Monthly Archives: Awst 2004
Castle in the Sky
Beirdd yn blogio
Wel, nid eto, ond rhywbryd, falle.
Byddai’n wych o beth ’sai rhai o’n beirdd yn dechrau blogio. Hawdd i ddychmygu’r hwyl byddai Twm yn cael gyda sgwarnogblog Morysaidd, unwaith ei fod yn gweld pa mor hawdd yw e cyrraedd cynulleidfa uniongyrchol.
Beirdd y byd! Mae’n cymryd pum munud i ddechrau blog! Dyw e ddim yn costu dim! Does dim angen aros am gyllid gan y Cyngor Celfyddydau!
Oes ’na ffordd neis i ddweud wrth cynghanedd.com bod y GIFiau wedi’u hanimeiddio, tagiau <MARQUEE> a’r defnydd o enwau stafelloedd mewn tŷ yn lle adrannau ar wefan, yn wneud eu tudalen flaen yn amhosib i’w ddefnyddio? Nag oes? Ocê ‘te.
Continue reading
Medúlla
Mae albym newydd Björk yn swnio’n dda. Ai dyma’r tro cyntaf iddi hi ganu yn Islandeg ers dyddiau cynnar y Sugarcubes? Dw i ddim yn gwybod.
Ymysg y pethau da ar gael ar ei gwefan (clipiau sain, papurau wal, arbedwr sgrîn arbennig i OSX) mae ’na gwpl o gyfweliadau gyda Bjôk yn Islandeg. Dyma’r tro cynta i mi ei chlywed hi siarad ei hiaith ei hun; mae hi’n swnio’n llawer llai plentynaidd.
Ddim yn gwybod pam dw i ddim yn lico Bjôk mwy, rili. Sa i wedi prynu albym ganddi ers Debut, ond mae ei stwff wastad yn swnio yn wych, mewn small doses.
Croeso i’r Sibrydion
Wedi ychwanegu Sibrydion Snaks a sawl ffrwd RSS i restr y rhithfro.
Casgliad yr Ysgol Gelf
Thema newydd ar Gasglu’r Tlysau: Casgliad Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhyw 60 o eitemau, gyda phethau gan Graham Sutherland, Claudia Williams a John Elwyn, ond hefyd rhai sy’n llai cyfarwydd (i fi, ta beth), fel hyn gan Yoshijiro Urushibara.

Beth yw’r Gymraeg am “Ker-rash!”
Erthygl yn y Times am sut mae geiriau onomatopëig Saesneg yn disodli geiriau o ieithoedd eraill mewn comics, a thrwy hynny, yn yr ieithoedd eu hunain. Rhan o’r broblem yw bod cymaint o gomics mwya poblogaidd y byd yn dod o America a Phrydain (mae Ffrainc, gyda thradoddiad cryf brodorol, wedi gwrthsefyll y tuedd hwn i ryw raddau) ond hefyd mae ’na rheswm ymarferol pam nad ydy geiriau o’r math yn cael eu cyfieithu:
A second problem is that the equivalent onomatopoeias in the native tongue may not fit the overall cartoon frame. If Judge Dredd drives his Lawmaster bike into Judge Death with a triumphant Ker-rash!, the foreign translator of this Ker-rash! may look for the best equivalent in his own language and find that it is nine letters long. These letters might not squeeze into the frame. Result: the poor time-pressed hack opts for the original sound-word, unchanged. And so the Lawmaster bike of global English rides roughshod over the local lingo, again.
Wrth gwrs, os ydy hyn yn digwydd yn y Gymraeg, nid cyfieithiadau gwael sydd ar bai, ond y ffaith nad oes unrhyw comics yn y Gymraeg o gwbl, heb sôn am fersiynau Cymraeg o’r clasuron Saesneg.
Tybed a fydd cartwnau yn Y Byd? Rhai gwreiddiol, neu gyfieithiadau?
[diolch i Ann Corkett am hyn]
Baneri ac ieithoedd, ych a fi
Dyma beth o’n i’n trial dweud yn sylwadau blog Macsen:
Neis i weld o leia un coleg Cymreig sy ddim yn wneud y camgymeriad sylfaenol o ddefnyddio baneri i ddynodi ieithoedd ar eu gwefan. Hyn yw o’m bugbears mwya am gynllunio dwyieithog.
Aberystwyth:

