Ni, ein hiaith, a Nhw

Diwrnod o’r blaen, wnaeth rhywbeth ymddangos ar maes-e wnaeth hala fi yn grac iawn. Fel f’arfer, wnes i or-ymateb, a dod ar draws fel ffwl mawreddog.

Fel arfer.

Mae’n dod yn fwyfwy amlwg (i fi) taw nid maes-e yw’r lle gorau i mi ddweud fy nweud ar bethau fel hyn. Er gwell neu er gwaeth, mae gen i bersona ar y maes fel “y bòs”, ac mae hynny yn lliwio popeth dw i’n dweud yna. (Y rhan “gwell” am hyn yw bod hi’n lot haws rhedeg gwefan drafod os ydy pawb yn meddwl dy fod di’n ffasgwr â ffiws fer – tipyn bach fel tacteg “mad bomber” Richard Nixon.) Mae’n anodd cael sgwrs cyfartal gyda unrhywun sy’n gallu torri bant dy gyfrwng cyfathrebu unrhywbryd. Dw i’n gwybod bod llawer o bobl yn gwerthfawrogi “cyfraniad” maes-e i’r byd Cymraeg, ond nid fi yw maes-e.

Ta waeth am hynny, prolog yw hwn i rywbeth arall. Y bore ’ma ces i neges sydyn trwy’r maes gan aelod y maes, rhywun dw i ddim yn nabod yn dda yn y cig (wedi cwrdd cwpl o weithiau mewn gigs), ond rhywun dw i’n edmygu yn fawr am y cyfraniadau unigryw mae’n wneud ar y maes. Roedd y neges yn ymateb i’m cofnod i am “agweddau cul” rhai Cymry, yn fy nghefnogi i gan ddweud nid fi yw’r unig un sy’n weithiau yn teimlo yn ddigalon am y busnes ’ma o “ni” a “nhw”. Felly dyma fi yn sgwennu neges sydyn yn ôl, ond cyn hir aeth mas o reolaeth (fel cymaint o’r pethau dw i’n sgwennu y dyddiau hyn – rhaid mod i’n dod yn fwy rhugl neu rhywbeth ;) ) ac yn bregeth newydd. Dyma fe felly, er gwell neu er gwaeth.

Mewn ffordd, y ffaith bod yr agweddau “cul” yma yn bodoli yn y Cymry Cymraeg yn arwydd o gryfder dilwylliannol. Mae’n rhan o’r ceidwadaeth (“c” bach) sy wedi cadw’r iaith a’r diwylliant yn fyw yn wyneb canrifoedd o bwys. Mae’n anodd iawn i groesawi rhywun mewn i dy gymdeithas os dydyn nhw ddim yn siarad dy iaith, felly mae pawb sy ddim yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn cael eu gweld fel “Saeson”, y “Nhw” mawr. Y broblem yw, unwaith ti wedi bod yn “Nhw” rhyw grŵp penodol mae’n anodd iawn eu credu pan maen nhw’n dweud taw un o’r “Ni” wyt ti nawr.

Dw i’n nabod hen ferch o’r ardal hon, sy’n dysgu Cymraeg yn ei henaint. Cymraes yw hi o enidigaeth, ond gadawodd y teulu Aberteifi pan oedd hi’n blentyn. Daeth hi yn Ùl wedyn, a phriodi Cymro Cymraeg a oedd un o hoelion wyth y gymdeithas Cymraeg (ysgrifennydd y steddfod leol, blaenor yn y capel, ayb) ond oedd yn gwrthod ei helpu hi ddysgu Cymraeg. Oedd e’n bychanu bob ymdrech oedd hi’n wneud (a hynny yn y dyddiau cyn-Wlpan, felly oedd hi ar ei phen ei hun), chwerthin ar ei ben pan wnaeth hi drial siarad Cymraeg ’ fe. Yn y diwedd, rhodd hi’r ffidil yn y to, nes iddo fe farw. Tair blynedd wedi ‘ny, mae hi’n rhugl, ac wedi dechrau cymryd ei rhan hi yn y gymdeithas Gymraeg.

