Yn dilyn y protest yn erbyn polisi wrth-Gymraeg Radio Sir Gâr mae Steffan Cravos (AKA MC Sleifar) wedi colli’i slot ar Radio GTFM. Mae’n debyg bod Keri Jones, pennaeth Radio Sir Gâr, wedi bod yn fishi ffonio o gwmpas cyflogwyr y protestwyr a gafodd eu harestio diwrnod o’r blaen, gan drial codi stŵr.
Tacteg diddorol.
Unrhywun â rhestr o’r cwmnïau sy’n hysbysebu ar Radio Sir Gâr?
Mae Steffan wedi postio’r neges cafodd e gan reolwr GTFM ar maes-e.
Dydy Steffan Cravos ddim wedi’i siarsio ag unrhyw drosedd, am wn i. Felly beth yw “safbwynt” GTFM yma?