Mis yn ôl, pan o’n i’n meddwl na fyddai’n bosib i ni fynd i’r Steddfod tan dydd Sul, wnaethon ni drefnu gyda ffrind i fynd i weld Birli Lagrne, “gitarydd i’r gitarwyr”, yn Nhaliesin, Abertawe. Bellach, mae’n debyg y gallen ni fod wedi mynd i’r Steddfod heddi (mae’r bobl sy’n edrych ar ôl Maes y Morfa wedi cyrraedd ddiwrnod yn gynnar), a dydy’r ffrind yn Abertawe ddim yn gallu dod i’r cyngerdd. Felly dyn ni’n mynd i gyngerdd dydy’r ddau ohonon ni ddim â fawr o ddiddordeb ynddo, ac yn colli nos Sadwrn gyntaf y Steddfod, gan ein bod ni’n Gardis da sy ddim moyn gwastraffu’r tocynnau dyn ni wedi talu amdanyn nhw’n barod.
Beth fyddech chi’n wneud?
Ta beth, dim lot o gofnodion o hyn ymlaen, a fydda i ddim yn sieco ebost am wythnos, ond os dych chi am gysylltu â fi, gadael gair yma neu hala neges sydyn ar maes-e. Bydda i’n mewngofnodi i’r maes, o’r Maes Gwreiddiol, bob dydd.
Ydy hi’n amser i ni ddechrau galw hwwnna yn Faes A?
Newydd glywed bod y gig yn Abertawe wedi’i ganslo! Hwrê! Steddfod amdani!
Oi! Dafis! Fyddai lawr yn Nghasnewydd o Iau tan Sadwrn. Gweld chi fana!
Hwyl
Dyna beth dwedaist ti y llynedd…