Llond bol, eto

Dim ond gair bach i ddweud pam dw i wedi cau maes-e. Dw i erbyn hyn wedi cael fy mygwthio yn gyfreithiol gan bobl ar ddwy ochr o ddadl sydd dim byd i wneud â fi, sydd o ddim diddordeb i fi, ac sydd, cyhyd ag y mae’n cyffwrdd ar y byd go iawn a nid jyst personality clash rhwng ddau garfan o bobl, un o’r pethau tristaf dw i wedi eu gweld ers i mi ddod i fyw yn y Gymru Gymraeg (ers i mi ddysgu’r iaith, hynny yw).

Dw i wedi wneud y pwyntiau uchod trosedd a throsedd ar y maes, ond mae pobl yn dal i ddefnyddio’r lle fel ei fod rhywfath o dalwrn cyhoeddus i ymosod ar ei gilydd.

Nid eiddo cyhoeddus yw maes.com, ond, yn y pendraw, gwefan personol un dyn. Fi sy’n talu amdano fe, fi sy’n gyfrifol am ei redeg, ac am benodi’r bobl sy’n fy helpu fi ei redeg. Os ydy problemau cyfreithiol yn codi ynglŷn â’r ffordd mae pobl yn defnyddio maes-e, fi sy’n gyfrifol o dan y cyfraith. Os ydy’r buck yn stopo, mae’n stopo wrth fy nhraed i, nid y gweinyddion eraill, nid y cymedrolwyr eraill, ac nid yr aelodau eraill. Os wyt ti’n (ti! sy’n darllen hyn nawr) postio rhywbeth fel “Mae Rhdori Morgan yn ffwcio plant” ar maes-e, fi fydd yn gorfod ymdopi â’r achos llys bydd yn cael ei ddwyn yn fy erbyn os ydw i’n gwrthod dileu y neges. (Bydda i hefyd yn gorfod ymdopi a dy gwynion di am sut ydw i’n atal dy hawliau siarad yn rhydd os ydw i yn dileu’r neges, ond hei, dyw e ddim fel bod dim byd gwell ’da fi wneud, nadyw?)

Fel dw i newydd esbonio i un person ar un ochr y ddadl hurt yma, os ydy un o’r partion sy wedi “rhybuddio” fi y bydden nhw’n mynd i’r heddlu gyda chwynion syddogol yn acsiwli wneud hynny, yr unig peth sy’n sicr yw bydd maes-e yn cael ei gau i lawr yn gyfan gwbl, am byth. (Mae’n bosib byddai rhaid i mi dalu damages i rywun hefyd ’sai eu hachos yn llwyddiannus, ond dw i ddim yn poeni yn ormodol am hynny gan fod dim arian ’da fi, ac mae’n debyg bod hi’n haws tseco ebost o HMP Abertawe nag yw e o Faes y Morfa ar hyn o bryd, ta beth.)

‘Swn i ar lein gartre ar hyn o bryd (gweler y cofnod isod: mae BT wedi dweud falle bydd hi’n bythefnos arall cyn iddyn drwsio ein lein ffôn; pwy â ŵyr a fydd cyfrifiadur sy’n gweithio ’da fi erbyn hynny) mae’n jyst yn bosib y byddwn i’n gallu sorto hyn ma’s, cadw pawb yn hapus, ac osgoi’r sefyllfa o gael fy siwo dros rhywbeth sydd â dim byd i wneud â fi, ac hynny heb dreulio mwy nag awr neu ddwy y dydd am gyfnod, dileu negeseuon cas o’r maes, ateb ebyst hir gan bobl ar y ddwy ochr, Googlo am gyngor cyfriethiol ynglyn ag enllib, ac yn y blaen ac yn y blaen ad ffycin nausiwm.

Ond dw i ddim ar lein gartre ar hyn o bryd, felly does dim dewis ’da fi ond i gymryd maes-e oddi ar lein hefyd, gan obeithio y bydd y bobl ar ddwy ochr y ddadl yma yn gallu sorto fe mas rhyngddyn nhw mewn beth bynnag ffordd sy’n eu siwto nhwthau, heb lusgo fi a fy ngwefan i i mewn i’r peth bellach.

