maes-e ddim yn un ohonyn nhw.

  26. Mae Maes-e’n hanfodol. Paid ’ chael llond bol. Rho gic allan i’r ffycars sy’n methu bihafio a dal ati.

  27. Dal ati,Mae’n chwith heb y maes ond efallai er dy fwyn dy hun y dylia ti fynnu fod pawb yn defnyddio eu henwau eu hunain – a felly mi fydda ninna’n gwbod pwy ‘di’r tossars.

  28. 20 munud i fynd tan ail agor y Maes ;-)

    “Mae Maes-E ar gau ar hyn o bryd. Bydd yn ail-agor ar ddydd Llun, 4ydd Hydref.”

  29. ma hi’n ddydd llun ?? lle ma maes e ? wel gwell mynd i gysgu a fydd o yma yn bore gobeithio – dwin teimlo fel bod hi’n noson cyn dolig !!

  30. Felly ‘Bach’ ydi dy gyfenw di ia Tony? Heb fod yn rhy sycch duwiol – trawst a brycheuyn methinks my boy.

  31. Felly ‘Bach’ ydi dy gyfenw di ia Tony? Heb fod yn rhy sych duwiol – trawst a brycheuyn methinks my boy.