Mae albym newydd y Polyphonic Spree newydd dodd mas ac mae cwpl o draciau ar gael i’w gwrando arnyn nhw ar eu gwefan. Ond os dydy hynny ddim yn digon i ti, cei di helpu’r band ffeindio’r gweddill mewn gêm bach hyfryd.
trwy Veer
Mae albym newydd y Polyphonic Spree newydd dodd mas ac mae cwpl o draciau ar gael i’w gwrando arnyn nhw ar eu gwefan. Ond os dydy hynny ddim yn digon i ti, cei di helpu’r band ffeindio’r gweddill mewn gêm bach hyfryd.
trwy Veer
Sawl gwaith wyt ti wedi clywed rhywun yn dweud (yn Gymraeg ac yn Saesneg) bod yr iaith Gymraeg yn anodd i ddysgu? Mae ’na Gymry Cymraeg sy’n hoffi’r syniad bod iaith y nefoedd yn rhy anodd i Saeson ddysgu, ac mae ’na hen ddigon o bobl di-Gymraeg sy’n barod i’w credu, gan fod hyn yn eu gadael nhw oddi ar y bachyn.
Continue reading
Mwy o’r Fôr-forwyn: cofnod ar borblemau cyfieithu meddalwedd:
In a recent talk I gave I said that in software localization the easy things are difficult to figure out and the difficult things are easy to figure out. [..] Now comes a single string such as ‘All’ and you have to wake up from your drowsy state. All can be translated in Portuguese as Tudo, Todos, Todas. Now what happens when this same little string, this little bugger is going to pop up under Doctors>All and Clinics>All and Hospitals>All ? A hell of a nightmare, that’s what. Because you are supposed to say MÈdicos>Todos, ClÌnicas>Todas and Hospitais>Todos. You can go even as far as trying the compromise solution Tudo. But MÈdicos>Tudo does quite cut it, because doctors are people and Tudo refers to objects.
Yr enghraifft clasurol yn achos y Gymraeg yw’r geiriau Saesneg Yes a No wrth gwrs. Yn aml iawn mae’r rhain yn cael eu cyfieithu fel Ie a Nage, neu rhywbeth arall yr un mor amherthnasol. Ych y fi.
The Tool Kit – cylchlythyr dwywaith yr wythnos, ar gyfer cyfieithwyr sy eisiau wneud y gorau o’w cyfrifiaduron.
trwy’r Fôr-forwyn
Mae gwefan newydd gan y cylchgrawn Taliesin, sy’n cynnwys ambell i erthygl, fel y cyfweliad â Rocet oedd yn yr rhifyn diwetha (drueni am y Javasgript ffansi, sy’n sgrolio’r cynnwys yn arafach nag ydw i’n darllen – beth sy’n bod â HTML plein?).
via bratiaith
Narcotic Plants and Stimulants of the Ancient Americans – erthygl go hir sy’n dyddio o 1916. Gyda lluniau.
Yn blentynaidd digon, ffeindiais i hon gan Gwglo’r gair cachu. Enw personol yn Japan, mae’n debyg, ond llawer mwy diddorol i ddanganfod taw huaca-cachu yw’r enw brodorol ym Mheriw am Afal y Diafol, planhigyn sy wedi dechrau tyfu yn ein gardd ni, heb i ni ofyn. (yng Ngogledd America, maent yn ei alw Jimsonweed ac mae’n cael ei ddefnyddio fel cyffur rhad, er bod hi’n beryglus iawn.
Ddim wedi clywed ohono cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru fach.
Chwiliwch Google: wastraffu. Dyna rhywbeth i dwymo’r galon. Hyd yn oed ar ôl cymryd dau fis off, Morfablog yw’r canlyniad cyntaf am y gair pwysig hwn.
Indiscreet (Stanley Donen, 1958). Un o’r ffilmiau ’na ti’n ychwanegu i dy restr Webflix heb feddwl amdano eto, ac wedyn cael syrpreis bach pan mae’n cyrraedd. Cary Grant ac Ingrid Bergman mewn rom-com ysgafn.
zmmquality.org – gwefan am lyfr Robert Pirsig, Zen and the Art of Motorcycle Maintenance. Darllenais i fe yn y coleg, fel ti’n fod i, ond sa i wedi ail-ddarllen ers hynny. Bwytodd ci Sebastian fy nghopi.
Paid â cholli’r lluniau o’r trip gwreiddiol cymerodd Pirsig a’i fab.
Edefyn Metafilter am flogiau MP3. Dw i wedi blogio hyn yn barod, draw ar y maes ond jyst rhag ofn…
Ond dyma fi’n ôl.
Roedd erthygl gan Siôn Jobbins yn rhifyn diwethaf y cylchgrawn Cambria a oedd yn dweud pa mor wych yw’r blog ’ma, felly rhaid i mi dynnu fy mys mas.
A chan bod hi’n teimlo fel mis Hydref y dyddiau ’ma…
Rope (Alfred Hitchcock, 1948). Ai John Dall a Farley Granger yw’r cwpl mwya ffyced yp yn hanes sinema Hollywood?
Marnie (Alfred Hitchcock, 1964). Ai Tippi Hedren a Sean Connery yw’r cwpl mwya ffyced yp yn hanes sinema Hollywood?
Rear Window (Alfred Hitchcock, 1954). Yr un cyntaf o’r sawl ffilm Hitch sydd ar fy rhestr Webflix.
Pollyanna (David Swift, 1960).
Y ffilm berffaith? Hoff ffilm fy nghariad, ta beth, felly prynais i’r DVD iddi hi. Ond mae’n ffilm mae’n anodd iawn i beidio’i lico, a pherfformiaid gwych gan Hayley Mills, Karl Malden a gweddill y cast.
Open Range (Kevin Costner, 2003). DVD o’r garej.
In the Heat of the Night (Norman Jewison, 1967). Ar y telibocs neithiwr.
The Peacemaker (Mimi Leder, 1997). Ar y teledu. Crap.