Uchelgyhuddier Blair

Mae mor braf cael blogio erthyglau yn y Gymraeg sy ddim wedi dod o’r BBC. Dyma “Y Pyndit” yn gofyn a ydy ymgyrch Adam Price yn cynnig gobaith i Lafur llawr-gwlad?:

Ys dywed Adam Price mewn sawl erthygl heddiw – ac fel y soniodd un cyfranwr mewn erthygl yn Barn rhai misoedd yn ol – mae hyn yn mynd i graidd dmocratiaeth. Pwy hawl sydd gan Blair i fynd i ryfel a lladd degau o filoedd o bobl ddiniwed yn Irac i gyflwyno democratiaeth yno tra’n amlwg yn anwybyddu democratiaeth yma?

Dyma Sleifar ar yr un stori.

Uchelgyhuddier Blair. Mwy o lincs defnyddiol ar flog y Pyndet.

Comments are closed.