Ffeindiais i’r dudalen isod am fwyd Siapan gan ddarllen nodlyfrau Pat trwy gyfrwng fy nudalen Bloglines.
Mae Bloglines a del.icio.us yn ddau o’r offer blogio gorau dw i wedi dod ar eu hyd yn ddiweddar. Heb Bloglines, byddwn i’n wastraffu llawer o amser ymweld â blogiau Cymraeg sy heb eu diweddaru ers y tro diwetha i mi ymweld â nhw, ond mae’n wneud lot mwy na hynny. Nawr bod pawb o BBC Cymru i’r wefan amgueddfaidd Casglu’r Tlysau yn darparu ffrwd RSS o’u cynnwys, mae Bloglines yn fy helpu cadw mewn cyswllt â phob math o safleoedd. Dw i wedi bod â chyfrif Bloglines ers sbel, ond dim ond nawr (gyda thyfiant mawr ym maint y rhithfro) ydw i’n defnyddio fe bob dydd – diawl, dw i’n defnyddio fe bob chwarter awr ar hyn o bryd.
Dw i’n gwybod bod Macsen yn ffan Bloglines, gan fod ei dudalen e ar gael i bawb – unrhywun arall?
Mae del.icio.us ar y llaw arall yn beth hollol newydd i mi, sef ffordd i rannu dy nodlyfrau yn hawdd. Ar wahan i’r manteision i’r blogwr ynof (ac mae bob blogwr ynof, chwedl Emyr Lewis), bydd hyn o help i mi o fory ymlaen, pan bydda i lan yn y Gogledd pell, ymweld â mam a dad. Sut yn y byd ydw i’n cofio URLiau pop peth dw i’n trial cadw lan â nhw, wrth i mi ddefnyddio cyfrifiadur fy mam? Mae’n ddigon anodd i mi adjysto at defnyddio WindowsXP, heb drial cofio ble welais i’r peth am fwy yn foesol yn y Guardian ddiwrnod o’r blaen. Nawr, dim problem, dw i’n gallu wneud nodlyfrau cyhoeddus, sy’n haws na wneud nhw yn Safari (a Safari yw’r porwr gorau ar gyfer nodlyfrau, am wn i). Dw i’n gallu rhoi categorïau iddyn nhw hefyd, a dyma ble mae mantais fawr yn dod i mewn, achos bob tro dw i’n creu “tag” newydd ar gyfer fy nodlyfrau i, mae del.icio.us yn wneud cysylltiad awtomatig rhwng fy rhestr i a rhestr pawb arall sy’n ymddiddori yn yr un fath o bethau.
Dyw barddoniaeth ddim yn enghraifft da, gan taw fi yw’r unig ddefnyddiwr sy wedi defnyddio hwnna fel tag, ond pan creuais i nodlyfr i dudalen y BBC am Ganrif o Brifwyl ddoe, rhoddais i fe yn y catagorîau cymru, eisteddfod a’r bbc. Nawr dw i’n gallu gweld nid yn unig pob linc dw i wedi’u wneud gyda’r tagiau hynny, ond hefyd pob linc mae pawb wedi wneud: Ganrif o Brifwyl ddoe, rhoddais i’r tagiau cymru, eisteddfod a’r bbc arno. Mae rhai am y Steddfod a Chymru yn ddigon tawel, wrth reswm, ond mae un y BBC yn sleisen bach o gacen zeitgeist, sy’n wastad yn flasus iawn.
Does dim ots pa iaith mae tagiau (Francais, Deutsch, Espanol ac yn y blaen), felly gorau po mwya o siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio hyn.
Mae’r ddau offeryn ’ma yn debyg i newid y ffordd dw i’n defnyddio’r we mwy na dim byd ers dyfodiad Google.
Oes ’na offer eraill dw i heb glywed amdanyn nhw?
Woo, wyddwn i ddim fod gwneud fy hun yn ‘public’ ar bloglines yn gadel i unrhywun arall weld beth oeddwn i’n ei ddarllen. Lwcus nad ydw i’n darllen gwefannau budr. (@_@;) Sori i’r rheini nad ydi eich blogs chi yn y rhestr, ond dw i heb ddefnyddio bloglines ers dod nol o coleg, gan bod y PC yma mor slo a mae’n cymeryd oes i lwytho. A mae bloglines ychydig yn llwyd hefyd; mae nifer o flogs, fel Mordicai a Wierdo, yn well ei samplo pam wyt ti ar y dudalen ei hun, am fod gymaint o feddwl wedi mynd mewn i’r, erm… lliwiau diddorol.
Dwinna’n ffan mawr o bloglines – dwi di trio gneud fy rhestr yn gyhoeddus ond dio ddim ‘di gweithio rywsut…
Check iddo o leia dwywaith y dydd.
Wele ‘mlogrol inne: