Y Pantri Cymraeg

Mae Telsa yn sôn am hyn am ei blog hi, ond does dim modd i mi adael neges yna, felly: ai Pantri Cymraeg dylai fe fod, neu Pantri Cymreig? Oni bai eu bod nhw i gyd yn siarad Cymraeg, yr ail sy’n iawn.

Ac, ie, mae Ffagod a pys yn rong hefyd. Yn ôl Bruce, Ffagots a phys dylai fe fod. Ffagod yw coed tân, ffagotsen yw’r bwyd, ffagots yw mwy nag un.

Dw i erioed wedi clywed “cymysg” am “mash” chwaith, ond hwnna yw’r ansoddair cynta yn y geiriadur am “mashed”, felly mae’n debyg iddyn nhw jyst prynu copi o Collins Spurrell yn lle talu cyfeithydd go iawn i wneud y gwaith.

Mae gyda nhw rhywbeth o’r enw “The Cegin Cymraeg range”, sy ddim yn wneud sens o gwbl. Os ydy hi’n “Welsh speaking kitchen” wedyn “Cegin Gymraeg” sy’n iawn, fel arall “Cegin Gymreig” yw hi.

Mae’n braf iawn gweld mwy o gwmniau bychain fel hyn mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar eu pecynnau, ond pa mor anodd yw hi i wneud e’n iawn y tro cyntaf?

One thought on “Y Pantri Cymraeg

  1. “tatws sdwnsh” ydi mash! Be haru nhw fo’u tatws cymysg: Maris Piper, Brenin Edward a Sir Benfro efo’u gilydd fasa hynny – argol am syniad!