Hiliaeth yng ngweidyddiaeth Cymru

Racism in Welsh Politics – detholiad o’r erthygl gan Patrick McGuinness ymddangosodd yn Planet 159.

By [Raymond] Williams’s definition, the “nationalist” projects of small nations might be antidotes to, positive examples for, the nationalisms of larger nations. British politicians would rather have us waving flags on touchlines (even if that means the occasional bout of ó largely uncondemned ó “Iíd rather be a Paki than a Turk” from England fans) than actually thinking about what “nation” really means. In Wales, they’d simply rather brand any intellectual activity that bears on this question and doesn’t come up with pious clichés “racist”.

Llawer mwy o erthyglau werth eu darllen yn llyfgell Planet.

Nage, nid y Nick Davies yna

Budding linguists[sic] chase learner prize – erthygl am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. A chyn i neb arall fy llongyfarch, nid fi yw’r Nick Davies gyrhaeddodd y rhestr fer. Dw i wedi cwrdd â’r boi, ac mae’n glên iawn, fel bob dysgwr gwerth ei halen, ond nid fi yw e. (Mae’n siarad Cymraeg yn well na fi, am un peth.)

Mae’n lwcus iawn does dim Gambo ym mis Awst, neu fyddai hyn wedi bod ar y tudalen flaen.

A chyda’r llaw (treiglad llaes! impressed?) pobl y Western Mail, nid yw “linguist” rhywun sy’n dysgu ieithoedd, ond rhywun sy’n dysgu am ieithoedd. Mae hollol bosibl bod yn ieithydd uniaith.

[/pedantig]

Mieri lle bu mawredd

Chwilio am Ifor Hael. Yn 1780, sgwennodd Ieuan Brydydd Hir ei englyn enwog*:

Llys Ifor Hael, gwael yw’r gwedd – yn garnau
Mewn gwerni mae’n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a’i medd,
Mieri lle bu mawredd.

Dim lot wedi newid, felly.

Enwog i chi falle. Dw i newydd ei ddarllen am y tro cynta. Ew, braf yw bod y dysgwr. Pethau gwych i’w ddarganfod bob dydd.

Posted in Heb gategori | Tagged

Mynediad am ddim i’r Steddfod Fyw

Sôn am y “boi o Benrhyndeudraeth”, wnaeth Robin Llywelyn – Alfred Hitchcock y nofel Gymraeg – ddatganiad o’r Maes gan ddweud dilai’r Cynulliad rhoi digon o arian i’r Steddfod iddi adael pobl i mewn am ddim. Clywais i rywun arall (Hywel Teifi neu’i fab?) ddweud rhywbeth tebyg yn y Babell Lên, gan ddychmygu yr amser pan fydd y Steddfod wedi marw, ac yn cael ei hail-greu yn amgueddfa Sain Ffagan – ble bydd yn cael ymweld â hi am ddim.

Ble mae’r blogiau Cymraeg?

Mae Suw Charman am hybu’r rhithfro/blogosffer Cymraeg ond be’ i wneud? Dw i wedi sgwennu fy mhwt ar ei blog hi, ac ar y maes felly wna i ddim ail-ddweud popeth yma, ond mae dyfyniad yn llyfr newydd Robin Llywelyn sy’n berthnasol yma. Dw i ddim yn gallu ffeindio fe, ond mae’n rhywbeth fel: os dych chi eisiau gweld mwy o lyfrau da yn y Gymraeg, sgwennwch lyfrau gwell eich hunain. Mae’r un peth yn wir am y sîn roc: bandiau da yn creu awydd yn y cynulleidfa i ddechrau eu bandiau eu hunain.

Os ydy’r prinder o weflogiau Cymraeg yn broblem, dyw hi ddim yn broblem gallen ni ei datrys gan daflu arian ar ei phen.

Cnapan amdani

Sa i’n credu mod i wedi dweud hyn yma, ond dw i ar bwyllgor y Cnapan bellach. Un gig mawr bydd hi eleni, yn Theatr Mwldan, Aberteifi, gyda Meic Stevens, Fern Hill, Mattoidz, Ryland Teifi ac Ashokhan.

Nos Sadwrn, 25 Medi 2004.

Welwch chi ’na.

Gormod

Dyma ni, ‘te, nôl o’r steddfod a dau focs bach yn aros amdana i: iPod a band llydan. O diar.

Y broblem yw, os problem yw hi felly, mod i wedi cyrraedd pwynt lle dw i’n gallu lawrlwytho MP3au yn glouach nag ydw i’n gallu gwrando arnyn nhw. Fyddai hyn ddim yn broblem ’swn i’n ddigon aeddfed i sylweddoli pa mor ddi-bwrpas yw lawrlwytho mwy o gerddoriaeth nag ydw i’n gallu gwrando arni hi yn yr amser prin sydd ar ôl i fi ar y planed, ond pa mor debyg yw hynny? Pa mor debyg yw e y bydd y ddau drac Terence McKenna ffeindiais i ar weflog MP3 Loki neithiwr yn mynd i’m bodoli, tra bod hi mor hawdd i ffeindio mwy? Ac wedyn, llawer mwy?

Mae John Peel wedi dweud troeon bod y record nesa, yr un ti ddim wedi’i glywed eto, bob tro’n fwy diddorol na’r rhai ti wedi’u clywed. Pan dwedodd e hynny, fe oedd un o’r unig pobl oedd â chyflenwad di-derfyn o gerddoriaeth newydd yn ei gyrraedd trwy’r amser, ond mae unrhywun gyda cysylltiad glou i’r we yn yr un cwch erbyn hyn.