Pwynt y stori yw…

Mae hi wedi ymuno ’ Merched y Wawr, ac aeth hi i ryw swper rhwng-canghennau gyda nhw. Oedd hi eistedd ar fwrdd gyda phobl doedd hi ddim yn eu nabod, a chlywed taw hithau oedd pwnc trafod rhwng dwy ohonyn nhw. Yn ei fersiwn hi o’r sgwrs, aeth fel hyn:

“Pwy yw hi ‘te?”

“O, Saesnes yw hi. Wedi dysgu Cymraeg.”

Pan dwedodd hi’r stori i mi (yng nghyfarfod grwp Cyd, felly dim Cymry Cymraeg ’na i’w clywed, dim ond ni’r dysgwyr ;-) ) oedd ateb yr ail ferch yn ei bychanu yn yr un modd oedd ei gŵr yn arfer wneud. Dw i’n siwr mae’n llawer mwy tebyg oedd y ferch yn ei hedmygu, am ddysgu Cymraeg er ei bod hi’n Saesnes. Ond wrth gwrs, nid Saesnes yw hi, felly oedd clywed y gair hynny yn hala hi’n grac yn syth. Beth oedd hi’n clywed oedd dwy Gymraes Cymraeg (Cymry “go iawn”, fel ei gŵr) yn diystyried hi gan ei bod hi’n “Saesnes” (sef Cymraes “di-Gymraeg”, er nad yw hyn yn wir, bellach). Mae’n hollol bosibl wnaeth hi golli’r edmygedd yn llais yr ail ferch. Dwedodd hi oedd hyn wedi dinistrio ei hyder yn ei Chymraeg.

Enghraifft bach arall. Yn y Steddfod eleni oedd boi o’r enw Michael Harvey yn dweud storÔau bob dydd yn y Babell LÍn. StorÔau hollol wych, o bedwar ban y byd, ond wedi eu trosi i’r Gymraeg (ganddo fe), wrth reswm. Bob bore, gaeth e ei gyflwyno fel un “sy wedi dysgu’r iaith”, weithiau gyda’r atodiad “ag sy’n hollol rhugl erbyn hyn”. Unwaith ti’n clywed hynny, ti’n gwrando nid ar stori wych Gymraeg, ond ar stori wych yn y Gymraeg gan ddysgwr, chwarae teg i’r boi.

Tro nesa bod rhyw Gymro yn fy llongyfarch i am ddysgu Cymraeg mor dda, dw i’n mynd i’w longyfarch e ar ei Saesneg, neu ofyn “pryd stopiaist ti curo dy wraig di?” Dw i’n gwybod eu bod nhw’n meddwl bod hyn yn garedig – maen nhw yn garedig – ond mae’n nawddoglyd hefyd, ac mae’n helpu cadarnhau’r agwedd bod “ein hiaith ni” yn rhy anodd i’r rhan fwya o “Saeson” ei dysgu, felly chwarae teg i unrhywun sy’n ddigon dewr i drial. ‘Sai’r Cymry Cymraeg yn stopo trin y dysgwyr fel ein bod ni’n ffrÓcs, ond yn hytrach fel llathen mesur o beth sy’n hollol realistig i ddisgwyl gan bobl sy’n symud i ardal Gymraeg, falle gawn ni weld newid go iawn.

Nid “Cymro Cymraeg” ydw i, er mod i’n Gymro sy’n siarad Cymraeg, mwy na lai yn rhugl. Bob tro mae rhywun yn dweud mod i yn Gymro Cymraeg (“erbyn hyn”) dw i’n teimlo yn llai cyfforddus yn y guddwisg, ac yn fwy ymwybodol o’r blwch diwylliannol rhyngddo fi a’r person arall. Os dych chi wir moyn wneud i fi deimlo yn falch o fy hunan o ddysgu’r Gymraeg, plîs, da chi, peidiwch sôn amdano fe byth a beunydd.

Gawn ni siarad am rywbeth arall nawr?

(Wedi dweud hynny, os wyt ti’n anghytuno â fi, croeso i ti bostio yn ddi-enw yma, a defnyddio cyfeiriad e-bost ffals, os wyt ti’n poeni y bydda i’n defnyddio unrhywbeth sy’n cael ei ddweud yma yn dy erbyn ar y maes.

