Dim cwsg tan coleg

dimcwsg.com – gwefan drafod ar gyfer rhieni a darpar rheini, sy’n defnyddio meddalwedd phpBB (fel mae maes-e yn ei ddefnyddio) ond i greu gwefan gymunedol go wahanol i’r hen faes, tybiwn i.

Llongyfarchiadau i Siwan, Siôn a’r criw am ddod â’r babi newydd hwn i’r byd.

Ocê, dyna digon, cewch chi stopio nawr, diolch

Mae tyfiant ym myd y blogiau Cymraeg yn mynd yn drech na fi. Dw i’n ffaelu cadw i fyny, gyda chymaint o flogiau newydd yn cael eu creu, a llawer ohonyn nhw’n edrych fel y byddan nhw’n werth darllen, hefyd. O ie, sori, wedais i ddim byd am hyn, naddo? Nid jyst mwy o flogiau Cymraeg sydd angen, ond blogiau Cymraeg y bydd pobl eisiau darllen achos eu bod nhw’n dda, yn hytrach nag achos eu bod nhw’n Gymraeg. Dw i wedi cael “getaway” gyda sgwennu rwtsh yma, ond bydd rhaid i hynny newid nawr bod Morfablog yn ddim ond un o lawer.

Dw i wedi bod yn aros am hyn ers 2001.

Mewn datblygiad gwych mae Aran wedi lansio Sgwarn(fl)og, sy’n defnyddio meddalwedd ffynnon agored Nucleus mae Aran wedi’i addasu i greu profiad blogio hollol Gymraeg, fel fyddet ti’n disgwyl gan Brif Weithredwr Cymuned. Mae e’n cynnig llety i flogwyr sy’n “o ddifri” am flogio – hynny yw, sy ddim y mynd i sgwennu “helo byd” ac wedyn diflannu o’r Rhithfro. Os wyt ti am greu http://dyflogdi.cymrurhydd.com, cysyllta ag Aran.

Rownd yp glou o’r blogiau Cymraeg newydd sy wedi ymddangos yn y deudydd/tridiau diwetha. Bydda i’n ychwanegu nhw at rhestr y rhithfro yn y man.

Ymddiheuriadau os ydw i wedi anghofio unrhywun. Rho wybod yn y sylwadau os felly.

Ble mae’r gath? – gan Mike, dysgwr o Lundain.
Yr Efengyl yn l Iesu Nicky Grist (dim perthynas).
Saerhd gan Ifan Saer.
Dim Brains gan MC Sleifar.
Hogyn o Login gan Aled.

Joss Jones, dringwr o fri

Dringwyr o Fri! Erthygl o’r Gambo am ein ffrind Gareth Jones a’i fab Joss, a wnaeth Her y Tri Chopa yn ddiweddar, sef dringo Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa mewn 24 awr.

Daeth Joss gyda ni i ddringo Pen y Fan diwrnod o’r blaen, fel rhan o Daith y Copaon Cymdeithas yr Iaith. Dyma lun ohono fe ar y copa.

A dyma weddill y criw (y rhan fwya ohonyn nhw ta beth). Ar ôl i mi roi’r camera yn ôl yn y sach, cliriodd y niwl.

Hen Benill #103

Codais i’n gynnar y bore ’ma, a darllen tipyn o’r llyfr Gêm o Ddau Fileniwm, a dyna Twm Morys sôn am yr Hen Benillion, ac am hyn o benill yn benodol:

Nid oes gennyf gywaeth, a dewdyd i chwi,
Ond twca du miniog a cheiliog a chi.
Pan ddaw hi yn blygain, y geiliog a gân,
A’r ci bach a gampia o gwmpas y tân,
A minnau a godaf, os byddaf yn iach,
I falu tybaco â’m twca du bach.

Del, de?

Byddai’n braf ’sai Hen Benillion T.H.P-W ar gael ar y we rhywle.

A, arhoswch, maen nhw’n dal dan hawlfraint, wrth gwrs.

Dyma glip fideo T.H.Parry-Williams, a llun o’r bardd a’i feic modur.

Lol, a lot ohono fe

Ddim yn gwybod pam dw i heb wneud hyn o’r blaen, ond dw i newydd ychwanegu Lol Lwlw i Restr y Rhithfro. Un o’r ton newydd o’r blogiau Cymraeg, ac un o’r mwy bywiog. Rhywbeth newydd i ddarllen bob dydd, dyna beth dyn ni moyn! Mwy o lol, plîs, Lwlw!

Amser i arafu

Mae elck o’r corff llafar gwlad wedi bod yn arafu am wythnos, cymryd hoe bach, ail-ddarllen, ac ail-gyhoeddu, rhai o’i hoff erthyglau o’i hoff weflogiau.

