Gwefan y BBC i ddysgwyr

BBC Cymru’r Byd, i ddysgwyr. Mae hyn yn wych – fersiwn cyflawn o wefan BBC Cymru’r Byd, gyda “is-teitlau” i ddysgwyr. Mae ’na sôn y bydd modd dewis safon cyn bo hir, h.y. os wyt ti’n ddyswr profiadol, dim ond y “geiriau annodd” bydd â chyfieithiadau.

Mae sôn hefyd, am wneud y gwasanaeth yma ar gael i wefannau bychain eraill, ond mae hynny yn y dyfodol o hyd, fel dw i’n deall.