Felly, os ydy pobl am gario ymlaen gyda’r ddadl yma, fydd dim dewis ’da chi ond i ffeindio fforymau eraill i’w wneud hynny. Unwaith mod i ar lein gartre, bydd maes-e yn ôl, ond os ydy pobl yn cario ymlaen ymddwyn fel maen nhw wedi bod, fydd dim dewis ’da fi ond i fod yn fwy llym o lawer yn y ffordd dw i’n gweinyddu’r maes, gan ddileu cyfrifau pobl sy’n anwybyddu’r sawl cais dw i wedi wneud i beidio cam-ddefnyddio maes-e fel hyn, i gau’r maes i aelodau di-enw i amddiffyn fy hun rhag achosion enllib, ac, o bosib, i ddechrau codi tal aelodaeth bychan er mwyn talu fy hunan cyflog am yr holl amser dw i’n gorfod treulio sorto mas pethau fel hyn.

Neu jyst gwerthu’r maes i rywun arall cael profi faint o hwyl yw e rhedeg gwefan gymunedol Gymraeg. Ar hyn o bryd, bydda i’n ystyried unrhyw cynhygion dros £919.

193 thoughts on “Llond bol, eto

  1. Trist iawn clywed am ddiwedd dros dro y maes. Mae’r safwe yma wedi cael ei dinistrio gan yr unig beth oedd yn ei gwneud hi’n lwyddiannus, y rhyddid i roi dy farn. Bechod fod rhai yn rhy groen dennau. Hoffwn gynnig hosting ar gyfer y maes yn y dyfodol, os oes unrhyw ffordd y medrwn ni helpu cysyllta.

  2. Trist iawn clywed am ddiwedd dros dro y maes. Mae’r safwe yma wedi cael ei dinistrio gan yr unig beth oedd yn ei gwneud hi’n lwyddiannus, y rhyddid i roi dy farn. Bechod fod rhai yn rhy groen dennau. Hoffwn gynnig hosting ar gyfer y maes yn y dyfodol, os oes unrhyw ffordd y medrwn ni helpu cysyllta.

  3. iesu grist, mae dyl mei yn mynd i caerdydd am 3 dydd ar maer holl lle yn ddisgyn i ddarna!!!

    Trist iawn i clywed amdan hyn, fel mae pawb yn dweud Nic, gan y chdi ddigon o cefnogaeth, yn enwedig gan aeloda o fandia ac trefnwyr gigs, fysa yr Srg di bod yn lle tywill iawn yn y flwyddyn dwetha heb maes – e, heb os, maer wefan yma wedi newid bywyd gigs ect ect yn nhgymru am yr gwell.

    Roc On Maes E!

  4. iesu grist, mae dyl mei yn mynd i caerdydd am 3 dydd ar maer holl lle yn ddisgyn i ddarna!!!

    Trist iawn i clywed amdan hyn, fel mae pawb yn dweud Nic, gan y chdi ddigon o cefnogaeth, yn enwedig gan aeloda o fandia ac trefnwyr gigs, fysa yr Srg di bod yn lle tywill iawn yn y flwyddyn dwetha heb maes – e, heb os, maer wefan yma wedi newid bywyd gigs ect ect yn nhgymru am yr gwell.

    Roc On Maes E!

  5. C’mon Nic spill the beans ar beth sydd wedi digwydd. Mae ni angen gwybod er mwyn llabuddio y dau person yn cyhoeddus.

  6. Blimey – dwi’m yn cyfrannu’n amal ond yn darllen pob dydd.
    Trist iawn ydy hyn fel mae pawb wedi deud.

    Gobeithio galli di sortio’r pricks bach sydd wedi achosi hassle i chdi ac atgyfodi’r maes cyn bo hir.

    Nice one Nic – unrhyw un arall am ddechrau ymgyrch i gael Nic yn y wisg wen – Nic o’r Maes!

  7. Parch i ti Nic – mae dechrau fforwm yn ddigon hawdd erbyn hyn (gweler yr un ar Unarddeg) ond y gwaith anodd ydi ei gynnal a’i gadw, ac mae’r modd wyt ti wedi bod yn bugeilio cymuned fach Maes-e dros y blynyddoedd wedi bod yn ddim llai nac arbennig yn fy marn bach i. Gobeithio bydd y problemau yn cael eu datrys cyn bo hir ac y bydd Maes-e yn bleser i ti unwaith eto yn hytrach nac yn fwrn!

  8. Pob lwc Nic. Fel pawb arall, ddim yn gwbod yn iawn beth ddigwyddodd, ond dyna ni!

    Dyw e ddim ‘run peth heb Faes-e :-(

    Gobeithio fydd e nÛl yn fuan.

    Oes unrhyw wirionedd yn y stori mae publicity stunt i gael mwy o sylw i Maes-e yw hwn? (jÛc gwael!)

  9. Mae’r Khan tu ol i ti 200000%. Ti wedi gwneud siwd gymynt dros y sin gan greu’r maes felly diolchiadau mawr, ond, trueni yw ei weld yn darfod (am y tro). Myfyrwyr a’i gwleiddyddiaeth – dyna’r broblem!!! Hir oes i’r Nick! XXX

  10. Mae’r Khan tu ol i ti 200000%. Ti wedi gwneud siwd gymynt dros y sin gan greu’r maes felly diolchiadau mawr, ond, trueni yw ei weld yn darfod (am y tro). Myfyrwyr a’i gwleiddyddiaeth – dyna’r broblem!!! Hir oes i’r Nick! XXX

  11. Dim ond un neges arall o gefnogaeth i ti Nic. Os oes ‘na unrhyw beth y gall aeloda cyffredin fel fi neud – gofyn.

  12. Ers ychydig wythnosau rwan, dwi wedi bod yn ymweld a Maes E er mwyn dod yn gyfarwydd a’r ffordd mae o’n gweithio, ac roeddwn i’n bwriadu dod yn rhan o’r cylch yn fuan. Trueni fod rhai’n difetha’r hwyl i eraill, fel dywedodd rhywun uchod. Pan ddaw maes-e nol ar lein, mi fydda i gyda’r cyntaf i ymaelodi. Dwi’n llawn edmygedd o’r bobl sy’n cynnal y wefan hon – mae pobl o bob math yn cyfarfod yma, ac yn sgwrio yn Gymraeg. Nefoedd ar y rhyngrwyd! Gobeithio y bydd yr holl negeseuon o gefnogaeth yn galondid i chi, Nic, a hir oes i Maes E gobeithio.

  13. Gobeithio bydd y problemau yma ddim yn rhai tymor hir iawn, dwin colli rhen faes yn barod :(
    Rhowch hell iddyn nhw hogia BT !

    Nic – Dim Brys, Dim Chwys

    -=Norman=-

  14. Trist iawn i ffeindio m’s am Maes-e. Mae wedi bod yn lle ardderchog i bractisio fy Ngymraeg.

  15. Pob lwc Nic. Methu aros tan fydd maes e nol ar ei draed… Dim ots be ma neb yn dweud fydd ru’n gwefan arall yn medru cymryd lle maes e!!

  16. Yn bendant, mae maes-e wedi cyfrannu’n helaeth tuag at y frwydr dros yr iaith, wedi helpu i gicio’r SRG yn ei thin, wedi llwyddo i ehangu fy rhwydwaith cymdeithasol, wedi cyflwyno fy nghariad i mi (mai god ma hynna’n swnio mor sad) ac wedi gneud yn siwr bo fi’n gneud sweet fa o waith.

    Parch i Nic. Chwara teg i chdi. A gobeithio y bryshith maes-e nol.

    iasu, dwi’n gweld colli’r gwenoglunia.

  17. dim byd i’w ategu heblaw gobeithio bydd popeth yn iawn iti nic. bydd hi’n rhyfedd heb y maes, ond paid ’ brysio, diawled aniolchgar ydyn ni a dy’n ddim yn haeddu hynny. os oes rhywbeth y galla i neud i helpu gydag unrhyw beth, rho wybod.

    syniad gwych mario kempes — ymgyrch gwisg wen i nic!

  18. Ddrwg iawn gen i glywed am hyn. Mae’n biti garw fod rhaid i hyn ddigwydd, ond dyna fo, mae na bennau bach yn bob man, hyd yn oed maes-e.
    Fydd hi’n rhyfedd iawn peidio cael y maes i fwydro arni bob munud o’r dydd. Gobeithio ddoith yn nol rhywbryd, dwi’n disgwyl yn amyneddgar. Bob lwc, a sori os dwi wedi dweud rhywbeth anhylaw neu ddi-feddwl. Dwi’n gobeithio ddim!

  19. Dwin meddwl ddylir talu i fod yn aelod o faes e achos:
    1. Fuasai Nic yn cael y cyflog mae’n haeddu am ei holl ymdrech.
    2. Ni fydd y rhai sydd ddim ond yn ymaelodi i greu stwr yn fodlon talu. Fydd y rhai sydd yn cael eu gwahardd o’r maes yn gorfod talu eto os ydynt eisiau dod nol.

    Talu £2 o leiaf y flwyddyn gyda’r opsiwn i aelodau gyfrannu mwy (dwin siwr fuasai llawer iawn o aelodau’n fodlon cyfrannu mwy, fi’n un ohonynt). Dyna dwin feddwl beth bynnag.

    Be os di’r rhai nath achosi hyn wedi neud hyn yn fwriadol a trio deud petha mor ddrwg fel bod y maes yn cau, jysd am sbort? Os hynnu, mae’n bosib eu bod wrth eu bodda ac yn piso chwerthin wrth weld yr holl sylwadau ‘ma! Ddylir dod a maes-e yn ol pronto, wi shwld not guf un tw teryrusds.

  20. Cachwrs yw’r rhai sy’n eistedd ar eu twmpathau a chuddio ty ol i gyfrinair er mwyn taflu falau drwg maleisus at eraill. Hen bryd iddynt ddeall nad yw ‘rhyddid breintiedig i fynegi barn yn y famiaith yn gyhoeddus a byd eang’ yn meddwl ‘rhyddid i fod yn anaeddfed a gwawdus’.

    Mae’n amlwg dy fod gen ti Nic, dy gyfraniad a’th orchestion llawer iawn o barch sy’n dod o bob congl o’n gwlad fach ni…ac rwyt ti wedi dod a’r corneli na nghyd gyda’r maes, biti i rai amharchu a chymeryd mantais o hyn.

    Mwynha’r seibiant.
    Wela ni di’n fuan.
    Lleufer.

  21. Cachwrs yw’r rhai sy’n eistedd ar eu twmpathau a chuddio ty ol i gyfrinair er mwyn taflu falau drwg maleisus at eraill. Hen bryd iddynt ddeall nad yw ‘rhyddid breintiedig i fynegi barn yn y famiaith yn gyhoeddus a byd eang’ yn meddwl ‘rhyddid i fod yn anaeddfed a gwawdus’.

    Mae’n amlwg dy fod gen ti Nic, dy gyfraniad a’th orchestion llawer iawn o barch sy’n dod o bob congl o’n gwlad fach ni…ac rwyt ti wedi dod a’r corneli na nghyd gyda’r maes, biti i rai amharchu a chymeryd mantais o hyn.

    Mwynha’r seibiant.
    Wela ni di’n fuan.
    Lleufer.

  22. Jyst nodyn i hysbysu wrth “Mwnci Banana Brown (Guto)” fod y wefan Cleberwast (campus) ddim yn gweithio ar y foment! Gobeithio fe fedrwch chi sortio petha allan cyn bo hir – mae pawb yn eich cefnogi chi Nic.

  23. Gai ategu’r uchod plis. Mi faswn i’n deud “Nic cyma dy amser cyn gneud dim byd a mwynha’r rhyddid” ond efo’r we ddim yn gweithio acw, debyg fod gen ti ddim dewis :) (grr, diffyg gwenoglun). Ond efo cymaint o fyfyriwyr maes-e-ddibynol yn mynd nÙl i’r coleg wsnos yma, pliiiiiiiis rho fo nÙl neu fydd gennan ni ddim dewis ond gneud gwaith, waaaaaaaaaaa.

  24. We ni’n drist iawn i ddarganfod bod maes-e wedi cau. Gobeitho bydd y pobl hyn sy’n achosi gyd o’r trafferth yn callio lan tamed a gadel i’r maes fynd nol ar lein. Pob lwc i ti Nic, dwi tu ol i ti 100%, fel pawb arall.
    Diolch
    Daf

  25. We ni’n drist iawn i ddarganfod bod maes-e wedi cau. Gobeitho bydd y pobl hyn sy’n achosi gyd o’r trafferth yn callio lan tamed a gadel i’r maes fynd nol ar lein. Pob lwc i ti Nic, dwi tu ol i ti 100%, fel pawb arall.
    Diolch
    Daf

  26. Heb gyfrannu dim ond wedi dilyn llawer i linyn difyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

    Gobeithio y daw’r wefan yn ei hol ac y daw pawb sy’n cyfrannu ati at eu coed.

    Nic, mae dy gyfraniad yn un arbennig.

    Pob lwc hefyd i bawb yn y Cnapan.

  27. Hoax yw’r cyfan. Publicity stunt er mwyn i’r perchennog elwa o werthu’r maes.

  28. Cynic – stopia dy gelwyddau.
    Mae’n hollol amlwg beth yw rhesymau Nic am gau’r maes dros dro, ac os wyt ti am weld y maes yn Ùl, stopia’r negeseuon di-bwys yma. (pam na ddylai’r perchennog elwa o’r maes eniwe?)