Y ffordd mae rhithfro yn cynyddu ar hyn o bryd, bydda i’n gallu wneud hyn ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy.

Rhywbeth i edrych ymlaen ato fe.

Gwyddonwr yn adio dau a dau i gael pump

Stori o’r adran Bolycs Ieithyddol They Don’t Have a Word for It .

Gordon found that the Piraha were essentially incapable of following or accounting for more than three objects. When a task involved larger numbers — even five or six — the subjects’ answers were little more than guesses, even though they clearly understood the tests and were working hard on them.

He attributed this surprising finding to the fact the Piraha “have no privileged name for the singular quantity” — in other words, no one, no notion of an integer.

Dydy llawer o Americanwyr ddim yn deall y cysyniad o “ddigon”. Ydy hyn yn newyddion hefyd?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Kong Chiao Weh

Kong Chiao Weh: siarad iaith adar – to talk cock.

Coxford Singlish Dictionary – geiriadur Saesneg Singapore.

VOMIT BLOOD
Literal translation from the Hokkien phrase “tor hwee”, which is used to describe undergoing extreme difficulty, intense suffering or great irritation. “Vomit” is often pronounced “womit”.

Ah Beng: “Yesterday, hor, I teach my son Maths, teach until vomit blood.”

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Education First, yn Latfia

Stori arall o Latfia: streic newyn dros hawliau iaith yn Latfia. Troi yng nghynffon hon o stori yw nid Latfieg yw iaith y protestwyr, ond Rwsieg. Maen nhw’n protestio yn erbyn newidiadau yn y sustem addysg sy’n golygu bod 60% o bynciau yn ysgolion Latfia yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith Latfieg.

Mae teitl y stori yn drawiadol: Latvians hunger-strike over language. (Fi sy biau’r duo.) Dychmygwch y fath protest yma yng Nghymru, gan y bobl oedd tu ôl i’r mudiad Education First, er enghraifft. Ai “Cymry” fyddai’r bobl ’na? Os na, pam?

Blogio o strydoedd Rigo

Blog Droed: Meddwi’n racs yn Riga – stori Gary am ymweliad cyntaf tîm pêl-droed Cymru â Latfia:

Roedd rhywfaint o siom nos Lun wrth i bedwar boi ifanc o Latfia ddewis ymosod ar ein criw ni o hogia mewn bar ger y prif sgwâr. Er bod yr heddlu wedi eu galw i’r bar gan y perchennog, llwyddodd y bois o Latfia i roi slap i nifer o’r hogia. Yn wir, roedd un plismon yn dal Cymro tra roedd un o’r hogia lleol yn ei ddyrnu.

I dorri stori hir yn fyr, es ddywed y Sais, cafodd un Cymro ei gymryd i gefn fan heddlu ac, ymhen ychydig oriau, cafodd ei hebrwng i ATM cyfagos a’i orfodi i dynnu 300 lat (tua 300) allan o’r peiriant – “dirwy” medda nhw … set-up llwyr a llwgrwobrwyo byddwn i yn ei alw.

Dyma pam mae angen mwy o flogiau Cymraeg. Ble arall gallu darllen storiau fel hyn o berspectif un o’r cefnogwyr?

Lleisiau o’r Ardd

Yn y car-bŵt yn Aberteifi ddoe, ffeindiais i gopi o’r LP Spirit Of Eden gan Talk Talk, band dw i heb glywed ers iddyn nhw gael cwpl o hitiau Top 40 nôl yn yr 80au cynnar. Dw i’n cofio darllen rhywle am yr albym ’ma (ym Mojo? rhywle fel ’na) fel “clasur ar goll”, ac mae’n wir: mae e’n êm. Wnes i chwarae fe ddwywaith yn syth neithiwr, rhywbeth dw i bron byth yn wneud y dyddiau ’ma.

[Gol. 30 Awst 2008] Dyma’r albym i’w lawrlwytho. Mae’n swnio’n well nag erioed. Tybed oes ’na bobl sy’n dwlu ar Mogwai, Sigur Ros, Godspeed a hynny i gyd sy heb glywed hyn eto?

Mordicai

Mae hi wedi bod yn wythnos fishi ym myd blogiau Cymraeg. Dw i wedi colli trac o faint o flogiau newydd wedi ymddangos (mae o leia dau wedi dechrau heddi, sef Ymgyrchu a’r Bachgen o Bontllanfraith). Ond mae rhywbeth arall wedi dechrau symud yn y tywyllwch. Rhywbeth rhyfedd, rhywbeth amwys, rhywbeth sy’n drewi fel pymtheg llath o fadarch wedi pydru.

Foneddigion a boneddigesau, mae Mordicai yn y tŷ.

Byddwch ag ofn. Byddwch ag ofn mawr.