Darlithoedd fel MP3

Mae Canolfan Adnoddau Dysgu (sy’n rhan o Brifysgol Minnesota) yn darparu cyfresau o ddarlithoedd a’u rhoi ar y we fel ffeiliau MP3. Unwaith eto, bydd rhaid i mi aros i fand llydan gyrraedd, ond dw i’n edrych ymlaen at dilyn cyrsiau ar Lenyddiaeth Amlddiwylliant America a Mawr a Marwolaeth yng Nghymdeithas Fodern.

Eto i gyd, byddai’n wych ’sai mwy o stwff Cymraeg ar gael yn y ffurf yma.

Posted in Heb gategori | Tagged

Prosiect Daedalus

Prosiect Daedalus – astudiaethau ynglŷn â seicoleg pobl sy’n treulio eu hamser sbâr mewn bydoedd dychmygol MMORPG. Dw i erioed wedi mynd yn bell gyda gemau o’r math, gan fy mod i’n rhy misanthrophic ar y cyfan (yn enwedig tuag at pobl ifanc America, sy’n tueddu bod yn y mwyafrif, yn fy mhrofiad i), ond mae rhywbeth am y syniad sy’n apelio o hyd. ‘Sai modd i chwarae gêm fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, bydda i ’na.

Mae Terranova yn weflog am MMORPG a bydoedd dychmygol.

Mae trafodaeth difyr ar maes-e am bersonae ar y maes ac yn y cigfyd, hefyd, ond dw i ddim yn siwr pa mor bell all rhywun gwthio’r cymhariaeth rhwng gemau RPG a’n profiad o gyfrannu at gyunedau ar-lein.

Posted in Heb gategori | Tagged

Amser talu nôl

Cronfa ddata pobl sy ddim yn gadael tip da. Llawn storiau bach doniol/trist fel hyn:

Tipper’s Name: my ex-husband
Where it happened: all over Southern CA
What happened:
To any female that’s ever had the misfortune to wait on him: I’m sorry that he flirted with you so outrageously and then had the nerve to ask you to discount the meal with a “good looks discount”. I was too meek to stand up and tell him what a complete idiot he was. Yes, I was every bit as embarrassed and uncomfortable as you seemed to be.

By the way, yes, I did finally smack him upside the head one day for staring at your ass or your breasts (or both). I also gave him shit about loosening the tops of the salt and pepper shakers. (And tightened them back up while he was in the restroom.)

Since we’re no longer together, I can’t say if his restaurant behavior has improved any, but I hope it has.

Free at last! Free at last! Thank GOD Almighty, I’m free at last!

Lwcus nad yw’r pobl sy’n cyfrannu i’r wefan hon wedi gweithio yng Nghymru, lle bydden nhw’n lwcus i gael unrhyw dip o gwbl, a chael triniaeth anhygoel gan y cwsmeriad. Y llynedd, o’n i’n ddigon anlwcus i fod ar fwrdd nesa i Gymro a wnaeth hala ei hufen iâ yn ôl am fod yn “rhy oer”. Boglir y meddwl.

OpenOffice yn y Gymraeg

Mae Meddal wedi rhyddhau fersiwn Gymraeg o’r meddalwedd agored OpenOffice. Mae OpenOffice yn wneud popeth mae Microsoft Office yn wneud, ond dyw e ddim yn costio un dimau goch. (Gweler y cofnod Microsoft, y Gymraeg a’r “byrgers am ddim” am fwy o fanylion.)

Dyma’r stori ar y Register. Am wn i, does dim sôn am hyn o gwbl yn y cynfryngau Cymraeg, sy’n dangos pa mor fawr yw’r angen am Y Byd, y darpar bapur dyddiol CYmraeg a fydd nid dim ond yn sgwennu am ddatblygiadau holl bwysig fel hyn, ond yn defnyddio nhw. Mae’n ddiddorol iawn cymharu’r triniaeth mae’r stori hon yn cael gan y wasg Gymraeg, a’r sylw a roddodd i’r stori am fersiwn Gymraeg Microsoft Office. ‘Sai rhyw fodd i Rhodri Williams cymryd y clod am OpenOffice Cymraeg, falle byddai’r BBC yn talu mwy o sylw?

Aran, paid!

Gan fod Aran ar gwrs Llydaweg ar hyn o bryd, na ddylai fe fod yma, darllen y Gymraeg, dylai fe fod ar wefan Diwan Breizh, darllen y Llydaweg.

Ond gan mod i’n di-Lydaweg, a di-Ffrangeg i bob pwrpas, dw i ddim yngallu gweld pa mor ddefnyddiol yw’r wefan ’na i ddysgwyr. Wyt ti wedi ffeindio gwefannau Llydaweg defnyddiol, Aran?

Sôn am ein hannwyl chwaer-iaith, mae ysgol Llydaweg ar agor ym Mharis.

Posted in Heb gategori | Tagged