Tir ac Awyr

Ers i mi gael band llydan yn y tŷ, dw i wedi bod yn fishi iawn lawrlwytho bob clasur prog roc sy ’da fi ar feinyl (ac ambell un dw i wedi colli, mae arna i ofyn – och, mae’r bobl a wnaeth y recordiau ’ma i gyd yn Doris tew erbyn hyn, ond ydyn nhw?) ac mae safle Ground and Sky wedi bod o help mawr, gyda adolygiadau i’r ffan a’r newyddian.

2 thoughts on “Tir ac Awyr

  1. Siwdi Nic,

    Fi’n cofio cael sgwrs gyda ti o’r blaen ynglyn a Band Llydan, a ti’n argyhoeddiedig na fydde ti byth gan dy fod yn treulio gormod o amser ar y Mac beth bynnag.

    Be nath newid dy feddwl?

  2. Cyrhaeddodd e Langrannog ;-)

    Na, y peth sy’n cadw fi ar y Mac ar hyn o bryd yw blogio, darllen yr holl flogiau Cymraeg newydd, trial cadw lan. Mae lawrlwytho cerddoriaeth yn mynd ymlaen yn y cefndir. Dyna’r prif fantais, hyd yn hyn. Yn yr hen ddyddiau (cyn Steddfod Casnewydd) o’n i’n gallu lawrlwytho MP3au yn ddigon hawdd – doedd e ddim yn ffast iawn, ond byddai albym neu ddau dros nos yn bosibl – ond do’n i ddim yn gallu lawlwytho a syrffio ar yr un pryd. Nawr dw i’n gallu lawrlwytho yn glouach na alla i wrando ar y stwff – mae playlist heb eu clywed ar yr iPod gyda 978 o ganeuon arno fe.

    Pa mor drist yw hynny?