Jyst rhag ofn bod unrhywun sy’n darllen hyn ag sy’n aros am ateb i ebost neu rywbeth, mae’r iBook wedi’i ffrio felly dw i oddi ar lein am sbel. Trial trwshio fe nawr.
Just in case anyone’s expecting an answer to an email or anything, my computer’s fried, so I’m off-line for a bit.
Cofiwch blantos, dat blygo dy iBook os ti’n clywed tarannau, neu fyddi di’n wastraffu £70 ar power supply newydd.
Ffyc.
Mae’r ffon wedi mynd hefyd, ond os oes wir angen cysytuu a fi, cei di adael neges ar y ffon ar y lon gan ffonio 01239 654561. Dw i ddim yn gallu defnyddio’r ffon mudol gartre, ddo, felly dim ond unwaith y dydd bydda i’n tseco am negeseuon, os hynny.
Praint mor anodd ydio i gael gafel ar gyflenwad trydan i Mac?
Praint mor anodd ydio i gael gafel ar gyflenwad trydan i iBook?
Neges sydyn i obeithio i dy weld di ar lein unwaith eto’n fuan. Ond hefyd i ddweud diolch am y sylw i bratiaithflog. Wn i ddim pam collais i’r post yn wreiddiol (fel arfer dwi’n darllen pob dim yma) ond diolch beth bynnag.
Dwi wedi ymo ’ http://www.photoblogs.org/ erbyn hyn. Fe ges i syn go fawr pan bleidleisiodd tri o bobl i’m wefan fel “fefryn” wedi bod ar y safle am un diwrnod yn unig.
Pen bach ydw i nawr ;0)
Fel dw i newydd son ar y blog dyw e ddim yn debyg bydda i nol ar lein tan wythnos neu ddwy ‘to. Prynais i cyflenwad trydan newydd trwy’r post ond nid hynny oedd y broblem: rhywbeth mewnol yw e. Mae BCCIT yng Nghastell Newi yn dweud y bydd yn cymryd “wythnos neu fwy” i mi wybod a fydd yn bosib trwsio’r iBook, felly dw i ddim am brynu iMac newydd nes i mi glywed ganddyn nhw. Am wn i does dim opsiwn arall ‘da fi. Ond gan fod dim ffon ‘da fi gartre chwaith (gweler y cofnod newydd eto) dydy hyn ddim yn flaenoriaeth mawr.