  1. Diolch am hyn, mae’n ddiddorol tu hwnt. Gymaint o bethau i ddweud…
    Roedd gen i dipyn o gydymdeimlad efo’r rhai oedd yn grac gyda’r bobl yn y Steddfod a oedd yn “heclo”‘r person a oedd yn methu’r Gymraeg. Does dim modd inni ddenu mwy o bobl i ddysgu’r iaith. Mae ‘nhad yn ddysgwr, ac heb fedru wella’i Gymraeg oherwydd agweddau tebyg i’r rhai uchod.
    Rwy’n teimlo hefyd dros eich trafodaeth o bobl yn bod yn “nawddoglyd” uchod – ond mae gen i deimlad fod rhai yn *gallu* bod yn or-sensitif am y peth. Mae gen i dipyn o Almaeneg, ac rwy wrth fy modd os oes rhywun yn dweud fod e’n dda, neu bod yr acen yn agos, ayyb. Y pwynt yw, nid bo fi’n meddwl fod Cymraeg yn “rhy anodd” i rai, ond for *pob* iaith yn beth anodd i’w ddysgu, os nad oes gennych chi’r nac ohoni. Ac felly, rwy wedi ‘mharlysu rhwng annog pobl drwy roi “compliment” iddyn nhw, a phobl yn meddwl bo fi’n siarad lawr iddyn nhw… Does dim ffordd hawdd mas o hyn, nad oes?

  2. Pwyntiau diddorol ac yn agos iawn at y gwir. Mae’n mhartner i’n ceisio dysgu Cymraeg ar y funud. Mae ei geirfa hi ac ati i gyd yno, does ond angen chydig bach o hyder rwan. Ond faint o’n ffrindiau Cymraeg eu hiaith wnaiff wneud yr ymdrech i gynnal sgwrs yn y Gymraeg? Nemor ddim. A dwi’n reit siwr y bydda’ rhai ohonynt y cynta’ i ddeud rhywbeth fel ‘effin sais’ dan eu gwynt. Problem? O ydy. Sut i’w ddatrys? Duw ’ wyr.

    Esiampl arall, ffrind i’n nghariad wedi’i magu gan rieni Saesneg yn Stiniog. Mae hi’n hollol rhugl yn y Gymraeg, ond nid yw hi’n meddwl fod yna groeso iddi yn Stiniog gan nifer o’r trigolion lleol. ‘Y Saesnes’ fydd hi byth.

    Be haru ni’r ‘Cymry’, sy’n cwyno am rai sydd ddim yn dysgu’r iaith, ac yna yn gwrthod derbyn y rhai sydd yn mynd i’r drafferth fel ‘Cymry Cymraeg’?

    O, a Michael Harvey? Gwych. Hollol, hollol wych, a doedd gen i DDIM syniad mai wedi dysgu oedd o.

  3. [rant arall - better out than in ys dywedir y Sais ;-) ]

    Dyddgu: ti’n iawn, mae rhai pobl yn or-sensitif am bethau fel hyn, a fel dw i wedi dweud rhywle arall, mae hynny’n wir amdana fi – mae fy mhartner llawer mwy goddefgar am hyn. A dyw e ddim fel mod i’n taflu canmoliant yn ôl yn wynebau’r bobl sy’n ddigon caredig i ddweud pethau neis i mi – dw i ddim yn hollol anwaraidd, er gwaethaf y tystiolaeth i’r gwrthwyneb ;-)

    Y peth yw, sbo, mod i ddim yn meddwl am fy hunan fel Dysgwr bellach, hoffwn i ffeddwl mod i wedi dysgu. Roedd y platiau D coch yn handi iawn yn y dechrau, ond dw i wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg am chwe mlynedd, ac mae ‘na Gymry sy’n dal i fy llongyfarch am “siarad fel Cymro Glân Gloyw” (pwy bynnag yw hwnna – perthynas i Gerallt Cymro, falle?) Ydyn nhw’n mynd lan i hyfforddwyr gyrru i ddweud pa mor dda oedd y three-point turn ‘na?

