Roedd Bill Hicks yn iawn

Mae’r broses o roi tag pris ar bopeth yn y byd wedi cymryd cam newydd ymalen gyda dechreuad y Gemau Olympaidd yn Athen, yn ôl y stori hon ar BoingBoing:

Sweltering sports fans who seek refuge from the soaring temperatures with a soft drink other than one made by Coca-Cola will be told to leave the banned refreshment at the gates or be shut out. High on the list of blacklisted beverages is Pepsi, but even the wrong bottle of water could land spectators in trouble.

Wythnos o’r blaen oedd rhaid i mi cerdded mas o’r ffilm newydd Thunderbirds pan sylweddolais i bod FAB 1, car Lêdi Penelope, wedi newid o fod yn Rolls Royce, i fod yn Ford, er mwyn hybu’r cwmni hwnna a oedd wedi rhoi arian tuag at wneud y ffilm rhy-gachlyd-i-blant-hyd-yn-oed. Dw i’n hanner meddwl am fynd i weld Catwoman heno (Halle Berry mewn catsuit; pa mor wael allai fe fod?) ond dw i’n ofni bydd hynny achos arall o dalu £4 i weld dwy awr o hysbysebion.

Diolch i Macsen. Lledu’r llonydd yw cyfrifoldeb cyntaf bob newyddiadurwr, sbo.

4 thoughts on “Roedd Bill Hicks yn iawn

  1. Job newyddiadurwr yw rhybuddio ei ddarllenwyr hefyd; mae Catwoman yn gachu o’r radd flaenaf. Mae yna lot gormod o ffilmiau da yn y byd i ti orfod gwylio rhai gwael.

  2. Lwcus i mi benderfynnu peidio mynd ‘te. Cytunaf am y “gormod o ffilmiau da” – ond mae angen mynd i’r sinema arna i weithiau. Rhaid aros tan wythnos nesa, a gwindaith i Gaerdydd, i mi weld rhywbeth gwerthchweil. Tybed a ydy Drych Tarkovsky yn y brifddinas?

  3. Blue Gate Crossing neu brint newydd o Chinatown yn Chapter. Y cynta fod yn dda, a’r ail, wel, clasur.

    Paid boddran ‘da Gozu rili…a ma gweddill y sdwff sy allan yn UGC braidd yn giach yn ol bob son. Ella fod Afterlife werth golwg i weld ffilm o’r Alban.