(bach yn obsciwr i rywun o Corea?)
Llambed:

– fel nadyw Cymry Cymraeg ddim yn digon o’r baneri ’ma
Mae Bangor yn iawn:


A Morgannwg yn osgoi’r broblem gan beidio darparu gwefan ddwyieithog go iawn, felly sdim angen linc i’r Saesneg:

Emmylou Harris
Gig San Francisco o 1975 a sesiwn BBC ’76 gan Emmylou Harris (rhaid cofrestru i gael yr MP3au).
Propaganda
MP3au o bropaganda yr Ail Ryfel Byd gan “Lord Haw-Haw” a Winston Churchill.
Canllawiau ar gyfer Gramadeg Cymraeg Ffurfiol
Canllawiau ar gyfer Gramadeg Cymraeg Ffurfiol – tudalen fach ddefnyddiol, gyda rhestr o eiriau sy’n achosi treigladau, ac ansoddeiriau: ffurfiau cenedl a rhif.
Tebot siocled?
Jyst o ran diddordeb: oes ’na idiom Cymraeg sy’n gyffelyb i as useless as a chocolate teapot?
American Splendor
Penseiri’r paith, ac ati
Pensaerïaeth Dull “Prairie”, yr ysgol Americanaidd. Frank Lloyd Wright oedd y pensaer mwya enwog i weithio yn y steil ’ma; do’n i ddim wedi sylweddol pa mor dylanwadol oedd e.
Hewn and Hammered – gweflog am y mudiad arts & crafts.
American Bungalow. Dydy popeth ar Ynys y Crwban ddim yn fwy, glouach, uwch ac yn y blaen.
Gerddi Zen
Gerddi Zen yn ymyl Tokyo.
Roedd Bill Hicks yn iawn
Mae’r broses o roi tag pris ar bopeth yn y byd wedi cymryd cam newydd ymalen gyda dechreuad y Gemau Olympaidd yn Athen, yn ôl y stori hon ar BoingBoing:
Sweltering sports fans who seek refuge from the soaring temperatures with a soft drink other than one made by Coca-Cola will be told to leave the banned refreshment at the gates or be shut out. High on the list of blacklisted beverages is Pepsi, but even the wrong bottle of water could land spectators in trouble.
Wythnos o’r blaen oedd rhaid i mi cerdded mas o’r ffilm newydd Thunderbirds pan sylweddolais i bod FAB 1, car Lêdi Penelope, wedi newid o fod yn Rolls Royce, i fod yn Ford, er mwyn hybu’r cwmni hwnna a oedd wedi rhoi arian tuag at wneud y ffilm rhy-gachlyd-i-blant-hyd-yn-oed. Dw i’n hanner meddwl am fynd i weld Catwoman heno (Halle Berry mewn catsuit; pa mor wael allai fe fod?) ond dw i’n ofni bydd hynny achos arall o dalu £4 i weld dwy awr o hysbysebion.
Diolch i Macsen. Lledu’r llonydd yw cyfrifoldeb cyntaf bob newyddiadurwr, sbo.
Ffotoblog Chris
Mae gan Chris Castle blogffoto o’r enw Bratiaithflog sy’n llawn ffotos gwych Caerdydd a’y cylch.

Prog o bedwar ban y byd
Tudalen fawr llawn MP3au gan fandiau prog. Mae rhai o’r ffeiliau yn torri off hanner ffordd trwy, ond mae traciau gan Alphataurus a Buon Vecchio Charlie, dau fand o’r Eidal, o’r 70au cynnar, yn gyflawn, ac yn wych. Mae siwr o fod gemau eraill yna.
Ddim yn brog, ond yn wych yn ei ffordd ei hun, yww’r trac gan The Knacks yma (sgrolio i lawr tipyn bach). Band psych-pop o’r Ariannin diwedd y 60au, wnaethon nhw cwpl o 45au yn unig cyn chwalu. Drueni mawr.
Blog am wleidyddiaeth Cymreig
Gwleidydd – blog newydd arall, ac un sy’n mynd i fod yn ddiddorol iawn.