    Fel dw i wedi sôn o’r blaen, oedd un o’r pedwar person ar restr fer cystadleuaeth “Dysgwr y Flwyddyn” yn digwydd bod yn “Nick Davies” (boi o Northampton). Ers hynny, dw i wedi cael fy llongyfarch sawl gwaith gan bobl leol am “ddod mor agos i’r brig”. Wrth gwrs dyw hyn ddim yn broblem, dyw e ddim yn sarhad, dyw e ddim lot o ddim byd rili, ond mae na bwynt ble wyt ti’n moyn dweud wrth rhywun dy fod di wedi dysgu pobl sy wedi trial am Ddysgwr y Flwyddyn.

    Dyw fy Nghymraeg i ddim yn berffaith, wrth gwrs, ac yn sicr mae’n lot rhy Wlpanaidd o hyd, ond dw i’n gallu cyfrathrebu yn y Gymraeg cystal ag mae lot o Gymry Cymraeg yn gallu cyfathrebu yn Saesneg, a does neb yn eu llongyfarch nhw am eu bod nhw wedi “croesi’r bont”, heb sôn am roi’r teitl “honourary Englishman” iddyn nhw.

    Eto, mae hyn i gyd yn swnio yn lot fwy chwerw nag ydw i wir yn teimlo, yn bersonol. Dydy hyn ddim amdana i, mae am normaleiddio’r broses o gymhathu dysgwyr i’r gymdeithas, a sut ydyn ni’n meddwl am yr iaith, ei statws mewnol, ac ati. Dych chi’n gallu dychmygu unrhywun o’r cyfryngau Saesneg gofyn i fewnfudwr i’r wlad hardd honno pam maen nhw wedi mynd ati i ddysgu Saesneg, neu i longyfarch rhywun am ddysgu mor dda? Mae’n neis iawn wneud tipyn o ffws o ddysgwyr Cymraeg llwyddiannus, ond beth am wneud tipyn bach mwy o ffws bod ‘na cynlleiad ohonyn nhw? Nhw dylai fod y norm, nid y ffrîcs. Yn fy mhrofiad i, mae llai na 5% o’r bobl sy’n dechrau dosbarthiadau yn cyrraedd y pwynt lle maen nhw’n siarad Cymraeg yn rhugl. Hynny yw, 95% yn methu. Gan gofio taw dim ond canran fach iawn sy’n dechru dosbarthiadau yn y lle cyntaf, mae hynny yn wneud pobl fel fi edrych yn “sbeshial iawn” ond dyn ni ddim. Ni yw’r rhai sy’n wneud yn union beth mae bron pawb sy’n symud i Loegr yn ei wneud, sef dysgu iaith brodorol y wlad maen nhw’n symud i mewn iddi hi.

    Os ydy pobl wir moyn helpu dysgwyr, mae ‘na llawer o bethau allen nhw wneud a fydd o help ymarferol. Mynychu grwpiau Cyd, yn amlwg, (Rhestr canghennau Cyd), ac ymuno â chynllun Pontio, os oes un yn yr ardal (Aberystwyth, Caerdydd?) Wneud ymdrech i ffeindio mas pwy yn y pentre sy’n dysgu Cymraeg, ac i siarad Cymraeg bob tro â’r bobl hynny, hyd yn oed os ydy hyn o flaen pobl sy ddim yn/wedi dysgu. (Yn enwedig os ydy hyn o flaen pobl sy ddim yn/wedi dysgu.) Peidio, byth, siarad Saesneg â rhywun sy’n trial siarad Cymraeg â ti, hyd yn oed os ydyn nhwthau’n troi i Saesneg ambell waith (Yn enwedig os ydyn nhw…)

  4. Cytuno ‘da lot ti’n dweud Nic. Mae problem i’w gael gyda’r Cymry Cymraeg anymwybodol sy’n dal i feddwl ei fod yn rude i siarad Cymraeg neu fod rhyw hang-yp da nhw hefyd.

    Dwi’n gynyddol droi’r genedlaetholwr sydd ddim yn credu bod cenedl Gymreig yn bodoli. I mi yr iaith sy’n bwysig a dyliem ni son am siaradwyr Cymraeg (beth bynnag eu cefndir) yn hytrach na defnyddio’r term Cymry Cymraeg.

