Falle o’n i’n gwybod bod blog rhestr ffilmiau gan Rhodri Nwdls, ond dw i’n eitha siwr dw i ddim wedi blogio amdano fe.
Mae blogiau syml fel hyn yn dangos hyblygrwydd y fformat. Dyma rywbeth sy ddim yn swnio yn ddiddorol iawn ar bapur, ond mewn gwirionedd, mae’n ffordd reit dda o ffeindio ffilmiau newydd i’w gwylio.
Diolch Nic, a finna di trio cuddio fy min-obsesiwn a rhestrau rhag y byd!! Ma’n wir fod edrych ar bethau fel hyn yn ddefnyddiol o ran awgrymiadau newydd. Fatha Mynd trwy DVD Aficionado a gweld pwy sgen DVD’s tebyg i’ch casgliad chi. O mor drist yr wyf!