    Ni i gyd tu Ùl i ti 100% Nic a mae’n rhyfeddol faint o amser sb’r sydd gan rywun heb y maes.

  29. Annwyl Nic.

    Dwi erioed wedi beiddio ysgrifennu neges am Maes-e am fy mod yn Sais (yn ieithydd) a dwi ddim yn gallu siarad Cymraeg go iawn, ond dwi’n hoff iawn o’i ddarllen a thrist iawn i weld ei fod wedi cau. Un o’m lleoedd ffefrin ar y we mae fo: nid oeddwn i ddim yn gwybod cymaint o hiwmor a gwreiddioldeb sydd yn yr hen iaith. Mor anneg ydyw eich bod wedi cael bygythiadau cyfreithiol am waith hollol gwirfoddol. Diolch am eich ymdrechion, pob lwc, a gobeithio fydd y maes yn dod yn ol rhywsut, yn gynnar yn hytrach nag yn ddiweddar.

  30. Coc y gath! Wy ar wylie ac newydd ddod i’r Maes i weld shwt ma’ pawb, a dyma wy’n ei gael! :-( Dewch mlaen bobol, gallwn ni godi 919 o bunnoedd (lle mae’r symbol punt ar y blydi allweddell Americanaidd ‘ma?) i atgyfodi’r peth! Beth ddigwyddodd ta beth? Anfonwch neges breifat i esbonio… oh cachu!

  31. Pwrs y bugel.

    O Dad, rho i mi nerth.

    Ma cyfuno bod yn fab i Dduw a cho-driver i Scotchyn yn anodd heb faes i fynychu, heb edefyn i atodi, heb gogs i ddirmygu a themptasiwn i absennu, heb ffordd o atgyfnerthu pwy yw’r tarw yn y teulu.
    A wast’o arian quango wrth wneud hynny.

    Bring back maes-e. Allai’m cyfreithloni’n hun hebddi. Wy’n methu stop’o odli.

    Pob lwc Nic.

  32. Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am hyn, Nic.

    Mae ‘na wastad un neu ddau sy’n difetha popeth i’r mwyafrif, on’d oes? Ac wrth i’r boblogaeth gynyddu mae ‘na fwy a mwy o’r hunan-gnuchwyr ‘ma o gwmpas. Mae isio’u hysbaddu nhw rhag iddyn nhw fagu plant sy’n gwneud yr un peth i’r genhedlaeth nesa. Oes wir. Castre^shon, dyna’r unig iaith maen nhw’n ei ddallt. Hwnna ydio.
    Sian Eli^t, Tacsi rhif 666.

  33. Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am hyn, Nic, a minnau newydd ymuno.

    Mae ‘na wastad un neu ddau sy’n difetha popeth i’r mwyafrif, on’d oes? Ac wrth i’r boblogaeth gynyddu mae ‘na fwy a mwy o’r hunan-gnuchwyr ‘ma o gwmpas. Mae isio’u hysbaddu nhw rhag iddyn nhw fagu plant sy’n gwneud yr un peth i’r genhedlaeth nesa. Oes wir. Castre^shon, dyna’r unig iaith maen nhw’n ei ddallt. Hwnna ydio.
    Sian Eli^t, Tacsi rhif 666.

  34. Trist iawn i weld hyn yn digwydd. Jest isio deud ‘mod i’n ategu popeth sydd wedi cael ei ddweud uchod ac yn gwerthfawrogi’r holl waith mae Nic wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Pob cefnogaeth,

  35. ‘I am human and I need to be loved, just like everybody else does’.

    Mae Nic yn cau Maes-e o bryd i’w gilydd pan nad yw’n meddwl ei fod yn cael digon o sylw.

    Yna mae pawb yn sgwenu faint maen nhw’n gweld ishe maes-e, mae Nic yn teimlo bod y byd yn ei garu ac mae’r safle yn ymddangos unwaith eto.

    Ond os nad yw Nic yn ddigon ofalus, bydsd e’n ‘crio blaidd’ yn rhy aml, a ni fydd neb yn mynegi ei siom y tro nesa.

  36. Dwi’n gorfod cyfaddef mae maes e wedi bod yn dda iawn i fy Nghymraeg ysgrifynedig a wedi gwneud fi’n fwy cyffyrddus i leisio fy marn. Felly beth wy ti Nic yn mynd i wneud efo yr holl amser sbar gyna chdi?