    I orffen (er gallwn sgwennu am byth!) Dau dip i ‘ddysgwyr’:
    1. Os cewch chi’r cwestiwn ‘wyt ti’n siarad Cymraeg?’ yr ateb yw ‘ydw’. Peidiwch rhoi esgus i’r siaradwyr Cymraeg gael amheuaeth, a peidiwch amau’ch hun.

    2.Os nad ydych yn gwybod y gair Cymraeg jyst dwedwch y gair saesneg , cael y gystrawen a’r arfer o siarad yw’r peth pwysig.

    Os wneith dysgwyr y ddau beth uchod, fydd neb yn eu galw’n ddysgwr, fydda nhw’n credu eu bod chi’n dod o Gaerdydd neu Gwent neu rhywle y tu hwnt i’w milltir sgwar cul hwy! ;-) – sneb callach!

    - fel mab i ddysgwr, ‘diolch byth am y dysgwyr’ – mae’r Cymry Cymraeg mor blincin useless rhai weithiau!

    Sion

  5. Diolch Sion, ti yn llygad dy le. Y dyddiau hyn, wrth ddechrau cwrs Cymraeg newydd dw i’n dweud wrth y dysgwyr taw con-man ydw i, gyda blynyddoedd o brofiad o dwyllo Cymry Cymraeg i mewn i feddwl mod i’n gallu siarad Cymraeg, a taw dyna’r unig peth dw i’n gallu dysgu iddyn nhw, y dysgwyr. “Sut i dwyllo Cymry nes iddyn nhw anghofio troi i Saesneg ar dy gyfer.” ;-)

  6. Hynod ddiddorol – diolch am rannu hynna, Nic.

    Dw i wedi cael y profiad o ffrindiau agos iawn o fewn Cymuned yn fy nghyflwyno fi i bobl fel ‘Aran, ac mae o wedi dysgu Cymraeg, ‘wsti!’

    Dw i’n gwybod mai rhyw fath o ‘fyddet ti byth yn coelio, na fyddet ti?!’ (sydd yn wir os ydyn nhw’n fyddar neu rywbeth…;-)), ond mae o’n mynd o dan ‘nghroen i…

    Dio’m ‘di digwydd am dro rwan, ar Ùl i mi sÙn wrth ambell un, ac mae nifer wedi deud wrtha i na ddylwn i ddim yn ystyried fy hun yn ddysgwr bellach.

    Wrth gwrs, mae terminoleg yn rhan o’r broblem – mae’r ymadrodd ‘Cymry Cymraeg’ yn reit annaturiol i gychwyn – lle mae’r Saeson Saesneg? Ac mae ‘na gulni ar y ddwy ochr – mae rhai dysgwyr (y llai lleiaf profiadol gan amlaf, ond nid bob tro) yn defnyddio’r iaith fel rhywbeth sydd yn eu galluogi nhw i ddeud bod nhw’n deall pob dim am sut mae rhedeg Cymru…

    Parch, yn y pen draw, ydy’r peth. Dylai ddysgwyr parchu Cymry iaith gyntaf yn ddigon i ddeud os ydy rhwybeth ddim yn eu taro nhw fel teyrnged, a dylai Cymry iaith gyntaf barchu ni’r ailiaith yn ddigon i beidio ’’n prolio os mae dyna beth dan ni isio.

    Wyt ti erioed wedi cwympo’n Ùl ar fod yn ‘ddysgwr, wedi’r cyfan’ fel tacteg mewn dadl neu ffrae go-iawn, Nic? Cywilydd arnaf, ond dw i wedi…!…;-)

    Un peth bach arall – Dyddgu, os wyt ti’n sÙn am ddarlith y dynes Plaid Cymru ‘na, doedd hi ddim yn ddi-Gymraeg, roedd hi’n siarad Cymraeg fel ail iaith yn hen ddigon da i fod wedi trafod y darlith i gyd ynddi. A wnaeth hi droi iaith (o beth dw i wedi clywed) gan ddeud ‘A rwan, mae gen i rywbeth pwysig i’w ddeud, felly siaradaf yn y Saesneg…

    am gamgymeriad naÔf!