Dim ond gair bach i ddweud pam dw i wedi cau maes-e. Dw i erbyn hyn wedi cael fy mygwthio yn gyfreithiol gan bobl ar ddwy ochr o ddadl sydd dim byd i wneud â fi, sydd o ddim diddordeb i fi, ac sydd, cyhyd ag y mae’n cyffwrdd ar y byd go iawn a nid jyst personality clash rhwng ddau garfan o bobl, un o’r pethau tristaf dw i wedi eu gweld ers i mi ddod i fyw yn y Gymru Gymraeg (ers i mi ddysgu’r iaith, hynny yw).
Dw i wedi wneud y pwyntiau uchod trosedd a throsedd ar y maes, ond mae pobl yn dal i ddefnyddio’r lle fel ei fod rhywfath o dalwrn cyhoeddus i ymosod ar ei gilydd.
Nid eiddo cyhoeddus yw maes.com, ond, yn y pendraw, gwefan personol un dyn. Fi sy’n talu amdano fe, fi sy’n gyfrifol am ei redeg, ac am benodi’r bobl sy’n fy helpu fi ei redeg. Os ydy problemau cyfreithiol yn codi ynglŷn â’r ffordd mae pobl yn defnyddio maes-e, fi sy’n gyfrifol o dan y cyfraith. Os ydy’r buck yn stopo, mae’n stopo wrth fy nhraed i, nid y gweinyddion eraill, nid y cymedrolwyr eraill, ac nid yr aelodau eraill. Os wyt ti’n (ti! sy’n darllen hyn nawr) postio rhywbeth fel “Mae Rhdori Morgan yn ffwcio plant” ar maes-e, fi fydd yn gorfod ymdopi â’r achos llys bydd yn cael ei ddwyn yn fy erbyn os ydw i’n gwrthod dileu y neges. (Bydda i hefyd yn gorfod ymdopi a dy gwynion di am sut ydw i’n atal dy hawliau siarad yn rhydd os ydw i yn dileu’r neges, ond hei, dyw e ddim fel bod dim byd gwell ’da fi wneud, nadyw?)
Fel dw i newydd esbonio i un person ar un ochr y ddadl hurt yma, os ydy un o’r partion sy wedi “rhybuddio” fi y bydden nhw’n mynd i’r heddlu gyda chwynion syddogol yn acsiwli wneud hynny, yr unig peth sy’n sicr yw bydd maes-e yn cael ei gau i lawr yn gyfan gwbl, am byth. (Mae’n bosib byddai rhaid i mi dalu damages i rywun hefyd ’sai eu hachos yn llwyddiannus, ond dw i ddim yn poeni yn ormodol am hynny gan fod dim arian ’da fi, ac mae’n debyg bod hi’n haws tseco ebost o HMP Abertawe nag yw e o Faes y Morfa ar hyn o bryd, ta beth.)
‘Swn i ar lein gartre ar hyn o bryd (gweler y cofnod isod: mae BT wedi dweud falle bydd hi’n bythefnos arall cyn iddyn drwsio ein lein ffôn; pwy â ŵyr a fydd cyfrifiadur sy’n gweithio ’da fi erbyn hynny) mae’n jyst yn bosib y byddwn i’n gallu sorto hyn ma’s, cadw pawb yn hapus, ac osgoi’r sefyllfa o gael fy siwo dros rhywbeth sydd â dim byd i wneud â fi, ac hynny heb dreulio mwy nag awr neu ddwy y dydd am gyfnod, dileu negeseuon cas o’r maes, ateb ebyst hir gan bobl ar y ddwy ochr, Googlo am gyngor cyfriethiol ynglyn ag enllib, ac yn y blaen ac yn y blaen ad ffycin nausiwm.
Ond dw i ddim ar lein gartre ar hyn o bryd, felly does dim dewis ’da fi ond i gymryd maes-e oddi ar lein hefyd, gan obeithio y bydd y bobl ar ddwy ochr y ddadl yma yn gallu sorto fe mas rhyngddyn nhw mewn beth bynnag ffordd sy’n eu siwto nhwthau, heb lusgo fi a fy ngwefan i i mewn i’r peth bellach.
Felly, os ydy pobl am gario ymlaen gyda’r ddadl yma, fydd dim dewis ’da chi ond i ffeindio fforymau eraill i’w wneud hynny. Unwaith mod i ar lein gartre, bydd maes-e yn ôl, ond os ydy pobl yn cario ymlaen ymddwyn fel maen nhw wedi bod, fydd dim dewis ’da fi ond i fod yn fwy llym o lawer yn y ffordd dw i’n gweinyddu’r maes, gan ddileu cyfrifau pobl sy’n anwybyddu’r sawl cais dw i wedi wneud i beidio cam-ddefnyddio maes-e fel hyn, i gau’r maes i aelodau di-enw i amddiffyn fy hun rhag achosion enllib, ac, o bosib, i ddechrau codi tal aelodaeth bychan er mwyn talu fy hunan cyflog am yr holl amser dw i’n gorfod treulio sorto mas pethau fel hyn.
Neu jyst gwerthu’r maes i rywun arall cael profi faint o hwyl yw e rhedeg gwefan gymunedol Gymraeg. Ar hyn o bryd, bydda i’n ystyried unrhyw cynhygion dros £919.